Colofnwyr

RSS Icon
08 Rhagfyr 2015

Ni bydd eisiau arnaf, ddim nawr, ddim byth

Mae’n rhyfedd sut y gall rhywbeth sy’n swnio’n ddibwys ar y pryd wneud i rywun feddwl. Eirwyn Pontshân ddywedodd, a hynny droeon, ‘Pethe bach sy’n gwneud perffeithrwydd, ond nid peth bach yw perffeithrwydd’. Yn y capel oeddwn i fore dydd Sul yn gwrando ar y Parchedig Elwyn Pryse. Mae Elwyn bob amser â rhywbeth diddorol i’w ddweud, hwnnw’n ddadleuol, hwyrach, yn ddoniol yn aml a bob amser yn addysgiadol. Mae ganddo ddawn traethu’r hen hoelion wyth ond ei neges bob amser yn gyfoes a pherthnasol. 

Fe ddarllenodd y drydedd salm ar hugain. Ac ar ôl ei darllen tynnodd ein sylw at arwyddocâd un gair bach yn yr adnod gyntaf, sef y gair ‘bydd’. 
Meddai’r adnod, ‘Yr Arglwydd yw fy mugail; ni bydd eisiau arnaf.’ Nawr, o fod yn gyson ag amser, fe allech feddwl y byddai’n mynd: ‘Yr Arglwydd yw fy mugail; nid oes eisiau arnaf.’

Beth yw’r gwahaniaeth, meddech chi? Does yna fawr o wahaniaeth rhwng ‘oes’ a ‘bydd’. I’r gwrthwyneb. Dydi dweud nad oes arnoch eisiau ddim yn golygu na fydd arnoch eisiau rywbryd. Ond mae’r gair ‘bydd’ yn cynnig sicrwydd. Ni bydd eisiau arnaf, ddim nawr, ddim byth.

A dewch at y salm ei hun. Dyma i mi, y darn o lenyddiaeth fwyaf cysurlon a ysgrifennwyd erioed. Mae’n siŵr ei bod hi ar gof llawer ohonom ac wedi bod yn angor mewn aml i storm. Dafydd biau hi, wrth gwrs, ac onid bugail oedd Dafydd ei hun? Anghofiwch am funud yr elfen grefyddol. Mae’r drydedd salm ar hugain, yn sicr, yn sefyll fel llenyddiaeth fawr. Sôn ydw i am y cyfieithiad gwreiddiol. Dyma lenyddiaeth bur. A dyma un o’r darnau llenyddol mwyaf cyfarwydd a gyfansoddwyd erioed.

Ceir yn y Beibl lenyddiaeth aruchel, a byddaf yn aml yn troi at Eseia, ac yn arbennig at Lyfr y Salmau er mwyn mwynhau llenyddiaeth fawr. Fel Cristion, mae yna lawer mwy i mi, wrth gwrs. Ond does dim rhaid i chi fod yn Gristion i werthfawrogi llenyddiaeth fawr Gristnogol nac ychwaith ddarnau cerddorol na darluniau Cristnogol. Meddyliwch am y Meseia gan Handel a Duw yn Creu Adda gan Michelangelo.

Gosodaf y drydedd salm ar hugain ymhlith ceinion celfyddydol y byd. Mae delwedd y bugail yn rhedeg drwyddi. Petawn i’n gofyn i unrhyw un ddyfynnu adnod o’r Beibl, mae’n siŵr gen i mai ‘Yr Arglwydd yw fy mugail’ fyddai dewis y rhelyw.

Mae yna stori dda am yr hen gyfaill annwyl John Nantllwyd ar fordaith gyda’i frawd Dafydd. Swynwyd rhyw filiwnydd o America gan John. Daeth y ddau yn ffrindiau pennaf gyda John yn adrodd hanes y fferm fynyddig a’r miloedd o ddefaid oedd yn pori yno. Yna dyma’r miliwnydd yn gofyn, ‘Tel me, John, with Dafydd and you away on this cruise, who looks after your sheep?’
A John yn ateb heb unrhyw betruster. ‘Good question, sir. The Lord is my shepherd!’

Y salmau, wrth gwrs, yw emynau’r Iddewon. Llyfr y Salmau, neu’r Tehillim mewn Hebraeg yw llyfr cyntaf y Ketuvim, trydedd adran y Beibl Hebraeg. Daw’r enw ‘salm’ o’r enw Groegaidd ‘psalmoi’ sy’n golygu cerddoriaeth offerynnol neu eiriau i gyd-fynd â cherddoriaeth. Ceir yr union lyfr yn ein Beibl ni sef casgliad o 150 o salmau unigol. Cysylltir amryw ohonynt â’r Brenin Dafydd er bod yna gryn ddadlau am ddilysrwydd rhai ohonynt.

Ond waeth gen i bwy yw eu hawduron. Eu cynnwys a’u barddoniaeth sy’n bwysig i mi.
Bûm yn traethu fy marn droeon ar fawredd barddoniaeth Gristnogol. Mynnai Gwenallt mai bardd crefyddol mwyaf Ewrop oedd Pantycelyn. Ni fedraf ond cytuno er bod Gwenallt ei hun fyny tua’r brig hefyd.

Ychwanegwch Dafydd Frenin. Dyna’i chi driawd. Petai modd cael y tri o gwmpas y bwrdd gyda’i gilydd, dyna’i chi drafodaeth. Byddwn wrth fy modd yn cael bod yn bry ar y wal.

Yn y cyfamser cofiwch arwyddocad y gair bach yna, ‘bydd’. Ie, yr Arglwydd yw fy mugail; ni bydd eisiau arnaf. Wna’i ddim mynd ymlaen ymhellach. Mae’r geiriau wedi eu serio ar gof llawer ohonoch, mae’n siŵr, fel finnau.

Rhannu |