Colofnwyr

RSS Icon
25 Tachwedd 2015
Gan LYN EBENEZER

Mrs Brown yn creu cynnwrf yn Fron-goch

Mae’n siŵr y bydd rhai ohonoch yn cofio i mi, dros flwyddyn yn ôl bellach, gyfeirio at rifyn arbennig iawn o ‘Who Do You Think You Are?’ ar BBC2. Testun y rhaglen oedd yr actor a’r comedïwr Brendan O'Carroll, awdur a phrif actor y gyfres gomedi ‘Mrs Bnrown’s Boys’. Ddydd Llun cefais y fraint a’r pleser o ffilmio gydag ef ar gyfer rhaglen ddogfen ar BBC 2 Llundain ar ganmlwyddiant Gwrthryfel y Pasg 1916.

Craidd y rhaglen y llynedd oedd pererindod ysbrydol yr actor wrth chwilio am lofrudd ei dad-cu, Peter O’Carroll, a lofruddiwyd yn ei siop yn Nulyn gan aelod o heddlu cudd Prydain ym mis Hydref 1920. Ceisiwyd beio’r IRA am y weithred ond canfu un o ysbiwyr Michael Collins mai’r llofrudd oedd y Capten Jocelyn Lee Hardy. Ceisiodd Collins ddial arno fwy nag unwaith ond heb lwyddiant.

Roedd dau fab y gŵr a lofruddiwyd, sef Liam a Peter yn aelodau o’r IRA. Llofruddiwyd y tad am iddo wrthod datgelu gwybodaeth am y meibion. Roedd y ddau wedi brwydro yn ystod Wythnos y Pasg 1916 ac wedi eu carcharu yn y Fron-goch. Ddydd Llun ymwelodd Brendan â safle’r gwersyll am y tro cyntaf. A bu’n fy holi am hanes y lle.

Mae’r gyfres ‘Mrs Brown’s Boys’ yn un sy’n hollti barn. I rai mae hi’n glasur. Fedr eraill ddim godde’r math yma o gomedi cwrs. Pawb at y peth y bo, ond o ran cymeriad go iawn Brendan, dyma i chi ddyn arbennig. Mae e’n byrlymu o ddoniolwch ond mae e hefyd yn ŵr cynnes a hynod gyfeillgar. Y mae hefyd, ar fater gorffennol ei genedl, yn ffyrnig o deyrngar. Mae e hefyd yn hynod wybodus am hanes Iwerddon a’i dioddefaint.

Roedd Brendan yn ymwybodol ers tro fod yr ewythr hynaf, Liam wedi bod yn y Fron-goch. Cafodd hyd i Ddatganiad Tystiolaeth Liam yn manylu ar y ffaith honno. Bu’r datganiadau hyn a gadwyd ymhlith archifau milwrol Iwerddon dan glo hyd yn ddiweddar. A thra gwyddai Brendan fod ei ewythr Liam wedi bod yn y Fron-goch, ni wyddai fod Peter hefyd wedi bod yno. Yng Ngwersyll y Gogledd y caethiwyd Liam. Mwy na thebyg mai yno hefyd y bu Peter. Arestiwyd y ddau yn dilyn eu rhan yn y brwydro yn 19016 a’u danfon i gychwyn i Garchar Knutsford.

Creodd ymweliad Brendan a’i wraig Jennifer, sy’n chwarae rhan Cath yn y gyfres gomedi gryn gynnwrf ym mhentre’r Fron-goch, gyda’r caffi lleol yn ganolbwynt i’r prysurdeb. Roedd y ddau ymwelydd a’r criw ffilmio o Lundain wrth eu bodd yno. Ni wnaeth y ddau actor wrthod yr un cais am lofnod neu ffotograff.

O’r eiliad y cyrhaeddodd teimlai Brendan ryw drydan yn yr awyrgylch. Yn wir, mae eraill sydd wedi ymweld â’r lle am y tro cyntaf wedi profi’r union deimlad. Nid rhamantu ’mo hyn. Mae e’n wir. A diolch i Ysgol Bro Tryweryn am drwytho’r plant yn hanes eu bro a hanes y cysylltiad â’r Gwyddelod.

Bydd ffrwyth yr ymweliad ddydd Llun diwethaf yn rhan o raglen ddogfen a ddangosir ar BBC2 adeg dathliadau canmlwyddiant y Gwrthryfel y flwyddyn nesaf. Y cyfarwyddyd yw Mary Cranich, Gwyddeles sy’n hanu o deulu o rebeliaid. Hi hefyd fu’n gyfrifol am y rhifyn hwnnw o ‘Who Do You Think You Are?’ Brendan fydd yn llywio’r rhaglen gyfan, dewis perffaith ddywedwn i.

Diolch i ymdrechion pobl leol fel Elwyn Edwards mae’r Fron-goch yn dechrau derbyn y sylw mae’r lle yn ei haeddu. Pleser arbennig ac annisgwyl i Brendan fu clywed y Gymraeg yn llifo ymhlith mynychwyr y caffi. Roedd hyn yn adlewyrchu syndod y carcharorion ymron ganrif yn ôl o glywed gweithwyr lleol yn siarad â’i gilydd yn Gymraeg. Hyn a sbardunodd lawer ohonynt, Michael Collins yn eu plith i ail-gydio yn eu hiaith.

Bu Elwyn Edwards ac eraill yn galw ers tro am sefydlu rhyw fath ar ganolfan wybodaeth yn y pentref. Byddai hon yn adeg dda i fynd â’r maen i’r wal. Deallaf fod yna drefniadau ar y gweill ar gyfer y dathliadau canmlwyddiant yn lleol. Dyma’r adeg berffaith, ddywedwn i, i gychwyn ymgyrch o ddifrif, a honno’n ymgyrch ryng-genedlaethol. Mae hanes yr hyn a ddigwyddodd yn y pentre bach hwn ganrif yn ôl wedi cael effaith ar hanes milwrol y byd.

 

Rhannu |