Colofnwyr

RSS Icon
21 Rhagfyr 2015

Goroesi noson yn cyfeillachu gyda Shane MacGowan!

ERS blynyddoedd bellach, ar yr adeg hon o’r flwyddyn, bydd cân arbennig yn mynnu meddiannu fy ymennydd.

Yn dôn gron, bydd yn cordeddu drwy fy meddwl ddydd a nos gan fy nghadw ar ddihun am oriau yn fy ngwely. 

Y gân yw ‘Fairytale of New York’ gan The Pogues, cân a ddewiswyd fel cân Nadoligaidd y ganrif ac a ganfu ei ffordd i siartiau’r ugain uchaf o recordiau 12 gwaith yn olynol gan gwerthu 1.18 miliwn record.

Tyfodd llawer o chwedloniaeth o gwmpas cyfansoddi’r gân. Ond gellir priodoli’r dôn i Jed Finer, chwaraewr banjo’r Pogues a’r geiriau, wrth gwrs, i Shane MacGowan.

Mae yna un cysylltiad â’r gân sydd bellach ymhlith rhai o eiliadau tragwyddol fy mywyd wedi i mi ei chanu yng nghlust y dyn ei hun, Shane MacGowan, a’r ddau ohonom wedyn yn ei chydganu.

Cymerodd ddwy flynedd o gyfansoddi ac addasu cyn i’r gân fodloni Shane.
Yn wreiddiol, bwriadai ei chanu fel solo. Ond wedi iddo glywed llais Kirsty McColl, oedd yn briod â’r cynhyrchydd recordiau Steve Lillywhite yn canu fersiwn ohoni ar un o’r ‘takes’, gwahoddodd hi i ymuno ag ef. Mae’r gweddill yn hanes.

Mae teitl y gân wedi ei seilio ar nofel o’r un enw gan J P Donleavy.
Cân drist-felys yw hi am Wyddel alltud yn sobri mewn loc-yp ar noswyl y Nadolig yn Efrog Newydd.

Yn siario’r gell mae hen ŵr, sy’n mynnu canu ‘The Rare Old Mountain Dew’. 

Dechreua’r atgofion lifo, a’r meddwyn yn dechrau breuddwydio am ei gyn-gariad. 

Drwy’r gân mae’r meddwyn a’r ferch yn edliw atgofion i’w gilydd, gan gofio breuddwydion ffôl na ddaethant byth yn wir.

Yr hyn sy’n ingol am y gân bellach yw i Kirsty McColl gael ei lladd mewn damwain â chwch modur yng Nghiwba ddyddiau cyn y Nadolig 2000. 

Roedd hi’n ferch i Ewan McColl, canwr gwerin a chyfansoddwr clasuron fel ‘Dirty Old Town’ a ‘The First Time Ever I Saw Your Face’. 

Ymddangos gyda’r Dubliners yng Nghaerdydd oedd Shane pan gwrddais ag ef.
Roeddwn i eisoes yn ffrindiau mawr â’r ‘Dubs’ ac ar ddiwedd y cyngerdd euthum i’w stafell newid.

Yno yn eistedd ar soffa roedd Shane. Ar y llwyfan gallasech feddwl ei fod yn feddw gaib. Ond na, roedd e mor sobor â sant.

Eisteddais yn ei ymyl a mentro dechrau canu yn ei glust ran o’r gân, a’i haddasu rywfaint. 
‘You could have been someone … ’

Ar unwaith gosododd ei fraich o gwmpas fy ysgwydd ac ychwanegu yn ei lais cras,
‘... So could anyone ... ‘

Ac ymlaen â ni mewn deuawd,
‘You took my dreams from me
When I first met you,
I kept them with me, babe
And I put them with my own,
Can’t make it on my own,
I’ve built my dreams around you.’

Fe wnes i ymuno â’r holl griw wedyn yn eu gwesty gan siario diodydd â Shane tan bedwar o’r gloch y bore, a minnau’n dal trên i Lundain am saith. 
 bellach nid Nadolig fydd Nadolig heb i mi chwarae’r gân drosodd a throsodd dros yr ŵyl.

Eleni roedd yna reswm ychwanegol dros wrando ar y gân a’i chanu, hynny mor aml nes gyrru cath drws nesaf o’i chof.

Caf lonydd i’w chanu gan Jên, gyda llaw. Dyma ei hoff gân, er nad fi yw ei hoff ganwr.

Y rheswm ychwanegol? Wel, un o nodweddion Shane oedd cyflwr gwael ei ddannedd, gyda’r ychydig oedd ganddo ar ôl yn stympiau du.

Ychydig wythnosau’n ôl buddsoddodd mewn dannedd newydd, un ohonynt yn ddant aur. 

Does gen i ddim ond dymuno, wrth gloi, Nadolig Llawen i chi oll, yn cynnwys cath drws nesaf a Shane a’i ddannedd newydd.

Mae Dydd Nadolig yn ddiwrnod pen-blwydd iddo hefyd. Mae’n dathlu ei 58 eleni.
Gall Shane eleni, am y tro cyntaf ers blynyddoedd gnoi cig y twrci.

Yn y cyfamser ymhyfrydaf yn y ffaith i mi oroesi noson a rhan helaeth o fore yn cyfeillachu ag ef a bod yma o hyd i adrodd y stori.

Rhannu |