Colofnwyr

RSS Icon
16 Rhagfyr 2015

Rhyddid y Wasg - Golau ar ben draw’r twnel o’r diwedd

DAU gonglfaen democratiaeth yw rhyddid gwybodaeth a rhyddid y wasg. Bu’r ddau dan fygythiad dros y blynyddoedd diwethaf ond o’r diwedd dyma weld golau ar ben draw’r twnnel. Dim ond gobeithio nad trên sy’n dod i’n cyfarfod yw’r golau hwnnw.

Yn gyntaf, cyhoeddwyd na fydd mwy o achosion yn erbyn papurau newydd am dalu am wybodaeth. Yn ail, cafwyd ymateb cryf o’r diwedd – ac o’r brig – yn erbyn cwtogi am gael rhyddhau gwybodaeth o dan y Ddeddf Hawliau Gwybodaeth.

Fel y nodais o’r blaen, celwydd noeth gan y Guardian wnaeth arwain at y farwol i’r News of the World. Cyhuddwyd y papur o hacio ffôn y ferch ifanc Millie Dowler, a lofruddiwyd. Doedd dim gwir yn yr honiad ond arweiniodd at sefydlu Ymchwiliad Leveson a thranc y papur Sul, oedd yn gwerthu 2.8 miliwn copi’r wythnos. Nawr, yn dilyn cwblhau cymal cyntaf yr ymchwiliad, a gostiodd oddeutu £6 miliwn, rhoddwyd y gorau i gynnal ail gymal yr ymchwiliad.

Ochr yn ochr ag ymgais rhai selebs i sbaddu rhyddid y wasg bu pen bandit y gwasanaeth sifil, Syr Jeremy Haywood yn ceisio’i orau i lastwreiddio hawliau rhyddid gwybodaeth. Nawr cawn ragflaenydd Heywood, Arglwydd Kerslake yn rhybuddio, ‘Howld on, Defi John!’ Gydag ymddiriedaeth y cyhoedd yng ngeirwiredd y Llywodraeth yn plymio, mae angen hawliau rhyddid gwybodaeth yn fwy nag erioed, meddai. 

Amen, medde finnau. Oni bai am y Ddeddf Rhyddid Gwybodaeth ni fyddem wedi cael unrhyw sôn am sgandal twyll Aelodau Seneddol a’u treuliau. Dim ond un dosbarth fyddai’n elwa o lastwreiddio neu ddiddymu’r Ddeddf sef y dosbarth breintiedig a’r selebs hynny sy’n ceisio cuddio’u misdimanyrs

Ond gadewch i ni fynd yn ôl at yr hyn a arweiniodd at dranc y News of the World. Nôl yn 2009 cyhoeddodd y Sun y byddai’n terfynu ei deyrngarwch i’r Blaid Lafur ar ôl 13 mlynedd ac yn cefnogi’r Torïaid ar gyfer Etholiad Cyffredinol 2010. Dyma Gordon Brown yn ffonio Rupert Murdoch, pennaeth News International, sef perchnogion y News of the World a’r Sun, “Gan dy fod ti’n anelu at ddinistrio fy mhlaid, fe wnaf finnau ddinistrio dy gwmni,” meddai Brown, sydd bellach yn ymgynghorwr ariannol i rwy gwmni neu’i gilydd. Mae hynny ynddo’i hun yn jôc.

Yn fuan wedyn dyma Keith Starmer, pennaeth Gwasanaeth Erlyn y Goron y penderfynu erlyn y News of the World. Heddiw mae Starmer yn AS Llafur ac yn Dwrne Cyffredinol yr wrthblaid. Syndod y byd!

Am bum mlynedd bu’r fwyell yn hongian dros bennau prif ohebwyr y papur Sul. Bu’n rhaid cau’r papur. Ond nawr dyma dro pedol. Ni chaiff unrhyw bapur arall ei erlyn, er bod uwch swyddogion y Mirror wedi cyfaddef  i ohebwyr y papur fod yn hacio ffons dros y blynyddoedd. Felly, yr unig ohebwyr i gael eu herlyn fu gweithwyr Rupert Murdoch.

Dro ar ôl tro mewn llysoedd barn, gwrthododd reithgorau â chael gohebwyr Murdoch yn euog. Yr unig un o bwys i’w gael yn euog a’i gosbi oedd y cyn-olygydd, Andy Coulson. A nawr dyma’r Arglwydd Brif Ustus yn cyhoeddi mai digon yw digon. Doedd gohebwyr oedd yn talu gwahanol ffynonellau am stori yn gweithredu’n gyfreithlon, meddai, ac yn gwneud dim byd mwy na chyflawni eu gwaith.

Ac yn awr chawn ni ddim gweld ail gymal Ymchwiliad Leveson yn digwydd. Croesawyd y penderfyniad gan Rwydwaith Rhyddid Mynegiant. Roedd y rheolau a geisiwyd eu creu yn sgil Ymchwil Leveson, meddent, yn cynrychioli’r bygythiad mwyaf i ryddid y wasg ym Mhrydain yn y cyfnod modern. Roedd y deddfwriaethau a grëwyd yn rhewi rhyddid mynegiant gan greu esiampl ofnadwy i bob unben, yn bygwth parhad papurau lleol ac yn  siŵr o arwain at atal datgelu sgandal treuliau Aelodau Seneddol.

Mae’r cyfan yn mynd yn ôl at ddichell a dialedd Gordon Brown. Ac mae pobl yn gofyn pam mae Jeremy Corbyn mor boblogaidd. Mae’r ateb yn glir. Beth bynnag yw beiau Corbyn, mae’n onest. Ac ni ellid gofyn am fwy na hynna gan unrhyw arweinydd gwleidyddol.

Rhannu |