Colofnwyr

RSS Icon
10 Chwefror 2016
Gan LYN EBENEZER

Gwahardd Delilah? Ble mae tynnu’r lein?

NID cynt y cychwynnodd Pencampwriaeth Rygbi’r Chwe Gwlad nag y cododd yr hen Delilah ei phen gwaedlyd unwaith eto.

Y tro hwn, yr AS Llafur dros y Rhondda, Chris Bryant fu’n galw am wahardd y gân o’r terasau rygbi. Yn wir, teimlai fod y mater mor bwysig fel iddo’i godi ar lawr y Tŷ.

Dafydd Iwan wnaeth gychwyn y ddadl flwyddyn neu ddwy yn ôl. A medraf ddeall craidd y ddadl honno. Ni ddylid canu, yn gyhoeddus, gân sy’n gwneud arwr, i raddau, o ddyn a lofruddiodd fenyw ond sydd nawr wedi difaru. 

Beth am gefndir y gân i gychwyn. Fe’i cyfansoddwyd gan Barry Mason a Les Reed gan ennill Gwobr Ivor Novello am gân orau’r flwyddyn yn 1968. Dringodd i rif dau gan gyrraedd rhif un yn siartiau tair gwlad, yn cynnwys Iwerddon. Yn ogystal â chael ei chanu mewn gemau rygbi gan gefnogwyr Cymru, dyma hefyd gân swyddogol tîm pêl-droed Stoke City.

Sut ddaeth hi yn anthem rygbi Gymreig? Wel, i ddechrau, fe’i canwyd ar lain Stadiwm Wembley gan Tom Jones cyn i Gymru guro’r Saeson yn 1999, buddugoliaeth hanesyddol. Ac fe lynodd. Ar ben hynny roedd Max Boyce eisoes wedi rhoi hwb ymlaen i’r gân wedi iddo ganu, yn ei glasur ‘Hymns and Arias’,

‘We sang Cwm Rhondda and Delilah,
Damn, they sounded both the same.’

Erbyn hyn mae Delilah wedi ennill ei lle fel un o brif anthemau cefnogwyr rygbi Cymru.
Un rheswm dros ei phoblogrwydd yw’r alwad am iddi gael ei gwahardd. Dyna’r natur ddynol. Mynnwch wahardd rhywbeth, ac fe aiff pobl i’r cyfeiriad arall.

Ydi, mae hi’n gân sy’n sôn am lofrudd menyw, ac sy’n ceisio maddeuant.
Gyda llaw, does yna  ddim unrhyw awgrym yn y gân mai putain oedd Delilah, fel yr honnodd Bryant. Hyd yn oed petai hi’n butain, ydi hynny’n ei gwneud hi’n waeth nag unrhyw fenyw arall? 

Y perygl mewn achosion fel hyn yw penderfynu ble mae tynnu’r lein. Gwaharddwch Delilah, a beth gaiff ei gwahardd nesaf?

Mae menywod anffyddlon wedi bod yn destun caneuon ers cyn cof. A hyd yn oed petai’r hen Delilah yn butain, a ddylid gwahardd ‘Dicey Riley’ o dafarndai Dulyn a ‘Maggie May’ o dafarndai Lerpwl?

Peth peryglus yw sensoriaeth. Mabwysiadodd yr hen Hitler bolisi o wahardd unrhyw lyfrau a oedd yn gwrthwynebu ffasgaeth. Yna trodd y gwaharddiad yn llosgi llyfrau. Ac yna’n llosgi pobol.

Heddiw mae myfyrwyr yn gwahardd papurau tabloid o’u campws. Cam bach, ie, ond y cam cyntaf tuag at dotalitariaeth. Mae Hitler siŵr o fod yn gwenu.

Ac ystyriwch hyn. O wahardd Delilah, ble mae hyn oll yn mynd i arwain? Gwahardd Gŵyr Harlech am ei bod hi’n hybu rhyfela? Yn wir, onid yw ein hanthem ni’n mawrygu ein ‘gwrol ryfelwyr?’ Onid yw Flower of Scotland yn dathlu brwydr  Bannockburn, lle lladdwyd 15,000 o bobl? Onid yw Cân y Milwr, anthem swyddogol Iwerddon ac anthem y cae rygbi tan yn ddiweddar yn clodfori rhyfelwyr? 

A beth am anthem y Sais? Mae un pennill yn annog,

‘Rebellious Scots to crush.’

Ond wrth ganu caneuon cyn ac yn ystod gêm, pwy sy’n meddwl am y geiriau? Faint o’n cefnogwyr, heb sôn am chwaraewyr, sy’n gwybod geiriau’n hanthem, heb sôn am eu hystyried?

Hyd yn oed wedyn, o wybod y geiriau, chwedl Gwenallt, faint sy’n deall eu harwyddocâd? 

Ac ystyriwch hyn. Os yw gwrando ar Delilah yn annog dyn i fynd ati i ladd menyw, onid yw yr un mor debygol y byddai canu ‘I bob un sy’n ffyddlon’ mewn bar ar nos Sadwrn yn annog yr yfwyr i fynd i gapel neu eglwys fore trannoeth? Sgersli bilîf!

Yn anffodus does dim angen gwrando ar Delilah i arwain at drais yn erbyn menywod. 

Yn y cyfamser, cyd-ganwn bawb yn un cor,

‘Gwae, gwae, gwae, Delilah!’

Rhannu |