Colofnwyr

RSS Icon
19 Hydref 2015
Gan LYN EBENEZER

Chwarae teg i Ryan Giggs a Gary Neville

FE garwn i dynnu eich sylw’r wythnos hon at dri o drigolion Manceinion. Ar yr un llaw mae Esgob Manceinion, y Gwir Barchedig David Walker. Ar y llaw arall mae dau o gyn-sêr Manchester United, Ryan Giggs a Gary Neville.

Mae’r Gwir Barchedig yn byw mewn plasty yn Salford wedi ei leoli mewn gerddi eang. Mae i’r plasty chwe stafell wely ac mae’n sefyll mewn coedlan sy’n ei guddio rhag y cyhoedd. Mae Giggs a Neville wedi prynu adeilad drudfawr hefyd, sef yr hen Gyfnewidfa Stoc yng nghanol Manceinion gyda’r bwriad o’i droi’n westy moethus. 

Mae’r Gwir Barchedig yn un o 84 o Esgobion sydd wedi ceryddu’r Llywodraeth am beidio â derbyn mwy o ffoaduriaid o Syria. Yn wir, mewn llythyr agored anogwyd pobl i gynnig eu stafelloedd cysgu sbâr i ffoaduriaid Syria. Ond ni fydd y Gwir Barchedig yn cynnig yr un o stafelloedd gwely ei blasty. Nid yw’r adeilad yn addas ar gyfer hynny, meddai.

Wn i ddim faint dalodd Giggs a Neville am yr hen Gyfnewidfa Stoc yng nghanol y ddinas. Miliynau, mae’n rhaid. Y bwriad yw ei droi’n westy bwtîc, datblygiad a fydd y costio miliynau ychwanegol o bunnoedd. Ond gyda’r lle yn wag, torrodd sgwatwyr i mewn, 30 ohonynt a’i feddiannu. Maent yn aelodau o fudiad pobl ddigartref, y ‘Manchester Angels’. Beth fu ymateb Giggs a Neville? Mynnu gorchymyn llys er mwyn eu hel oddi yno? Na, caniatáu iddynt aros yno dros oerni’r gaeaf.

Roedd y sgwatwyr wedi eu gyrru allan o adeiladau gwag eraill yn y ddinas ac yn disgwyl, o feddiannu’r hen Gyfnewidfa, mai’r un fyddai’r stori yno hefyd. Ond na, cytunodd Giggs a Neville y caent aros tan o leiaf fis Chwefror. Meddai arweinydd y  grŵp sgwatio, Wesley Hall, “Rwy’n crïo.” 

Yn dilyn sgwrs â Neville dros y ffôn datgelodd Hall fod y perchnogion newydd yn ddigon hapus iddynt aros yno nes i’r gwaith adnewyddu gychwyn.
“Rwy mewn sioc,” meddai Hall. “Mae e’n ddyn anhygoel. Fe ddywedodd ei fod e’n ceisio cefnogi’r digartref ym Manceinion bob amser, a’i fod yn awyddus i wneud mwy. Yn wir, rwy mewn sioc.”

Mae Giggs a Neville yn filiynyddion sawl gwaith drosodd, medde chi. Hawdd iddyn nhw wneud y fath gynnig, medde chi. Cyhoeddusrwydd. Wel na. Nid Giggs na Neville wnaeth dorri’r stori ond Hall, a hynny ar y cyfryngau cymdeithasol. 

Esboniodd yr Esgob, ar y llaw arall, fod yna resymau da dros iddo beidio â gwahodd ffoaduriaid Syriaidd i’w blasty.

“Gadewch iddyn nhw gael lloches mewn mannau lle byddan nhw’n teimlo’n ddiogel,” meddai, “gyda chefnogaeth elusennau, yr eglwysi, y cyhoedd a’r sector busnes. Yr hyn sydd ei angen ar y  ffoaduriaid hyn yw mannau y gallant eu rhannu gyda’u teuluoedd yn hytrach na siario bwrdd â phâr sy’n siarad iaith ddieithr ac sydd â diwylliant sy’n ddieithr iddynt.”

Pwysleisiodd fod yr eglwys ym Manceinion wedi darparu ficerdy gwag ar gyfer ffoaduriaid. Mewn gwirionedd, meddai, lle cymharol fach yw’r plasty o’i gymharu â chartrefi rhai esgobion. “Mae’n ddigonol i’n pwrpas ni” (ef a’i briod). Mae’n caniatáu i ni groesawi gwesteion pan fydd angen ond does yma ddim cannoedd o stafelloedd gwely.”

Nac oes, ond mae yno chwech, a hynny ar gyfer un pâr priod. Ac os nad oes yna ddigon o le yn y plasty yn Salford, mae Eglwys Lloegr yn berchen ar adeiladau dirifedi ledled y wlad. Fel y nodais yn y gorffennol, roedd asedau Eglwys Loegr yn 2007 yn £5.5 biliwn. Celc bach digon teidi, ddywedwn i. 
Dw’i ddim yn meddwl y gwna Ryan Giggs a Gary Neville lwgi chwaith. Ond mae yna fyd o wahaniaeth rhwng eu hagwedd nhw at yr anghenus ag agwedd Esgob Manceinion. 

Wn i ddim a yw Giggs a Neville yn coleddu syniadaeth Gristnogol.
Ond mae’n gwneud i rywun ofyn pwy sydd agosaf at egwyddorion Crist heddiw? Un o’i weision penodedig sy’n teimlo fod ei dŷ yn llawn ynteu dau gyn-beldroediwr na wnânt droi tlodion o’u drws?

Yn wir, mae’r cyferbyniad rhwng agweddau’r Esgob a’r ddau gyn-beldroediwr yn ddameg fach amserol.

Ydych chi’n cofio’r cwestiwn allweddol ar ddiwedd Dameg y Samariad Trugarog? Ydych, siŵr iawn. Ac fe gofiwch yr ateb hefyd.

Rhannu |