Colofnwyr

RSS Icon
01 Chwefror 2016
Gan ARTHUR THOMAS

Wali Cefn Rhydd - Cwsg yn dawel yr hen fêt

Y TRO olaf i mi ei weld oedd yn angladd Nerys, gwraig fy nghefnder, merch annwyl a phoblogaidd a fu’n athrawes gampus ac yn gefnogwraig frwd i ddawnsio gwerin yn Nyffryn Conwy. Wrth gofio amdani a thrafod pethau eraill, wyddwn i ddim y byddai yntau wedi marw o fewn yr wythnos, a hynny’n frawychus o sydyn.
Ffôn gan gyfaill un bore rai dyddiau wedi’r angladd a dorrodd y newydd trist fod Wali wedi marw.

Roeddwn yn adnabod  Wali Cefn Rhydd, neu Wali Capel Garmon ers y pumdegau. Yr oedd yn hŷn na fi ond deuthum i’w adnabod gyntaf ym mhartïon Nadolig enwog (wel ym mhen uchaf Dyffryn Conwy, beth bynnag) yr anhygoel Maggie Pengwern, a ddaeth yn adnabyddus drwy Gymru wrth ganu penillion gyda’i brawd yn y ddeuawd Ifan a Maggie yn y pedwardegau a’r pumdegau.

Yr oedd yn cadw gwesty Pengwern ar yr A5 rhwng Betws y Coed a throfa Penmachno. 
Byddai ‘Anti Mag’ yn cynnal parti Nadolig yn ei chartref i beth myrdd o blant y fro, yn blant  ffrindiau a chydnabod. Yno y cofiaf weld Wali am y tro cyntaf.

Yn ddiweddarach, tua diwedd y pumdegau, aeth i’r môr ac fe gofiaf iddo greu cymaint o argraff arnaf wrth sôn am yr anturiaethau a gafodd gyda’r ‘Blue Funnel Line’ (a chai ei hadnabod fel y ‘Llynges Gymreig’ gan fod cymaint o Gymry yn gweithio i’r cwmni), fel y bu imi, ar ddiwedd fy mlwyddyn gyntaf yn y chweched dosbarth, feddwl am wneud yr un peth ag ef (er na chofiaf os oedd yn dal ar y môr ar y pryd). Mam a’m perswadiodd i beidio gan ei bod wedi gwylltio wrth glywed am y ffasiwn syniad, felly es i fyd llawer llai rhamantus fel athro yn lle hynny!

Byddai’r hanesion am Wali yn ystod y chwedegau’n niferus ac roedd yn gyfaill da i’w gael mewn cornel, yn enwedig wrth wynebu bygythiadau ‘hogiau’r dref’ yn Llanrwst.

Yna ar ddechrau’r saithdegau, yr oeddwn yn gweld llawer mwy ohono pan ddaeth yn aelod gweithredol o Gymdeithas yr Iaith.

Wedi i’r mudiad hwnnw fodoli am rai blynyddoedd fel mudiad o fyfyrwyr ac academyddion yn bennaf, yn sydyn ehangodd ei orwelion a daeth mwy o’r ‘werin’, hynny yw’r gweithwyr cyffredin yn aelodau.

Roedd Wali yn un amlwg, a bechgyn fel Dewi Garmon, Sion Tan Lan a nifer o rai eraill yn rhoi sylfaen gadarnach i’r mudiad yng nghefn gwlad Cymru.

Treuliodd Wali gyfnod mewn carchar wedi iddo ddringo mast teledu fel rhan o ymgyrch y Gymdeithas dros Sianel Gymraeg ond fel llawer un arall a fu’n gweithredu yn ystod y cyfnod hwnnw, fe’i siomwyd yn arw gan yr hyn a ddigwyddodd i’r Sianel honno erbyn heddiw.

Dangosai barch mawr i’r Gwyddelod ac fe dreuliodd lawer o flynyddoedd yn gweithio gyda hwy ac yn gweithio yn eu gwlad.

Lawer gwaith y dywedai pa mor falch o’u gwlad a’u harwyr oedd y Gwyddel ond tristau a wnâi wrth feddwl nad oedd y Cymro’n meddu ar ddigon o asgwrn cefn i sefyll dros ei wlad yn yr un modd.

Mae fy nghydymdeimlad yn llwyr gyda’i weddw, Meri – un arall a oedd yn aelod gweithgar o’r Gymdeithas yn ystod yr un cyfnod – a gweddill y teulu, ac ymddiheuraf o waelod calon am na allwn fod yn bresennol yn yr angladd.

Clywyd llawer o sôn am golli ffigurau amlwg yn ystod y flwyddyn a aeth heibio ond, i mi, dyma golli un gwerthfawr arall.

Nid un a fu’n ffigwr amlwg yn genedlaethol, ond un o’r rhai prin hynny a oedd yn genedlaetholwr digyfaddawd wrth reddf ac yn un a wfftiai at y Cymry ‘tywydd braf’ a’r cenedlaetholwyr honedig a werthodd eu heinioes i’r diafol Prydeinig. Cwsg yn dawel yr hen fêt.

Rhannu |