Colofnwyr

RSS Icon
10 Tachwedd 2015
Gan LYN EBENEZER

Dysgu ffiseg i gŵn a pham bod cathod yn paentio?

MAE yna gyfrol newydd ar werth sy’n datgelu cyfrinachau ciwio. Y teitl yw ‘Why Does the Other Line Always Move Faster?’

Yr awdur yw David Andrews. Ac fe wnaeth darllen am y llyfr fy sbarduno i chwilio am y teitlau mwyaf boring (gair da) a fathwyd erioed. Yn wir, canfûm nifer sy’n haeddu’r teitl. Rhai Saesneg i gyd.

Yn yr adran hobïau, daw hwn yn uchel: ‘Re-using Old Graves’ gan Douglas Davies ac Alistair Shaw. Ac ochr yn ochr â hwnnw ar y silff gosodwch ‘Fancy Coffins to Make Yourself’ gan Dale Power. Ac os am baratoi ar gyfer yr anochel, chi ddynion, mae gan Donald I. Rogers gynghorion buddiol i chi yn ei gyfrol ‘Teach Your Wife to be a Widow.’

Wrth gwrs, erbyn hynny byddwch wedi cael llawer o howdi-dw. Gobeithio i chi dderbyn cynghorion gwerthfawr Mae Kinnon yn ‘Make Your Own Sex Toys’. Ac i aros gyda hobïau, dyma’i chi berl: ‘The Manly Art of Knitting’ gan Dave Fougner. Ar y clawr mae llun cowboi ar ei geffyl yn gwau. Y cowboi, nid y ceffyl.

Os mai hwylio yw eich hobi darllennwch ‘How to Avoid Big Ships’ gan Captain John W. Trimmer.

Gadewch i mi symud oddi wrth longau a throi at ddyfeisiadau mwy cyffredin yn ein hardal ni. Clasur Roger Welsch yw ‘Old Tractors and the Men Who Love Them’.

A dyma i chi un arall yn yr un categori: ‘Everything I Know About Women I Learned from My Tractors’. A’r awdur? Ie, ein hen gyfaill Roger Welsch eto. Rwy’n synnu nad yw Geraint Lloyd wedi ei holi.

Mae gen i deitlau perffaith i chi sy’n hoffi darllen pan fyddwch ar sedd y tŷ bach. Dyna’i chi ‘Everyone Poops’ Ac enw’r awdur, wir i chi, yw Taro Gomi. Ac un arall, ‘What’s Your Poo Tellling You?’ gan Jos Richman ac Anish Sheth. 

Caiff creaduriaid le amlwg iawn ymhlith y teitlau rhyfedd. Teitl cyfrol David Evans yw: ‘Does God Ever Speak Through Cats?’

I aros gyda chathod, mae gan Heather Busch a Burton Silver glasur ar eich cyfer: ‘Why Cats Paint. A Theory of Feline Aesthetics.’ 

Gan i fi gyfeirio at gathod, fedra’i ddim, er tegwch, hepgor cŵn. Dyna’i chi ‘How to Knit With Dog Hair’gan Kendall Crolius ac Anne Montgomery.

A beth am y gyfrol ryfeddol honno, ‘How To Teach Physics to your Dog’ gan Chad Orzel. 

Ac i chi sy’n hoffi marchogaeth, dyma’i chi drysor: ‘The Big Book of Lesbian Horse Stories’ gan Lisa Surkis a Monica Nolan.

Eto i farchogion o bob dewis rhywiol: ‘How to Bombproof Your Horse’ gan Captain Rick Pelicano. 

Ie, pawb at y peth y bo, fel y dywedodd y ceffyl wrth gusanu’r mochyn.

Rhaid fydd darllen ‘Castration – The Advantages and Disadvantages’ gan Victor T. Cheyney. Bachan sydd ar y bêl, mae’n amlwg.

Ac o sôn am un pêl, daw hynny â fi at Hitler. Teitl cyfrol Rynn Berry yw: ‘Hitler – Neither Vegetarian nor Animal Lover.’

Fe lwyddodd Hitler am gyfnod gydag un bêl. Ond beth am hyn?’ ‘How to Succeed in Business Without a Penis’ gan Karen Salmashon.

Ac ar yr un thema, teitl cyfrol Catherine A. Mackinnon yw, ‘Are Women Human? And Other Dialogues.’

Os ydych chi’n arddwr mae yna gyfrol sy’n rheidrwydd i chi ei darllen. Chuck Sambotino yw’r awdur, a’r teitl: ‘How To Survive a Garden Gnome Attack’.

Gwyliwch eich cefn, arddwyr! Mae adran gorachaidd y Weriniaeth Islamaidd ar gerdded!

Dw’i ddim wedi cyfeirio at lyfrau coginio. Dyma wneud iawn, felly. Mae’n rheidrwydd arnoch gael copi o ‘Manifold Destiny – The One and Only Guide to Cooking on Your Car Engine’ gan Chris Maynard a Bill Scheller.

Mae’r goruwchnaturiol yn fater na ellir ei anwybyddu. Os ydych chi’n cadw ieir felly, medrwch wneud yn waeth na chael hyd i gyfrol Reginald Bakely, ‘Goblinproofing One’s Chicken Coop and Other Practical Advise in Our Campaign Against the Fairy Kingdom.’

Bob Nadolig bydd y wraig yn prynu cyfrol i mi, o’m dewis fy hun.

Ar hyn o bryd rwy’n methu â dewis rhwng dau glasur, ‘The Stray Shopping Carts of Western North America: A Guide to Field Identification’, gan Julian Montague a chyfrol ddadlennol Gary Leon Hill, ‘How People Who Don’t Know They’re Dead Attach Themselves to Unsuspecting Bystanders and What to Do About It’. 

Yn y cyfamser, hwyl ar y darllen!

Rhannu |