Colofnwyr
Roedd Ogwyn Davies yn gawr ymhlith plant ac ymhlith dynion
PETAI rhywun yn gofyn i mi ddewis cyfnod hapusaf fy mywyd, yna byddai blynyddoedd 1956-58 yn dod yn uchel iawn yn y dewis. Dyna oedd blynyddoedd Lefel ‘A’ i mi yn Ysgol Uwchradd Tregaron.
Blynyddoedd o ganfod a darganfod fu’r rhain i mi. Dewisais ar gyfer astudiaethau Lefel ‘A’ astudio Cymraeg, Saesneg a Chelf. Doedd y ddau ddewis cyntaf ddim yn anodd. Roedd Cymraeg, a Llenyddiaeth Gymraeg yn bleser yn hytrach na dyletswydd. Felly hefyd Saesneg, a ninnau’n astudio, ymhlith y llyfrau gosod, ddrama Sean O’Casey, ‘Juno and the Peycock’. Y ddrama hon, yn anad dim byd arall, fu’n gyfrifol am greu diddordeb ysol ynof yn hanes diweddar Iwerddon.
Roedd rheswm mawr arall pam i mi ddewis Cymraeg a Saesneg. Yr athro Cymraeg oedd John Roderick Rees, athrylith o ddyn. Yn dysgu Saesneg i ni roedd Joan Rees, athrylith arall. Hi wnaeth fy arwain at ryfeddodau barddol T.S. Eliot.
Ond pam Celf? Wel, roeddwn i wedi pasio yn y pwnc yn Lefel ‘O’. Ond y prif reswm, fel yn y ddau ddewis arall oedd yr athro, sef Ogwyn Davies. Doeddwn i fawr o artist, ond llwyddodd Ogwyn i greu ynof ddiddordeb byw mewn hanes celf weledol ac mewn artistiaid.
Bu farw Ogwyn ar Ddydd Gŵyl San Steffan yn 90 oed. Ni chafodd ei farw unrhyw sylw ym Mhapur Cenedlaethol Cymru. Nid bod hynny’n fy synnu. Ond er gwaethaf hynny caiff y gŵr hynaws a hynod hwn ei gofio gan genedlaethau o ddisgyblion Ysgol Uwchradd Tregaron.
Yn astudio ar gyfer Lefel ‘A’ wrth draed Ogwyn doedd ond dau ohonom, Peter Davies, a fu wedyn yn ddylunydd gyda chwmni ceir Vauxhall, a minnau. Golygai hynny y byddem ein dau yn cael holl sylw Ogwyn yn ystod ein cyfnod yn y Chweched.
O’r dechrau cawsom fod Ogwyn yn wahanol yn ei ddull o ddysgu. Câi Peter a minnau ein derbyn ganddo nid fel plant ond fel pobl ifanc. Weithiau byddai’n dyblu fel athro chwaraeon yn absenoldeb yr athro chwaraeon swyddogol. Yn hytrach na hyfforddi o’r ystlys, ymunai Ogwyn gyda ni yn yr ymarferion rygbi yn ei drac-wisg werdd. Gallaf glywed ei anogaeth nawr, ei dafodiaith Cwm Tawe yn atseinio dros y cae: “Rêd, achan! Rêd!” A ninnau’n ‘reteg’ nerth ein traed.
Un tro aethom lawr i Aberteifi i chwarae yn erbyn yr ysgol leol, ac Ogwyn oedd yn gofalu amdanom. Ar ddiwedd y gêm caniataodd i ni awr i’w threulio yn y dref cyn gadael. Aeth hanner dwsin ohonom am beint slei i’r Blac. Ymhen yr awr dyma Ogwyn yn cerdded i mewn. Disgwyliem storm, ond na. Yn hytrach fe’n hanogodd ni i frysio.
“Bois,” meddai, “rwy’n rhoi deg munud arall i chi. Un glasied arall. Ond dim ond hanner y tro hwn.” Ac Ogwyn yn yfed hanner gyda ni.
Yn ogystal â bod yn athro wrth reddf, roedd Ogwen, wrth gwrs, yn artist llwyddiannus a phoblogaidd iawn. Cofiaf enghreifftiau cynnar o’i waith. Golygfa o gwmpas ei gartref yn Nhrebanos, er enghraifft, yn dangos toeau tai, rhai mewn cysgod, eraill yn disgleirio mewn heulwen wedi glaw. Lluniau wedyn o hen beiriannau fferm yn ymddangos fel sgerbydau bwystfilod cynhanesiol. Un o’i brintiau mwyaf poblogaidd, yn ddiamau, oedd hwnnw o gapel Soar-y-Mynydd gyda geiriau emynau’n codi tua’r entrychion.
Y ddelwedd o Ogwen a erys yn y cof yw honno ohono’n myfyrio dros olygfa neu dros ddarlun. Byddai’n dal ei getyn, hwnnw wedi hen ddiffodd, yn ei law dde ac yna’n syllu rhwng amrannau hanner-caeedig. Deuthum i’w efelychu gan sylweddoli fod y dull hwn o edrych yn gweddnewid darlun wrth i’r lliwiau a’r ffiniau ymdoddi i’w gilydd. A sylweddolais mai dyma sut fyddai Cezanne yn gweld y byd o’i gwmpas. Mentraf awgrymu mai diffyg ar welediad Cezanne wnaeth ei droi’n artist mor nodedig. Beth bynnag am hynny, i Ogwyn mae’r diolch mai Cezanne yw fy hoff arlunydd o hyd.
Yn wyrthiol, llwyddais i basio Celf yn Lefel ‘O’ a Lefel ‘A’. Nid i mi oedd y clod am hynny ond i Ogwyn, yr athro a’r cyfaill da. Diolch iddo am rannu ei weledigaeth.
Mae yna hen wireb ddilornus am athro sy’n ei ddisgrifio fel dyn ymhlith plant, ond yn blentyn ymhlith dynion. Roedd Ogwyn yn gawr ymhlith plant ac ymhlith dynion fel ei gilydd.
Ffarwel, Ogwyn. Diolch am gyfoethogi fy mywyd.
A chofiwch fi at yr hen Cezanne.