Colofnwyr
Mae’n well gen i ddweud fy meddwl yn onest na dweud un peth a dweud rhywbeth gwahanol yn eich cefn
WRTH drafod gyda chyfeillion yn ystod y misoedd diwethaf, daeth gwirionedd trist sefyllfa newyddiaduriaeth heriol yn y Gymraeg yn hollol amlwg. Does fawr neb yn fodlon herio’r drefn neu gicio yn erbyn y tresi.
Un o’r eithriadau clodwiw yw Gwilym Owen ac mae’n rhaid ychwanegu fy nghyd-golofnydd o Bontrhydfendigaid yn y criw dethol hefyd, Ac mae chwilota manwl Karen Owen yn y papur hwn yn enghraifft o’r hen ddull o chwilota am y gwirionedd heb fod ofn sathru traed. Ond eithriadau prin ydynt. Does ond angen ychwanegu’r cylchgrawn ‘Lol’ a dyna ni.
Ofnaf fod newyddiaduriaeth heriol yn farw gorn yn y Gymraeg. Does gennych mo’r annibyniaeth barn ar S4C gan mai’r BBC sy’n rheoli ac yn cynhyrchu’r deunydd newyddiadurol. Ac fe wyddwn am safbwynt y BBC yn iawn. Y mae’r enw yn dweud y cwbl. Yn ystod yr uffarendwm am annibyniaeth a gynhaliwyd yn yr Alban yn 2013, profwyd heb amheuaeth fod y sefydliad hwn yn stumio a llurgunio ac yn blaenoriaethu ‘newyddion’ er mwyn yr ochr ‘Na’ ac i gadw’r ‘wlad ‘ yn un.
Rheswm arall dros y diymadferthedd hwn yw ein taeogrwydd. Wedi cannoedd o flynyddoedd o fyw dan iau Lloegr fe gollwyd yr ewyllys i gicio yn erbyn y tresi. Nid trwy ormes yn unig ond drwy gynnig breintiau i’r rhai a fyddai’n fodlon cydymffurfio. Felly, fe welsom resi o’n ‘Cymry da’, (beth bynnag y mae hynny yn ei olygu,) yn derbyn OBE, MBE, CBE a ‘Syr’, gyda’r llythrennau BE yn sefyll am ‘British Empire’, sefydliad sydd, rwy’n falch o gael dweud, wedi marw allan i raddau helaeth. Ond mae yna waddol a Chymru’n un o’r trefedigaethau olaf. Dyna, felly, pam y cyflwynir yr anrhydeddau honedig hyn – i gadarnhau fod y derbynnydd yn Brydeiniwr bach ufudd.
Yn ddiweddar, gwelwyd ffigurau allweddol yn ein mudiadau Cymreig yn cael eu hudo i’r rhengoedd. Felly, cafwyd staen Prydeindod ar fudiadau megis yr Urdd a Merched y Wawr, mudiadau hollol Gymraeg sydd â chyfrifoldeb am eu bodolaeth yn herio mudiadau Seisnig/Prydeinig megis y WI . Y tro nesaf y bydd unrhyw swyddog o’r mudiadau hyn (a rhai eraill) yn ystyried derbyn un o’r ‘anrhydeddau’ hyn, dylent feddwl o ddifrif pam fod y mudiad y maent yn aelod ohono yn bodoli.
Dull arall o dawelu gwrthwynebiad i’r drefn yw drwy gynnig swyddi breision ym myd y cyfryngau, addysg, llywodraeth leol, y gwasanaeth sifil a’r Cynulliad. Wrth gael cyflog mawr a swydd bwysig yr ydych yn dod yn rhan o’r sefydliad ac felly’n llai tebygol o wrthwynebu’r drefn. Y cam nesaf yw ymuno â sefydliadau megis y Rotari a’r Seiri Rhyddion a dyna chi wedi eich llyncu’n llwyr gan y drefn. Taw fydd pia hi wedyn.
Cefais fy magu mewn cymdeithas chwarelyddol lle y byddai pobl yn dweud eu dweud. Gwelaf wahaniaeth mawr rhwng y gymdeithas y cefais fy magu ynddi a’r gymdeithas yr wyf yn byw ynddi’n awr ym Mhorthmadog.
Pan ddywedwch eich dweud yn hollol agored, yr ydych yn pechu am na all y trigolion ei dderbyn. Mae’n well gen i ddweud fy meddwl yn onest na dweud un peth a dweud rhywbeth gwahanol yn eich cefn. Ofnaf fod diymadferthedd y wasg Gymreig yn magu’r agwedd hyn yn y boblogaeth. Os na wnawn ni newid yn fuan, fydd yna ddim gwasg Gymreig gwerth sôn amdani i gynnal annibyniaeth meddwl. A dyna’r goncwest yn gyfan.