Colofnwyr

RSS Icon
19 Ionawr 2016
Gan LYN EBENEZER

Llyfrau yw’r gwaed sy’n pwmpio drwy gorff yr iaith. A nawr mae’r Cynulliad Cenedlaethol yn bygwth ei thagu

Wrth edrych yn ôl ar drichwarter canrif fy mywyd gallaf ddweud, heb unrhyw amheuaeth, mai dysgu darllen fu’r fendith fwyaf. Darllen fu’r jam ar fara bywyd. A diolch i weledigaeth fy rhieni, roedd y jam hwnnw’n felysfwyd diderfyn.

Cyfeiriais o’r blaen am y cwpwrdd cornel yn y gegin ffrynt, hwnnw’n orlawn o lyfrau. Nid fod Nhad a Mam yn ddarllenwyr mawr eu hunain. Yr ‘Home Chat’ a chatalog J.D. Williams oedd eithaf gorwelion darllen Mam. Ymhlith trysorau Nhad, ar y llaw arall roedd rhai o gyfrolau Niclas y Glais, ffrind personol i’r teulu, a chyfrol Michael Foot ar Aneurin Bevan, ‘In Place of Fear’. Yn eu plith hefyd roedd ‘Plasau’r Brenin’ Gwenallt. Mae gen i deimlad i Nhad a Dic Jones y Garej fynychu rhai o ddarlithiau nos Gwenallt. Ond er gwaethaf presenoldeb y ceinion llenyddol hyn, welais i erioed Nhad yn agor llyfr. Mam oedd yn prynu, a hynny er ein mwyn ni’r plant, tri-ar-ddeg ohonom. Dim ond un llyfr wnaeth Nhad ei brynu erioed i mi sef ‘How to Box’ gan Joe Louis.

Yno ym mherfeddion y cwpwrdd cornel hefyd roedd dwy gyfres o wyddoniaduron. Roedd copi o ‘The Black Tulip’ gan Alexandre Dumas a rhai o glasuron Enid Blyton ac Agatha Christie. Ond llyfrau Cymraeg oedd yn denu. Ac o edrych yn ôl gallaf dystio mai’r gyfrol a gychwynnodd y cyfan i mi oedd ‘Luned Bengoch’ gan Elizabeth Watcyn Jones. Do, syrthiais dros fy mhen a’m clustiau â’r arwres bengoch.

Y gallu i ddarllen, yn bendifaddau, fu cyfraniad cyfoethocaf gwareiddiad i’r byd. Ac i’m byd bach i, llyfrau Cymraeg. Mor bleserus bellach yw gwylio fy wyrion yn treulio oriau yn pori drwy lyfrau Cymraeg. Mae Anni, sy’n bump, newydd ddysgu elfennau darllen syml. Mae Ffredi yntau, sy’n dair, yn glafoerio dros unrhyw lyfrau sy’n dangos lluniau tractorau ac unrhyw ddelweddau amaethyddol eraill.

Ie, llyfrau yw anadl einioes y genedl Gymraeg. Llyfrau yw’r gwaed sy’n pwmpio drwy gorff yr iaith. A nawr mae’r Cynulliad Cenedlaethol yn bygwth ei thagu; yn bygwth trywanu’r galon drwy dorri dros ddeg y cant o gyllid y Cyngor Llyfrau. Ie, ein Cynulliad, ein Llywodraeth ni sy’n brolio’i chefnogaeth i’r iaith drwy wenu yn ei hwyneb tra’n ei thrywanu yn ei chefn.

‘A!’,medde chi, ‘mae hwn yn poeni am ei sefyllfa’i hunan. Mae llai o arian i lyfrau Cymraeg yn gic yn ei ben-ôl ef ei hun.’ Ac ydi, mae e. Erbyn hyn rwy wedi bod yn gyfrifol am weld cyhoeddi ymron 90 o lyfrau. A do, cefais fy nhalu am hynny. Cofiwch, wnewch chi ddim ffortiwn allan o ysgrifennu neu gyhoeddi llyfrau Cymraeg. Llafur cariad ydi e o’i gymharu â’r miliynau a wnaed gan rai o gyfranwyr cynnar S4C. Oes, mae yna rai sy’n elwa’n fras o hyd ar y ffortiynau personol a wnaethant yn nyddiau cynnar ein hannwyl sianel cyn i’r trên grefi hitio’r byffyrs.

Ond morwyn fach yw’r llyfr Cymreg. Dyma Sinderela’n diwylliant. Does dim lle iddi yn nawns y Cynulliad. Ac mae toriadau’r Cynulliad yn y byd llyfrau Cymraeg yn gam at dlodi pawb ohonom sy’n siarad yr iaith, o henoed fel fi i blant fel Anni a Ffredi.

Roedd Carwyn Jones yn fodlon dod â llongau tanfor Trident o Faslane yn yr Alban i ymguddio mewn ffeuau oddi ar arfordir Sir Benfro. Hynny heb ymgynghori â neb arall. Dim sôn am y gost, boed honno’n gost ariannol neu gost bosib mewn bywydau. Ond does dim sôn am drallwyso gwaed a allai roi bywyd i’r iaith. Gwawdir Jeremy Corbyn gan aelodau o’i blaid ei hun am awgrymu cadw taflegrau Trident ond heb eu harfogi. Ydi e’n syniad fymryn llai gwirion na cheulo’r union waed sy’n bywhau’r iaith? Yn wir, mae Carwyn a’i giwed yn debyg i daflegrau Trident delfrydol Corbyn, cyrff llawn ond gyda phennau gwag.

Gall, fe all y toriadau fod yn niweidiol i mi. Byddaf yn colli’n ariannol fel pawb arall sy’n ymwneud â llyfrau Cymraeg, o’r awdur i’r cyhoeddwr a’r gwerthwr. Ond yn fwy na dim y darllenwr. Rwy’n ddigon hen ac yn ddigon gwirion i dderbyn colled bersonol. Ond pan fo’r ergyd yn bygwth mwynhad darllen a seiliau addysgol fy wyrion, ac yn waeth na dim yn bygwth eu Cymreictod, rwyf ymhell o fod yn hapus. Yn wir, rwy’n wyllt gacwn.

Mae’r penderfyniad ynfyd hwn yn dyfnhau amheuaeth rhywun o synnwyr cyffredin gwleidyddion. Yn etholiadau’r Cynulliad sy’n dynesu mae Llafur dan fygythiad oddi wrth UKIP, medde nhw. Oes yna owns o wahaniaeth rhyngddynt?

Petai ond dewis rhwng y ddwy blaid hynny byddai angen meddwl yn ddwys i ba un i bleidleisio. Onid yw’r ddwy blaid mor wallgof â’i gilydd? Fel y dywedai Mam, druan, ‘pwdin o’r un badell’.

Gadawaf chi gyda’r cwestiwn hwn: Pwy sydd fwyaf gwallgof, Carwyn neu Corbyn?

Rhannu |