Colofnwyr

RSS Icon
12 Ionawr 2016
Gan LYN EBENEZER

Y milwyr yw’r bwchod dihangol sy’n gorfod gwneud gwaith budr y gwleidydd

CHWARTER canrif yn ôl fe gychwynnodd Rhyfel y Gwlff. Rheswm (neu esgus) Prydain ac America dros yr ymosodiad oedd rhyddhau Kuwait oddi wrth oresgyniad Saddam Hussein.

A dyma ni, chwarter canrif yn ddiweddarach a’r Dwyrain Canol yn dal yn danchwa.
Yn ystod y chwarter canrif gwelwyd gwrthdrawiadau eraill yng Ngogledd Iwerddon a Bosnia, Kosovo a Sierra Leone, Irac ac Afghanistan. A nawr, Syria a Libya.
Gwelwyd, yn ystod y cyfnod yn y gwahanol theatrau rhyfel, gyfanswm o 757,805 o filwyr Prydeinig yn brwydro. 

Amcangyfrifir fod deg y cant o’r cyfanswm wedi – neu yn – dioddef o ôl-effeithiau o ganlyniad i’w profiadau milwrol.

Ar ben hyn amcangyfrifir fod 57,000 o aelodau teuluoedd y milwyr wedi datblygu problemau iechyd o ganlyniad i brofiadau’r dynion a’r menywod hyn.

Beth bynnag yw fy nheimladau am iawnderau neu anghyfiawnderau rhyfel, mae gen i gydymdeimlad mawr â milwyr.

Y milwyr yw’r bwchod dihangol sy’n gorfod gwneud gwaith budr y gwleidydd. 

Ond yn hytrach na chael eu trin gyda chydymdeimlad, tueddir eu hanghofio a’u gwthio i’r neilltu rhag achosi anesmwythid i gydwybod gwleidyddion.

Daw’r ffigurau diweddaraf hyn o ganlyniad i ymchwil Cyfri’r Gost gan Ganolfan Ymchwil Milwrol Coleg King’s yn Llundain.

Daeth yr ymchwiliad i’r canlyniad y bydd 91 y cant o’r 83,000 a effeithir yn dioddef o anhwylder straen ôl-drawmatig.

Credir y gall naw y cant  ddioddef o anafiadau corfforol a dau y cant  ddioddef yn gorfforol a meddyliol.

Rhwng mis Ebrill 1991 a mis Ebrill 2014 rhyddhawyd 36,506 o filwyr, morwyr neu awyrenwyr ar seiliau meddygol.

Yn ystod yr un cyfnod collodd 370 ohonynt freichiau neu’n goesau o ganlyniad i’w dyletswyddau rhyfel.

Ond mae’r ymchwil ymhell o fod yn drwyadl.

Does yna ddim cyfrif, er enghraifft, o’r cyfanswm o filwyr a wasanaethodd yng Ngogledd Iwerddon dros y 30 mlynedd o’r Trafferthion.

Ac wrth gwrs, fedr y Llywodraeth ddim ymateb i’r broblem heb wybod yn gyntaf wir faint y broblem honno.

Geilw awduron yr adroddiad am i wir ystadegau cost gorfforol a meddyliol y gwahanol ryfeloedd i filwyr gael eu datgelu.

Dydi’r ffaith fod rhai o’r rhyfeloedd hyn drosodd ddim yn esgus dros beidio ag ymchwilio i’r gost, meddir.

Cymhlethir y sefyllfa gan y ffaith y gall degawd fynd heibio cyn i symptomau afiechydon corfforol a meddyliol ymddangos. 

Yn y cyfamser ymddengys fod materion eraill yn haeddu sylw’n gyntaf, yn arbennig ymddygiad troseddol milwyr yn Irac.

Onid oes yna enghreifftiau o gyfnodau cynharach y dylid eu hystyried?

Beth am ymddygiad rhai o’r Paras ar y Sul Gwaedlyd yn Derry yn 1972?

Mae yna siarad mawr ers tro, ond dim byd yn digwydd.

Ond hyd yn oed yn yr achos hwnnw gallaf ddeall sut fedr milwyr, dan bwysau, dorri rheolau rhyfel. Ie, rheolau rhyfel. Gwrthddywediad, os bu un erioed.

Yr un mor wrthun yw’r cyfreithwyr sy’n ddim byd gwell nag ymlidwyr ambiwlansys wrth chwilio am achosion ar gyfer iawndal, gyda chyfran helaeth o’r celc yn mynd i’w pocedi nhw eu hunain. Parasitiaid, dim llai.

Mae’r gwir ddrwgweithredwyr, wrth gwrs, yn gwbl ddiogel. Mae’r Bwtsiwr Blair heddiw’n werth £60 miliwn ac yn berchen ar ddigon o dai i lunio pentref cyfan.

Ac mor hawdd yw hi i David Cameron ddoethinebu a honni cydymdeimlad â milwyr clwyfedig pan mai ef a’i debyg sy’n gyfrifol am eu clwyfau, corfforol a meddyliol, yn y lle cyntaf.

Mae cyfreithwyr hunanlesol yn ystyried dros fil o achosion o gamymddwyn ymhlith milwyr yn Irac. Mae David Cameron, meddir, yn poeni’n fawr. Os yw’n poeni cymaint â hynny, pam anfon milwyr i bellafoedd byd i frwydro yn y lle cyntaf?

Peidied neb â disgwyl ateb. 

Yn y cyfamser, rhaid parhau’n ffrindiau â dienyddwyr Sawdi Arabia. Maen nhw, wedi’r cyfan, ar ein hochr ni.

Rhannu |