Colofnwyr

RSS Icon
18 Ionawr 2016
Gan ARTHUR THOMAS

Mae rhyw newid mawr wedi digwydd

ERS blynyddoedd, yr ydym wedi dod yn gyfarwydd â chlywed enwau stormydd a fu’n taro gwledydd Gogledd America. Bu effaith rhai ohonynt yn ddinistriol iawn. Pwy all anghofio corwynt Katrina a chwalodd ddinas New Orleans yn 2005 a’r lluniau ar y teledu’n dangos y trigolion yn ffoi am eu bywydau? 

Yn wreiddiol, dim ond enwau merched a roddwyd ar y stormydd hyn – a hynny, mae’n debyg, am fod merched yn fwy gwyllt na dynion! Cofiwch, nid y fi a ddywedodd hynny ond dyna’r cyfiawnhad a gafwyd am ddefnyddio enwau merched. Newidiwyd yr arfer ym 1979 pan gyflwynwyd enwau dynion yn ogystal ag enwau merched ar stormydd – sydd yn ddigon teg am fod dynion, hefyd yn gallu meddu ar dymer wyllt.

Y syniad y tu ôl i enwi stormydd yw er mwyn rhoi cyfle i bobl adnabod y perygl pan welant negeseuon a rhybuddion am dywydd drwg. Ymddengys ei bod hi’n haws cofio enw syml  na manylion technegol neu rifau a hefyd yn haws codi diddordeb ac ymwybyddiaeth yn y gymuned a fygythir gan y stormydd unigol.

Gallai manylion megis yr hyn a geir ar ragolygon tywydd ar gyfer llongau fod yn ddryslyd i’r sawl sydd ar dir sych.

Cofiaf gymeriad o Benmachno yn cwyno fod yr ‘hen anti ‘ma o gwmpas o hyd a’i bod hi’n hen bryd i yncl ddod heibio’  wrth glywed y term ‘anticyclone’ ar ragolygon tywydd yn Saesneg ar y radio yn ystod y chwedegau.

Er mwyn hwyluso’r gwaith o enwi stormydd, paratowyd rhestr o enwau yn nhrefn yr wyddor. Felly, byddai stormydd cyntaf y flwyddyn yn cael enwau yn dechrau gyda’r llythyren A. Gan fod pen draw i’r nifer o enwau dynion a merched, ail ddefnyddir yr enwau unwaith eto ar ôl nifer o flynyddoedd. Y mae chwe rhestr yn y drefn yma, felly ar y seithfed flwyddyn, eir yn ôl i’r rhestr gyntaf unwaith eto. Yr unig eithriadau i’r rheol hon yw yn achos stormydd dinistriol megis Katrina am na fyddai ail-ddefnyddio’r enw hwn yn iawn am resymau sensitifrwydd.

Ym mis Medi, penderfynodd y Swyddfa Dywydd, mewn cydweithrediad â Met Eireann, sef swyddfa dywydd Iwerddon, fabwysiadu’r un syniad o enwi stormydd. Erbyn hyn, daeth rhybuddion tywydd am stormydd megis y diweddar Frank yn gyfarwydd i bawb ac fe glywais ambell un yn sôn am y stormydd hyn fel petaent yn aelodau o’r teulu.

Wrth gwrs, nid yw’r drefn ddatganoledig yn caniatáu i ni gael ein swyddfa dywydd annibynnol yma yng Nghymru. Petai gennym un, efallai y gellid ychwanegu at y rhestr enwau. Dyma ambell awgrym disgrifiadol:

CYNULLIAD – storm yn llawn gwynt yw hon ond heb wneud fawr o ddifrod.

DAFEL – storm sydd wedi gostegu ers ei chychwyniad, wedi newid o rybudd coch i un melyn ac erbyn hyn yn troelli o le i le.

CARWYN – storm  yn llawn gwynt ac yn ymddangos yn niweidiol ond i’r gwrthwyneb.

OBIAU – storm slei sy’n gallu tanseilio cymdeithas waraidd. Mae SIBIAU ac EMBIAU  yn debyg iawn eu heffaith.

Gellir mynd ati i restru rhai eraill posibl, ond i droi yn ôl at ddifrifoldeb y sefyllfa, fe ddaeth hi’n amlwg fod newid mawr ar droed gan ein bod yn gweld eithafion tywydd drwy’r byd. Ni welwn y tymhorau traddodiadol bellach – mae’r cwbl yn rhedeg i’w gilydd.

A thra bod glaw di-baid y misoedd diwethaf yn creu problemau yma, yng ngwledydd fel yr Eidal, sychder sy’n bodoli. Bûm yn siarad gyda chyfaill ger Rhufain a dywedodd na fu iddynt gael glaw ers wythnosau a bu’n rhaid dyfrio’r planhigion yn yr ardd. Hynny, cofiwch, hyd at y Nadolig!

Dwn i ddim os ai’r newid hinsawdd sy’n gyfrifol ai peidio ond mae rhyw newid mawr wedi digwydd ac mae hynny’n hollol amlwg, bellach.

Rhannu |