Colofnwyr

RSS Icon
18 Tachwedd 2015
Gan LYN EBENEZER

Cyfrol newydd yn olrhain hanes Cymry yn ymfudo i Ohio

Gyda dathliadau canrif a hanner yr ymfudo i Batagonia yn parhau, tueddir i anghofio ymfudiad arall a welodd sefydlu cymuned Gymraeg yn Ohio gan alltudion o dde Sir Aberteifi. Fel yn hanes Patagonia, mae honno hefyd yn stori arwrol am griw o bobol a adawodd y cyfan er mwyn canfod lle o well ar draws Môr Iwerydd. Mae’r stori honno, sy’n canolbwyntio’n bennaf ar hanes un teulu, yn rhan o hunangofiant a lansir nos Fercher yn Llety Parc, Aberystwyth.

Awdur y gyfrol ‘Blas y Bryniau’ yw’r ffermwr a’r canwr Dafydd Edwards o Fethania. Newydd ddychwelyd mae’r teulu yn dilyn gwahoddiad i Ŵyl Cymru Gogledd America, ymweliad a ffilmiwyd gan S4C. Yn ganolog i’r rhaglen honno roedd merch Dafydd, sef y gantores Gwawr Edwards.

Mae hunangofiant Dafydd yn olrhain achau teulu’r Edwardsiaid, Brynele, Bwlchllan a’r cysylltiadau teuluol yn ardal Oak Hill, Ohio yn bennaf er bod yr Edwardsiaid erbyn hyn wedi gwasgaru ledled America. Yr un Edwardsiaid, gyda llaw, yw teulu’r diweddar Hywel Teifi. Mae Huw, ei fab wrthi’n ymchwilio i’r hanes teuluol.

Gwyddom fod yna sefydliadu Cymreig yn Paddy's Run ger Cincinnati, de-orllewin Ohio ers 1801, ac yn y ‘Welsh Hills’ ger Granville ers 1803. Ym 1818 felly fe ddechreuodd teuluoedd Tirbach, Penlanlas, Tŷ Mawr, Rhiwlas a Phantfallen drefnu i adael i ymuno â’r Cymry oedd eisoes wedi setlo yn Paddy’s Run.

Gadawodd yr ymfudwyr cyntaf o’r cylch, o ardal Cilcennin yn benodol, yn 1818. Y rheswm oedd terfysg a thlodi. Yn dilyn Rhyfeloedd Napoleon roedd tenantiaid yn methu talu’r rhent ac roedd amryw yn dioddef o newyn. Roedd y tlodi’n rhannol o ganlyniad i’r codiadau llym mewn trethi. Yng nghanol y terfysg roedd helyntion cau’r tir comin. Roedd Merched Beca’n allweddol hefyd yn brwydro yn erbyn annhegwch y tollau.

Yn 1834 yr aeth aelodau cyntaf teulu’r Edwardsiaid, Daniel a Mary allan i Ohio. Dros y 30 blynedd nesaf fe’u dilynwyd gan aelodau eraill o deulu Brynele a Chroeswyntoedd. Diddorol nodi i aduniad teuluol blynyddolgychwyn allan yn Oak Hill yn 1928 gyda 186 o ddisgynyddion yr Edwardsiaid yn bresennol. Ymhen saith mlynedd roedd y nifer wedi codi i 203.

Bu’r teulu’n allweddol yn grefyddol, yn gymdeithasol, yn ddiwylliannol ac yn ddiwydiannol yn Ohio. Erbyn heddiw mae Edwardsiaid Brynele i’w canfod ledled y Taleithiau Unedig.

Dim ond rhan fechan o hanes Dafydd Edwards yw saga’r ymfudo a’r llinach sy’n dal yn gryf ar draws Môr Iwerydd. Lawn mor ddiddorol yw hanes yr Edwardsiaid a arhosodd yn eu milltir sgwâr. Mae gan Dafydd gof teuluol eithriadol ynghyd â dawn hanesydd bro. Mae’r hanesion am rai o’i hynafiaid yn berlau, pobl fel Tad-cu Croeswyntoedd a Jâms Evans. Pleser fu cael cydweithio â Dafydd ar y gyfrol hynod hon.

Mae ‘Blas y Bryniau’, sy’n chwarae ag enw cartref Dafydd a’i wraig Anne, sef Plas-y-Bryniau yn byrlymu o hiwmor iach y cefn gwlad. Ond mae yma dristwch hefyd. Dafydd bellach yw’r unig Gymro Cymraeg lleol o ffermwr yn y fro. A dydi ei obeithion am olyniaeth ddim yn rhai hyderus iawn.

Mae hon yn gyfrol ddi-flewyn ar dafod sy’n cwestiynu dyfodol y cefn gwlad, amaethu ac, yn wir, yr iaith a’r traddodiadau. Mae’n llym ei feirniadaeth ar y fiwrocratiaeth sy’n tagu’r diwydiant amaeth tra’n canu clod ynni adnewyddol. Drwy’r cyfan mae’n ‘dal i gredu’. Dyma i chi atgofion dyn y filltir sgwâr sydd hefyd wedi teithio’r byd.

I’r rheiny ohonoch sy’n gwybod am ddawn Dafydd fel canwr ac fel ffermwr, cewch weld o ddarllen ‘Blas y Bryniau’ fod ganddo’n ogystal ddoniau ychwanegol, y mwyaf hwyrach y ddawn i ddweud stori. Dewch draw nos Fercher i’w gyfarfod ef a Gwawr a’r teulu oll. Cewch gyfle hefyd i brynu cyfrol hynod ddarllenadwy. A phwy a ŵyr na chawn ni gân neu ddwy hefyd.

Rhannu |