Colofnwyr

RSS Icon
13 Hydref 2015
Gan LYN EBENEZER

Roedd Rhyfel Fietnam yn rhywbeth byw iawn i mi

Ymladdwyd Rhyfel Fietnam am ymron ugain mlynedd. Costiodd fywydau dros 58,000 o filwyr Americanaidd. Costiodd fywydau hanner miliwn o filwyr Gogledd Fietnam a thair miliwn o bobl gyffredin.  

Er gwaetha’r ffaith i filwyr America a’u cynghreiriaid fod bedair gwaith yn fwy niferus na milwyr Ho Chi Minh, llwyddodd y Fiet Cong i yrru’r gelyn allan.

Yn ddiddorol iawn roedd Ho Chi Minh, arweinydd y Fiet Cong yn gweithio mewn gwesty yn Llundain pan welodd osgordd yn dilyn arch y Gweriniaethwr Gwyddelig Terence McSwiney, a fu farw ar ôl streic newyn yng Ngharchar Brixton yn 1920.

Gwrthododd Maer Corc fwyd am 74 o ddyddiau. Dywedwyd i’r digwyddiad gael dylanwad mawr ar Ho Chi Minh, hynny a thactegau brwydro Michael Collins yn Iwerddon. 

Dylwn ychwanegu mai yng Ngwersyll y Fron-goch y darlithiwyd gyntaf ar y dulliau newydd hyn o ryfela ‘guerilla’. Fe’u mabwysiadwyd gan brif swyddog milwrol y Fiet Cong, y Cadfridog Giap.

Yn ystod Rhyfel Fietnam gollyngodd America saith miliwn o dunelli o fomiau. Roedd hyn ddwywaith a hanner yn fwy na’r pwysau o fomiau a ollyngwyd yn yr Ail Ryfel Byd yn gyfan.

Ond nawr, ddeugain mlynedd wedi diwedd Rhyfel Fietnam datgelwyd fod yr Arlywydd Nixon, hyd yn oed yn 1972, dair blynedd cyn diwedd y rhyfel, wedi cyfaddef methiant bomio fel tacteg.

Yn gyhoeddus fe wnaeth Nixon ar y pryd amddiffyn y polisi o fomio dwys a pharhaus fel tacteg.

Ond yn ei galon, fel y gwelir bellach yn y dogfennau perthnasol, swm a sylwedd effaith yr holl fomio, yn ôl Nixon, oedd ‘zilch’, sef dim byd.

Mewn nodyn cyfrinachol i’w ymgynghorwr Henry Kissinger dywedodd fod rhywbeth o’i le ar y bomio. Ddyddiau’n gynharach roedd wedi addef mewn cyfweliad teledu fod y polisi o fomio yn dra effeithiol.

Meddai wrth Kissinger: “Cawsom ddeng mlynedd o reolaeth lwyr o’r awyr yn Laos a Gogledd Fietnam. Y canlyniad = Zilch. Mae rhywbeth o’i le ar naill ai’r  strategaeth neu ar yr Awyrlu.”

Dengys nodiadau personol eraill fod Nixon am hyd yn oed ddyfnhau’r ymosodiadau a mynd amdani (‘go for broke’).

Ar y pryd roedd yn ymgyrchu dros gael ei ail-ethol a bwriad Nixon, yn ôl yr awdur Bob Woodward, a ddatgelodd sgandal Watergate, oedd dwysau’r bomio er mwyn sicrhau buddugoliaeth yn yr etholiad.

Ond, meddai Woodward, celwydd noeth oedd honni fod y rhyfel yn effeithiol. Ac fe wyddai Nixon hynny.

Roedd Rhyfel Fietnam yn rhywbeth byw iawn i mi. Byddwn yn galw unwaith yr wythnos gyda Niclas y Glais yng Nglasynys yn Aberystwyth.

Byddwn yn gadael bob tro gyda llwyth o gylchgronau propaganda gwrthwynebwyr America dan fy nghesail. A Niclas, wrth gwrs, yn cefnogi Ho Chi Minh i’r carn.

Profiad cofiadwy hefyd fu cyfarfod â chyn-aelod o’r Inffantri yn Rhyfel Fietnam, dyn sain gyda chwmni teledu Americanaidd yn Atlanta, Georgia.

Roedd Lee J. Peach wedi listio yn llanc 17 oed gan dwyllo’i oedran. Treuliodd gyfnodau yn brwydro y tu ôl i linellau’r Fiet Cong.

A disgrifiodd gymaint meistri oedd milwyr Ho Chi Minh mewn rhyfel seicolegol.

Byddai Lee a’r dynion yn codi pebyll ar gyfer cysgu’r nos wedi eu hamgylchynu gan fwynau Claymore. Gosodid y mwynau i wynebu tuag allan, fel y byddent yn ffrwydro pe croesai’r gelyn y llinell. O godi yn y bore gwelent, yn aml, fod y mwynau wedi ei hail-osod i wynebu tuag i mewn. Oedd, roedd y Fiet Cong wedi bod yno yn nyfnder nos.

O ganlyniad i’w brofiadau erchyll fedrai Lee ddim cysgu un noson. Ond edmygai’r Fiet Cong fel milwyr. Doedd yna ddim milwr yn y byd fel ‘Charlie’, meddai. ‘Charlie’ oedd llysenw’r Americanwyr ar y Fiet Cong.

O blith y tair miliwn o bobl gyffredin a laddwyd yno, collwyd miloedd i’r Napalm dieflig a ddatblygwyd gan America.

Cwmwl o jeli gasolîn oedd Napalm a fyddai, o’i danio, yn ysu pawb a phopeth a gyffyrddai. Dyna braf yw cael byw mewn byd ac oes mor war, ynte?.

Ond dyna fe, fel y dywedodd Niclas y Glais: “O wasgar efrau, ofer disgwyl gwenith … “

Rhannu |