Colofnwyr
Lyn Ebenezer - rhowch i Mathias ryw reswm bach dros wenu!
MAE hi nôl ar ei gorau/gwaethaf. Dewiswch chi. Mae hi fel Bovril neu laeth enwyn, at flas rhai, yn wermod i eraill. Am bwy dwi’n sôn? Wel, am Vera, a ddychwelodd nos Sul i’n gwylltio/plesio.
Vera yw DCI Vera Stanhope o Heddlu Northumberland & City Police, creadigaeth Ann Cleeves. Disgrifiwyd y prif gymeriad gan un colofnydd fel menyw sydd â gallu paranormal i gythruddo pawb sydd o’i hamgylch. “Nid yn unig mae hi’n mynd ar nerfau pobol,” meddai Christopher Stevens, ‘mae hi’n disgyn ac yn clwydo fel colomen mewn welingtons a chôt law anniben.’
Mae Vera, meddai, yn gwneud i Inspector Morse ymddangos yn gyfeillgar a gwisg a gwedd Columbo i edrych yn dderbyniol. Byrdwn y colofnydd yw bod llwyddiant y gyfres yn dibynnu ar eich hoffter neu’ch casineb tuag at y prif gymeriad, a bortreadir yn gampus gan Brenda Blethyn.
Fy hun, rwy’n hoff o’r gyfres a’r cymeriad. Ond mae’n gwneud i mi feddwl ar yr un pryd pam nad yw ditectifs y cyfnod hwn yn gymeriadau normal? Rhaid iddynt fod â rhyw hynodrwydd yn perthyn iddynt, rhywbeth sy’n eu gosod ar wahân i bobol normal.
Cymerwch y gyfres gefn-wrth-gefn Y Gwyll/ Hinterland. Dyma ni, wedi gweld naw pennod bellach mewn dwy gyfres. A hyd yma dydi ni ddim wedi gweld DCI Tom Mathias hyd yn oed yn torri gwên, heb sôn am chwerthin. Mae’n dod yn llawer agosach at ofni torri gwynt. Oes arno ddiffyg traul? Rhowch iddo becyn o Rennies, er mwyn popeth.
Treuliais hanner canrif fel newyddiadurwr, llawer o’r gwaith yn ymwneud â chadw cysylltiad clos â’r heddlu, o’r swyddog desg i’r DCI. Yn ystod y cyfnod welais i neb tebyg i Mathias. Fe gymer ymdrech iddo siarad o gwbwl. Mae’n byw mewn man anghysbell mewn carafán. Mae Vera’n byw mewn man anghysbell, ond o leiaf mae hi’n byw mewn tŷ. A beth am ymddangosiad Mathias? Mae’n edrych fel petai wedi ei lusgo drwy un o’r miloedd o lwyni eithin sy’n britho tirlun y gyfres. Yn wir, mae mor aflêr â … wel, Vera.
Pan gychwynnodd Y Gwyll, fe’i croesewais, er gwaetha’r ffaith amlwg mai dynwarediad oedd y cyfan o Nordic Noir. Erbyn hyn aethpwyd â’r dynwarediad i eithafion. Bellach mae angen tortsh i wylio’r ddrama. Ydi Swyddfa Heddlu wedi anghofio talu’r bil trydan, ac wedi ei datgysylltu? Mae hyd yn oed y lle hwnnw fel y fagddu. Rwy wedi clywed heddwas yn cael ei gyhuddo o fod â dim cliw. Yma mae’n rhy dywyll i neb weld unrhyw gliw.
Fel Vera, mae’r Gwyll yn ceisio portreadu’r tirlun yn atmosfferig. Ond tra bod Vera yn portreadu cefn gwlad Northumberland fel y mae, yr hyn a gawn yn Y Gwyll yw hen fythynnod wedi hen fynd a’u pen iddynt, hen weithfeydd mwyn plwm diddiwedd, corsydd diflas a wynebau diflasach. A’r cyfan mor dwyll â bol buwch. Mae’r stori bellach yn dod yn ail i’r awyrgylch.
All neb yn y byd fod mor ddiflas â Tom Mathias. Rhaid gen i mai ei ail enw yw Angst. Enw da, Tom Angst Mathias. Hoffwn yn fawr ei weld yng nghwmni DCI go iawn fel y diweddar Pat Molloy. Byddai hwnnw wedi neidio drosto a llyncu dau beint o Ginis cyn i Mathias orffen syllu’n fyfyriol tua’r gorwel. Nid beio’r actio ydw i. Na, mae’r actio drwyddi draw yn plesio. Ond pam mai dwyster yw’r prif fynegiant wynebol? Yn wir, yr unig fynegiant wynebol.
Ond os creu ditectif, er mwyn popeth crëwch un o gig a gwaed. Dyna wnaeth Taggart mor llwyddiannus. Dyna wnaeth cyfres Albanaidd arall, sef Rebus mor llwyddiannus. Ac yn awr, cyfres Albanaidd arall fydd yn mynd â’m bryd sef Shetland. Unwaith eto, Ann Cleeve yw’r awdur. Ac mae Douglas Hensal yn portreadu DI Jimmy Perez yn feistrolgar.
Bwriad Shetland, fel Y Gwyll a Vera yw cynnwys y tirlun fel rhyw gymeriad ychwanegol ac anhepgor. Mae Shetland yn gwneud hynny i’r eithaf. Cawn y tirlun yn ei holl ogoniant ac ar ei fwyaf bygythiol. Gwnâi Taggart gyda Glasgow a Rebus gyda Chaeredin yr un peth.
Ymron chwarter canrif yn ôl bellach gwahoddwyd Sion Eirian a minnau i greu a sgriptio ffilm a fyddai’n rhagflaenydd i gyfresi teledu, sef Heliwr/A Mind to Kill. Fel Y Gwyll, Aberystwyth oedd y canolbwynt. Yn dilyn y ffilm chafodd Sion a minnau ddim llais nac unrhyw ran yn y cyfresi. Ffermiwyd y sgriptiau allan i Saeson. Symudwyd y ditectif, druan, ledled Cymru, a hynny’n amlach na gweinidog gyda’r hen gorff.
Mae cyfres newydd o’r Gwyll ar waith. Er mwyn popeth rhowch i Mathias ryw reswm bach dros wenu. A chofiwch mai yn Sir Aberteifi ydych chi, nid gyda Wallander yn Ystad. Ond gochelwch rhag gwahodd Mathias i gyflwyno Noson Lawen.