Colofnwyr
Carwn wybod ar ba blaned mae ‘Country Life’ yn byw
Y dydd o’r blaen wrth bori drwy’r we canfûm un o’r gwefannau mwyaf gwirion a chamarweiniol i mi ei chanfod erioed. Y noddwyr oedd rhywrai’n galw’u hunain yn ‘Country Life’, a byrdwn y wefan oedd brolio’r fantais o fyw yn y cefn gwlad.
Wn i ddim beth yw ‘Country Life’. Cylchgrawn? Mudiad? Beth bynnag ydi e, mae gan y rhai sy’n gyfrifol amdano ddawn y Doctor Goebbels i lurgunio’r gwir. Onid gwell fyddai newid y teitl i ‘Country Lie’?
Yr abwyd cyntaf i ddenu ‘townies’ i’r wlad oedd addewid am breifatrwydd a thawelwch y wlad o’i chymharu â thrwst a phrysurdeb y dinasoedd a’r trefi poblog.
Ac ydi, mae hi yn dawel yma. Ar brydiau. Pan na fydd awyrennau jet yn rhuo uwchben gan gribo’r grug ar gopa Pen y Bannau. Pan na fydd Brymis a Sgowsers yn cloddio’r mynydd-dir â’u cerbydau 4x4. Dim rhybudd, yn naturiol, am geiliogod boreol y tyddyn drws nesaf sy’n deffro mewnfudwyr sydd am gysgu’n hwyr.
Y broliant nesaf oedd agosatrwydd at natur. A’r natur dan sylw, wrth gwrs, yn dilyn patrwm portread rhaglenni cefn gwlad Saesneg y BBC. Ie, natur ar ei gorau. Dim moch daear yn heintio gwartheg a bwyta wyau’r gylfinir a’r cornicyll. Dim llwynogod yn llarpio ŵyn bach. Dim cwningod yn pesgi ar eich letys. O, na, mae Billy Broch a Freddy Fox a Peter Rabbit yn greaduriaid bach ffeind sy’n cael eu herlid gan hen ffarmwrs cas.
Nesaf, digon o gyfleoedd i’ch plant chwarae allan yn yr awyr agored yn hytrach na chrymu uwchben sgrin cyfrifiadur ddydd a nos. Mae hanner gwirionedd yn hynna parthed y cyfrifiaduron. Ond byddwch yn lwcus cael darpariaeth band llydan yn y lle cyntaf. Ond mannau i chwarae? Cysgodfan bws, lle da i smocio baco digri yn y dirgel. Digon o dai gwag i’w fandaleiddio. Dyna’i chi hwyl!
Nesaf, digon o gyfle i chi dyfu eich llysiau eich hunan. Peidiwch gofidio os wna’r cnwd fethu. Ac anghofiwch am Peter Rabbit (gweler uchod). Bydd faniau Tesco’n galw saith diwrnod yr wythnos at garreg eich drws. Hynny’n peryglu bodolaeth eich unig siop leol? Pwy sy’n hidio?
Y prif atyniad, meddir, yw awyr iach. Llond eich ysgyfaint o awyr y mynydd. Wrth gwrs. Dyna pam y cewch hi’n anodd cael mynediad i dŷ tafarn (os oes yna un ar ôl) wrth i smygwyr myglyd lenwi’r lobi.
Bywyd hamddenol yw’r abwyd nesaf, dim angen unrhyw ruthr. Does yna fawr o ddewis. Dim llawer o ots chwaith gan nad oes gennych jobyn i fynd iddi.
Os oes ganddoch chi gar, bydd pris tanwydd yn llawer uwch yn y wlad. Dim ots nad oes ganddoch chi gar, cewch wasanaeth bysys, o leiaf ddau bob dydd, i fynd â chi i’r dref a dod adre o godi’ch budd-dal diweithdra. Swyddfa bost y pentref? Wedi cau, wrth gwrs.
Nesaf, pobl leol gyfeillgar. Ydyn. Croeso i chi a’ch dau gi Stafford i fynd am dro ar hyd tir amaethyddol a’u gollwng yn rhydd i ‘chwarae’ gyda’r defaid a’r gwartheg. Dim angen mynd i’r drafferth i gau llidiardau. Dim pwrpas eu hagor yn y lle cyntaf. Mae’n haws neidio drostynt neu wthio drwy’r ffens. Byddwch yn ceisio dychmygu pam fu rhyw hen ffermwr yn rhefru arnoch y dydd o’r blaen. A hynny mewn iaith na fedrech ei deall.
Manteision addysgol wedyn. Dim angen i chi na’r plant boeni am arholiadau Lefel ‘A’. Mae Chweched Dosbarth yr ysgol agosaf wedi ei diddymu. A does dim problem iaith. Mae pawb yn deall Saesneg. Ac os wna’r ysgol uwchradd agosaf gau, mae yna un arall bymtheg milltir ymhellach lawr y lôn.
Yn olaf? Lefelau tor-cyfraith yn isel, yn wir, bron iawn yn llwyr absennol, meddai ‘Country Life’. Yn y dinasoedd a’r trefi mae’r dihirod. Dewch i’r wlad, lle mae pawb yn ffeind, yn gyfeillgar ac mor onest â’r dydd.
Esgusodwch fi, rhaid i mi dynnu’r golofn hon i ben. Mae rhyw lembo newydd ddwyn fy meic, ac wedi gyrru i ffwrdd ag ef mewn cwad a threlar sydd wedi eu dwyn o’r fferm drws nesaf.
Beth wnâi? Fe wn i. Fe wnâi ffonio’r cops ar fy ffôn poced. Damio! Dim gwasanaeth.
Dim ots. Rwy newydd gofio - mae Swyddfa’r Heddlu wedi cau beth bynnag. Plismon cymunedol sydd ganddon ni nawr.
Carwn wybod, serch hynny, ar ba blaned mae ‘Country Life’ yn byw.
Ta waeth, mae gen innau neges i ddarpar-fewnfudwyr. Os ydych chi’n gall, arhoswch ble’r ydych chi, ble bynnag mae hynny.