Colofnwyr

RSS Icon
13 Mai 2011
Paul Griffiths

Perfformiadau hudolus mewn cyfnod llewyrchus

DWY ddrama gyfnod fenywaidd, gwbl wahanol yr wythnos hon, wrth imi ymweld â theatrau’r Trycyle a’r Arts yma yn y ddinas fawr. Mae’n gyfnod llewyrchus unwaith eto, a job dal i fyny efo’r llwyth o gynnyrch newydd sy’n britho theatrau’r ddinas.

Does gen i ddim cywilydd cyfaddef mai gwael iawn fues i mewn gwersi Saesneg yn Ysgol Dyffryn Conwy, a does ryfedd felly mod i wastad yn drysu rhwng y Jane Eyre a Jane Austin! Roeddwn i’n fwy na hapus o fedru dal cynhyrchiad diweddara’r pwerdy dramatig Shared Experience o dan law’r dewin Nancy Meckler. ‘Brontë’ oedd teitl y cynhyrchiad, wedi’i gyfansoddi neu ei gasglu ynghyd gan y dramodydd Polly Teale.


……Dyma gynhyrchiad fyddai’n ei gofio am amser maith, nid yn unig am yr ochor addysgiadol ond am y taclusrwydd artistig, a pherfformiadau tanbaid y teulu cyfan.

O’r Brontë’s i ‘Bette and Joan’ yn yr Arts Theatre, a hanes perthynas ffrwydrol dwy o Divas mwya’ Hollywood, Bette Davis a Joan Crawford.

Wedi gyrfaoedd hynod o lwyddiannus, a brwydrau geiriol dros gyfnod o 30 mlynedd, mae’r ddwy eicon Americanaidd yn dod wyneb yn wyneb ar set y ffilm ‘Whatever happened to baby Jane?’. Mae’r ddrama wedi’i osod yn ystafelloedd newid y ddwy, ar set y ffilm, ble mae’r ‘Crawford’ (Anita Dobson) ffysi a ffyrnig, yn ei moethusrwydd melfed yn rhestru gwendidau ei chyd-actores, a’i thafod miniog, eiddigeddus. Gyferbyn â hi, yn ei gwedd brudd, amrwd a blêr mae’r ‘Davis’ (Greta Scacchi) nodweddiadol o’i hymddangosiadau diffwdan, real a chaled, yn tanio’i ffordd drwy’r sigaréts a’i surni tuag at yr eicon arall ochor draw i’r drych.

......Perfformiadau tanbaid a theilwng Dobson a Scacchi am ddiddanodd mwyaf, ac roedd y ddwy fel tân gwyllt yn ffrwydro’n lliwgar drwy gydol y sioe. Roedd eu hamseru a’r awyrgylch a grëwyd ganddynt mor danbaid â’r deunydd oedd yn cael ei drafod.

Gwych iawn. Mynnwch eich tocynnau nawr!

Mae ‘Brontë’ ar daith ar hyn o bryd tan y 4ydd o Fehefin a ‘Bette a Joan’ yn yr Arts Theatre tan y 25ain o Fehefin. Mwy o fanylion drwy ymweld â www.artstheatrewestend.com a www.sharedexperience.org.uk

Rhannu |