Colofnwyr
Gwahaniaeth rhwng maddau ac anghofio
RWY’N ysgrifennu’r golofn hon oriau yn unig wedi i Frenhines gwledydd Prydain lanio yn Nulyn. Erbyn i’r golofn ymddangos, pwy a ŵyr beth fydd wedi digwydd yn ystod ei hymweliad. Yn sicr, mae’n achlysur sydd â’r posibilrwydd o fod yn drafferthus, a dweud y lleiaf. Ac fe wnaiff y mesurau diogelwch gostio £15 miliwn.
Pan oeddwn i draw yn Nulyn dros gyfnod priodas Wil a Cêt fe wnes i drafod â llawer o’r trigolion am yr ymweliad. Wnes i ddim cwrdd â neb oedd yn frwdfrydig dros y digwyddiad. Mae hynny, hwyrach, yn dweud llawer am y math o gwmni y byddaf yn dueddol o’i ddenu. Roedd y mwyafrif mawr yn gwbl ddi-hid, ond nifer hefyd yn wrthwynebus iawn….
…..Ymweliad y Frenhines Elizabeth yw’r cyntaf ers ymweliad ei thad-cu, Siôr V gant namyn un o flynyddoedd yn ôl. Ers wythnosau mae Sinn Fein wedi bygwth protestiadau tra mae’r awdurdodau’n gofidio’n fawr am weithgaredd cynyddol carfannau fel yr IRA Parhaol a’r IRA Real. Y rhain bellach sy’n honni eu bod nhw wedi etifeddu mantell Gwrthryfelwyr y Pasg, honiad cwbl gyfeiliornus. Eu prif bwrpas yw chwalu Cytundeb Sul y Groglith a arweiniodd at y sefyllfa anhygoel o Ian Paisley a Martin McGuinness yn cyd-eistedd yn 1998.
Mae gwahaniaeth mawr rhwng yr IRA gwreiddiol, a epiliwyd yng Ngwersyll y Fron-goch yn 1916 a’r carfannau a wnaeth ddilyn. Fyddai hyd yn oed Deuddeg Apostol Michael Collins, ei garfan o ddienyddwyr personol, ddim wedi gadael bomiau fel y honno a adwyd yn Omagh yn 1998 ac yna ffoi. Roedd yr IRA gwreiddiol, pobl fel Tom Barry – y cefais y fraint o’i gyfarfod – yn ddynion o egwyddor.
Ond does dim rhyfedd fod yna wrthwynebiad cryf i ymweliad y Frenhines Elizabeth. Mae gan y Gwyddelod gof hir, cof cenedl a gam-lywodraethwyd am ganrifoedd. Cytunaf â barn Llywodraeth y dydd yn Iwerddon y dylid maddau bellach a chymodi. Ond mae gwahaniaeth mawr rhwng maddau ac anghofio. Ac mae hanes y gorffennol yn Iwerddon wedi ei serio ar eneidiau’r Gwyddelod.
I ddarllen mwy CLICIWCH YMA