Colofnwyr
Gallasem fod wedi gwthio’n hunain i giosg teliffon coch!
CAWSOM wasanaeth Nadolig tra gwahanol i’r arfer yn Rhydfendigaid fore dydd Sul.
Doedd yna ddim pregeth. Gosodwyd yr awenau yn nwylo tri ohonom, Selwyn, Ifan Huws a finne gyda Neli, fel arfer, yn dwyn y baich o gyfeilio a threfnu’r cyfan.
Roedd y drefn yn syml: Selwyn i ddarllen darn addas. Ifan i weddïo a finne i draddodi rhyw neges fer neu, chwedl Ifas Cariwr, cyflwyno ‘address’.
Erbyn i ni gychwyn am ddeg roedd tri arall wedi cyrraedd i ymuno â ni, Jean, sy’n flaenores, Myfanwy, gwraig Ifan Huws, a’r ffyddlon Gwen Dolfawr, a oedd hefyd wedi addurno’r sêt fawr â blodau.
Ie, dim ond saith oedden ni. Gwn bellach sut deimlad yw bod yn Aelod Seneddol Democrataidd Rhyddfrydol. Yn wir, mae ganddyn nhw un yn fwy.
Gallasem fod wedi gwthio’n hunain i’r ciosg teliffon coch fyny’r ffordd.
Ond na, eisteddasom, y saith ohonom, yn y sêt fawr gyda chorff y capel yn wag.
Mor wahanol oedd hi’r Sul blaenorol ar gyfer Gwasanaeth y Plant.
Llenwyd y sêt fawr â 25 o blant. Roedd y capel yn hanner llawn (neu’n hanner gwag, os mynnwch chi) o rieni a chefnogwyr.
Yr hyn a ddaeth i’r meddwl ar unwaith y Sul diwethaf oedd yr adnod honno o Efengyl Mathew, am dri neu bedwar wedi dod ynghyd ‘yn fy enw i’.
Canwyd pump neu chwech o garolau, yn cynnwys yr hen a’r newydd.
Y Sul cynt, yng Ngwasanaeth y Plant canwyd ‘O, Deuwch, ffyddloniaid’, sef cyfieithiad o garol enwog J. F. Wade a ‘Pan anwyd Crist ym Methlehem’ gan Myfi Evans.
Y Sul diwethaf rhaid fu cynnwys yr hen garol, ‘Daeth Nadolig fel arferol’.
Rwy’n hoff iawn o’r garol hon, un sydd mor boblogaidd mewn plygeiniau.
Ond mor eironig y swniai’r pennill olaf ddydd Sul, a’r Dwyrain Canol yn wenfflam.
Gorfoleddwn a moliannwn,
Ganwyd Ceidwad mawr y byd,
Cyfaill pechaduriaid mawrion
Ydyw Iesu Grist o hyd;
Brenin heddwch ydyw’r Iesu
A thangnefedd ar ei wedd,
Dyma Frenin y brenhinoedd,
Ddysgodd inni gladdu’r cledd.
Gyda llaw, fy hoff garol fodern yw ‘Wyneb Iesu, y geiriau gan W. R. P. George wedi eu gosod ar dôn hyfryd Leah Owen. Dyma asiad perffaith o eiriau a thôn.
Dewisodd Selwyn adrodd Baled y Pedwar Brenin, un o gerddi mawr Cynan ac un sy’n dal â’i neges mor arwyddocaol ag erioed.
Dewisais innau gyflwyno neges ar ddiniweidrwydd plant, thema sy’n dôn gron i mi.
Roedd y thema hon yn arbennig o berthnasol eleni gan i’r wyrion dreulio’r Nadolig yma ar aelwyd Saron.
Yn ganolog i’r neges roedd geiriau T. S. Eliot allan o ‘Little Gidding’.
Ac mae i’r geiriau wirionedd oesol. Wna’i ddim ceisio’u cyfieithu:
We shall not cease from exploration,
and the end of our exploring
will be to arrive
where we started.
Yn ddiweddar ym mhapur honedig genedlaethol Cymru darllenais lythyr oedd yn ein hatgoffau mai gŵyl baganaidd oedd y Nadolig yn wreiddiol.
Ni Gristnogion, meddai’r llythyrwr, sydd wedi herwgipio’r ŵyl. Iawn.
Hwyrach y byddai’n well gan y llythyrwr weld dychwelyd i’r hen arferion paganaidd yn cynnwys cyflwyno ebyrth byw i’r duwiau.
Ie, dim ond saith oedden ni fore dydd Sul yn yr oedfa. Ond da fu cael bod yno. Euthum adre’n teimlo’n well.
Wrth fynd i mewn drwy lidiart mynedfa’r capel fore dydd Sul, gofynnodd rhywun i mi wrth basio, ‘Beth ti’n ei wneud yn mynd mewn fanna?’
Cofiais ateb Waldo i gwestiwn tebyg gan T. Llew Jones, a aeth i ymweld â’r heddychwr a’r bardd yn y carchar.
Ateb y gŵr mawr oedd, ‘Beth wyt ti’n ei wneud allan fanna?’