Colofnwyr

RSS Icon
03 Tachwedd 2015
Gan LYN EBENEZER

Mae’r ateb yn chwythu yn y gwynt o hyd

Roedd nos Iau’r wythnos ddiwethaf yn noson fawr. Roedd y Dyn ei Hun yn y CIA yng Nghaerdydd a rhaid oedd bod yno. Son ydw i am Bob Dylan a’i Daith Ddiddiwedd.

Mae Bob wedi bod yn teithio’n achlysurol ers y chwedegau cynnar, wrth gwrs, ond ar Fehefin 7fed 1988 cychwynnodd ar daith fyd-eang sy’n parhau o hyd. Mae’n amhosibl gwybod sawl noson a gynhaliodd yn ystod y daith ond dathlodd ei ddwy filfed sioe ar Fedi 16eg 2007.

Erbyn hyn rwy wedi gweld Bob yn fyw tua phymtheg gwaith. Ond dyma’r agosaf i mi fod iddo erioed. Cefais sedd ddwy res o’r llwyfan, ac yn agos i’r canol. Roeddwn mor agos iddo fel i mi, chwedl Ifas y Tryc, fedru ‘gweld ei Adam’s afal yn cwafrio.’

Mae cyngherddau Bob fel aduniadau gydag hen ffrindiau’n cyfarch ei gilydd. Pawb yn ceisio dychmygu sut sioe fydd hi. A byth yn cael ein siomi Yn y gynulleidfa roedd ambell i wyneb cyfarwydd. Yn eu plith roedd y rebel a ganodd unwaith am ymosod ar balas y Frenhines. Ie, dyna chi, Cerys Matthews MBE. Derbyniodd ei anrhydedd yn hapus oddi wrth fab hynaf y Cwîn. Ceisiodd fod yn anhysbys drwy wisgo het gowboi fawr wen. Wrth gwrs, cafodd fynediad i gefn y llwyfan. Nais wan, Cerys.

Nodwedd Bob yw na wnaiff fyth ganu unrhyw gân yr un fath ddwywaith. Y tro hwn roedd ‘Tangled up in Blue’ a ‘She Belongs to Me’ wedi eu hail-wampio unwaith eto. Canodd ‘Blowing in the Wind’ ar ddull waltz.

Mae yna elfen sioe ‘burlesque’ ym mherfformiadau Bob bob amser. Y tro hwn gwisgai fel gamblwr ar long ar y Mississippi mewn het Stetson a chot dri-chwrter. Gwisgai’r band siwtiau coch a chrysau duon.

Albwm ddiweddaraf Bob yw ‘Shadows in the Night’. Ychydig wnes i freuddwydio nôl ganol y chwedegau y clywn ef y canu caneuon Frank Sinatra. Arni drylliodd y syniad cyfeiliornus na fedr ganu. Yn wir, mae e’n swnio fel tenor ar y record. Felly hefyd pan ganodd y noson honno ganeuon fel ‘I’m a Fool to Want You’, ‘What’ll I Do?’ ac ‘Autumn Leaves’. A oedd yna neges gudd, tybed yn ‘Why Try to Change Me Now?’

Canodd am tuag awr a hanner a’r unig siom oedd iddo hepgor canu ‘Stay With Me’. Hon, fel arfer ar y daith bresennol yw’r gân glo. Mae hi ar ffurf emyn ‘blues’.

 

Should my heart not be humble
Should my eyes fail to see
Should my feet sometimes stumble
On the way, stay with me …

Though the road buckles under
Where I walk, walk along
Till I find to my wonder
Every path leads to Thee
All that I can do is pray
Stay with me

A dyna ni, un sioe arall ar y daith ddiddiwedd. Beth nesaf, tybed? Pwy a ŵyr? Erbyn hyn, ag yntau wedi cyhoeddi 142 o wahanol recordiau heb son am fyrdd o ‘bootlegs’, mae’r ateb, fy ffrind, yn chwythu yn y gwynt. A heriaf unrhyw un i ganfod cân a gaiff ei hail-adrodd o ran cyflwyniad. Ef yw Picasso’r gân. Roedd hwnnw wedi meistroli lluniadaeth gynrychiadol erbyn oedd e’n un-ar-bymtheg. Beth oedd yna i’w brofi wedyn? Cynhyrchu’r un hen ddeunydd? Nage, newid. A dyna athroniaeth Bob. Unwaith fyddwch chi wedi gwneud rhywbeth, beth yw pwrpas ei ail-adrodd? I arall-eirio un o’i linellau, ‘He not busily being reborn is busily dying.’

Yn y cyfamser, diolch Bob am yr offrwm diweddaraf. Y tro nesaf gobeithio y caf sedd yn agosach fyth atat ti. Ond wna’i ddim gwisgo het gowboi. Ac mae’r MBE allan o’r cwestiwn.

Rhannu |