Colofnwyr
Talu crocbris am ‘gartref’ yn Llundain
YN ystod wythnos gyntaf y flwyddyn, es i lawr i Lundain i helpu’r ferch a’i chymar gael hyd i le arall i fyw. Ar ddechrau Rhagfyr, rhoddodd perchennog y fflat y maent yn trigo ynddi ar y pryd ddau fis o rybudd iddynt symud am ei bod hi’n dymuno gwerthu’r fflat.
Dydi hynny ddim yn swnio’n broblem ond rhaid cofio fod gwyliau’r Nadolig a’r Flwyddyn Newydd yn golygu nad oedd y cwmnïau oedd yn gosod fflatiau ar gael am tua phythefnos am fod eu swyddfeydd ar gau dros y cyfnod hwnnw.
I’r rhai hynny sy’n credu mewn cyfundrefn gyfalafol, byddai gweld sut mae’r farchnad dai yn gweithio yn Llundain yn ddigon i’w perswadio fod gwell trefn yn bosib. Gyda phobl yr arian mawr o dramor a chyfeillion y Torïaid yn prynu eiddo, mae’r rhenti gosod yn siŵr o godi, gyda’r prisiau yn aruthrol. Cymrwch fflat y ferch fel enghraifft. Fflat un llofft mewn adeilad hynafol sydd tua hanner awr o ganol Llundain. Y pris a ofynnwyd am y lle oedd £325,000. Ia, wir yr, a hynny am y fflat y tu mewn ond nid yr adeilad allanol. Gallech brynu o leiaf dri thŷ stryd yma ym Mhorthmadog am y pris hynny. Yn rhyfeddol, fe’i gwerthwyd ar ôl bod ar y farchnad am ddim ond dau ddiwrnod!
Oherwydd natur gwaith y ferch a’i chymar, hynny yw, y ddau yn hunangyflogedig heb sicrwydd o’r cyflog rheolaidd a ddaw gyda swydd dan gytundeb, does ganddynt ddim gobaith caneri o gael morgais ar gyfer eiddo yn Llundain. A sylwch fy mod yn defnyddio’r gair eiddo yn hytrach na chartref. Yn nhermau oeraidd cyfalafiaeth y farchnad dai, ‘eiddo’ (‘property’ yn Saesneg) yw pob dim ac nid ‘cartref’. Sylwais fod y gair ‘property’ yn hytrach na ‘home’ i’w glywed ar y teledu, hefyd. Onid yw’n derm mor oeraidd ac yn addas i’r meddylfryd cyfalafol tra bod ‘cartref’ yn cyfleu rhywbeth mwy sicr a chynnes?
Gan fod y ferch yn Norwy ar y pryd, es i lawr i Lundain er mwyn rhoi cymorth i’w chymar ganfod fflat. Y cam cyntaf oedd chwilio ar-lein ar y safleoedd yn rhestru’r fflatiau ar gael cyn llunio rhestr fer o rai addas. Yna , cysylltu â chwmni oedd yn gosod un o’r fflatiau dan sylw i drefnu ymweliad er mwyn gweld y fflat. Aethom i swyddfa’r asiant gosod a chael ein cyfarch gan ‘ddyn clin shef’ (yn ôl Eirwyn Pontsian). Dyn ifanc yn llawn hyder ac yn parablu’n ddiddiwedd, gan ddangos ffrwyth hyfforddiant a roddodd y gallu iddo ymdrin â’r sefyllfa, er, fe’i taflwyd oddi ar ei echel am eiliad pan feddyliodd mai’r ‘cwpwl’ dan sylw oedd y ddau ohonom ni! Ar ôl i ni gywiro’r camargraff a gafodd, yr oedd yn ôl yn ei barabl hyderus. Cynigodd fwy nag un fflat a thŷ ond nid oeddynt yn addas, un ai am eu bod ar yr ail lawr (sy’n dda i ddim i delynores) neu’n rhy ddrud. Gadawyd y swyddfa heb gael llwyddiant a mynd i le arall.
Yr un oedd y drefn wedyn, a dangosodd y gŵr yn y fan honno lun fflat ac aeth ati i geisio cyfleu rhinweddau’r lle gyda’i eiriau jargonaidd. Pan ddaeth yr ymadrodd ‘pleasant outlook’ allan o’i enau, fe’i stopiais a gofyn iddo beth yn union oedd hynny. Yna cefais yr arwydd cyntaf o ansicrwydd gyda’r cwestiwn wedi ei daflu oddi ar ei echel, braidd, gan na allai egluro’r ymadrodd. I dorri stori hir yn fyr, gwelwyd nad oedd y lle a gynigai yn addas am nifer o resymau, y pwysicaf ohonynt oedd y rhent a fyddai’n £1,250 y mis am le reit fach.
Yn y diwedd, cafwyd lle ar gyrion Llundain, tŷ bychan dwy lofft a hynny am yr un pris ag y talant ar hyn o bryd. Ond dyna beth oedd cur pen go iawn. Yn gyffredinol, byddwn yn casáu bod yn ifanc ac yn gweithio yn Llundain o dan yr amodau hyn. A chofiwch, eich bod yn gorfod talu am wneud y cytundeb, talu mis a hanner o rent fel ernes ymlaen llaw cyn cael symud i mewn a dechrau talu rhent. Mae’r cytundeb manwl rhwng perchennog a thenant yn drwchus fel llyfr, sydd yn ffafrio’r perchennog wrth gwrs – fel sy’n digwydd o dan y drefn gyfalafol – ac yn golygu fod rhyw gymal annelwig yn y ‘print man’ yn golygu na chewch y cwbl o’ch ernes yn ôl wrth symud tŷ.
Dim ond un enghraifft fach o annhegwch cyfundrefn gyfalafol yw hon ond un sy’n dangos sut y cedwir y boblogaeth yn gaeth i’r drefn – a hynny drwy osod maen melin ariannol am wddw rhywun. Ar y llaw arall, efallai ei fod yn un dull o greu gwaith gan fod nifer go lew yn gweithio yn y swyddfeydd yr ymwelwyd â hwy.