Colofnwyr
Faint o bobl ddiniwed Syria gaiff eu lladd?
ERBYN i’r golofn hon ymddangos bydd penderfyniad wedi ei wneud, hwyrach, ar fomio Syria. Mae yna ddadleuon dros y naill ddadl a’r llall. Yn bersonol rwyf ar yr un ochr â Jeremy Corbyn. Nid, hwyrach, am yr un rhesymau. Fy nadl i yw bod penderfyniadau tebyg wedi methu yn y gorffennol. Pam, felly, ddylen nhw weithio’r tro hwn?
ISIS yw’r giwed fwyaf didostur ers y Natsïaid yn yr Ail Ryfel Byd. Does neb fedr drafod â phobl fel hyn. Ond o fynd ati i ymuno yn y bomio, faint o bobl ddiniwed gaiff eu lladd?
Polisi ISIS yn ninas Raqqa yw cuddio yng nghysgod pobl ddiniwed. Yn wir, y bobl leol ddiniwed yw eu tarian ddynol. O blith y trigolion gorfodir llanciau dros 14 oed i ymuno ag ISIS. Mae ISIS wedi cloddio ogofeydd dyfnion i’w hamddiffyn rhag bomiau. Chaiff pobl gyffredin ddim noddfa yno.
Onid yw synnwyr cyffredin yn mynnu na wnaiff mwy o fomio o’r awyr orchfygu ISIS? Ers blwyddyn a mwy bu gwahanol wledydd yn bomio’n ddiatal heb fawr o lwyddiant. Mae ISIS yn dal i ymestyn ei thentaclau anfad. Amau ydw i mai prif nod Cameron wrth annog bomio yw ei awydd i fod yn Churchill arall. Neu, yn waeth fyth, yn Tony Blair arall.
Yr enghraifft orau (neu waethaf, os mynnwch) o fethiant bomio yw Rhyfel Fietnam, fel y nodais ychydig fisoedd yn ôl yn y golofn hon. Yn ystod Rhyfel Fietnam gollyngodd America saith miliwn o dunelli o fomiau. Roedd hyn ddwywaith a hanner yn fwy na’r pwysau o fomiau a ollyngwyd yn yr Ail Ryfel Byd yn gyfan. Ond nawr, ddeugain mlynedd wedi diwedd Rhyfel Fietnam datgelwyd fod yr Arlywydd Nixon, hyd yn oed yn 1972, dair blynedd cyn diwedd y rhyfel, wedi cyfaddef methiant bomio fel tacteg.
Yn gyhoeddus fe wnaeth Nixon ar y pryd amddiffyn y polisi o fomio dwys a pharhaus fel tacteg. Ond yn ei galon, fel y gwelir bellach mewn dogfennau perthnasol, swm a sylwedd effaith yr holl fomio, yn ôl Nixon, oedd dim byd. Mewn nodyn cyfrinachol i’w ymgynghorwr Henry Kissinger dywedodd fod rhywbeth o’i le ar y bomio. Ddyddiau’n gynharach roedd wedi addef mewn cyfweliad teledu fod y polisi o fomio yn dra effeithiol. Meddai wrth Kissinger: “Cawsom ddeng mlynedd o reolaeth lwyr o’r awyr yn Laos a Gogledd Fietnam. Y canlyniad = Zilch. Mae rhywbeth o’i le ar naill ai’r strategaeth neu ar yr Awyrlu.”
Tactegau bomio’n filitaraidd fel arfer yw paratoi’r ffordd at ymosodiad traed-ar-y-ddaear. Ond dydi Prydain ddim yn bwriadu gwneud hynny, sy’n rhyw fath o fendith. Na, mae Prydain a’i ffrindiau yn Ffrainc ac America yn dibynnu ar garfannau gwrth-ISIS i wneud y gwaith brwnt a pheryglus. Prif wrthwynebiad ISIS yn Syria yw Byddin Rydd Syria (SFA) . Mae Rwsia, ar y llaw arall yn ymosod ar yr SFA ar yr un pryd a’u hymosodiadau ar ISIS gan fod Putin yn cefnogi llywodraeth anfoesol Assad. A’r Twrciaid wedyn yn ymosod ar yr union Gwrdiaid sy’n ymosod ar ISIS.
Dadl Llywodraeth Prydain yw y byddai bomio yn prysuro cytundeb gwleidyddol. Breuddwyd gwrach. Yn wir, aiff David Cameron mor bell â mynnu y byddai bomio’n lleihau’r peryglon i bobl gyffredin. Dewch yn ôl at y gyfatebiaeth â Fietnam. Atgoffwyd ni gan lythyrwr yn y Western Mail ddydd Llun o sylw a wnaed gan ohebydd o Fietnam ym mis Chwefror 1968 am ymosodiad o’r awyr ar ddinas Ben Tre: “Daeth yn angenrheidiol i ddinistrio’r ddinas er mwyn ei harbed.”
Dylem gofio hefyd yr hyn ddigwyddodd i ddinas Dresden yn yr Ail Ryfel Byd.
Dydi bom, mwy na’r rhai sydd yn ei gollwng, ddim yn medru gwahaniaethu rhwng y da a’r drwg, yr euog a’r dieuog.
A meddyliwch am ateb Cameron i Jeremy Corbyn ar effaith posibl bomio ar Syria. Ar ôl honni mai bomio yw un o’r dulliau gorau o leihau’r effaith ar bobl gyffredin dywedodd: “Yn ystod blwyddyn a thri mis o weithredu yn Irac, ni chafwyd un adroddiad o ddioddefwyr sifiliaidd.”
Ac os yw’n disgwyl i ni gredu hynna, yna haws credu fod Neil Kinnock yn Sosialydd!.