Colofnwyr

RSS Icon
29 Medi 2015
Gan LYN EBENEZER

Jeremy Corbyn - Roedd ei fam-gu yn wyres i Hitler a’i dad yn cicio cathod!

RWYF am ofyn i chi bedwar cwestiwn, gan eich gwahodd i gynnig eich atebion. Dyma nhw:

(a) Pwy oedd Jack the Ripper?

(b) Pwy wnaeth lofruddio John F. Kennedy?

(c) Pwy saethodd J.R. yn ‘Dallas’?

(ch) Pwy yw’r ‘Yorkshire Ripper’mewn gwirionedd?

Yr ateb i (b), (c) ac (ch) yw Jeremy Corbyn. A’r ateb i (a) yw hen dad-cu
Jeremy Corbyn.

Ydw i’n ynfydu? Nac ydw. Ry’n ni bellach wedi cael y ‘bête noire’ delfrydol, y bwch dihangol perffaith. Synnwn i ddim na fydd rhywun cyn hir yn olrhain ei siart achau yn ôl yr holl ffordd at Jiwdas Iscariot. Fe wyddom, wrth gwrs, fod ei fam-gu yn wyres i Hitler a’i dad yn cicio cathod.

Nawr, dydw i ddim o bell ffordd yn cytuno â thrwch polisïau Corbyn, yn arbennig ei elyniaeth ddall tuag at Israel. Ond mae’r dyn wedi ei ethol yn ddemocrataidd fel arweinydd yr Wrthblaid. A beth bynnag yw ei wendidau, nid yw’n chwarae’r ffon ddwybig. Mantra Corbyn yw, “Dyma fi, gwnewch be fynnwch chi o hynny.”

Wrth i mi baratoi hyn o lith mae cynhadledd y Blaid Lafur yn cyfarfod yn Brighton. Dewisodd pedwar o hoelion wyth y blaid honno beidio â bod yno, sef Kinnock, Blair, Brown ac Ed Miliband. O, dyna biti! Oes unrhyw un a wêl eu heisiau, dwedwch? Arch ragrithiwr, llofrudd lluosog, lleidr pensiynau a sioni-bob-ochr sydd ag angen sat-nav i wybod ble mae’n sefyll. Dyna’i chi golled i’r gynhadledd. Ie, malwr awyr, bwtsiwr, bwli a gwamalwr, y pedwar yn cadw draw am fod Corbyn yn embaras iddynt.

Sgandal diweddaraf Corbyn yw ei ddymuniad i weld Iwerddon unedig. Yn hynny o beth mae’n un o filoedd ar filoedd, yn wir miliynau, minnau yn eu plith. Onid yw synnwyr cyffredin yn mynnu mai un wlad ac un genedl ddylai Iwerddon fod?

Ar ben hynny mae Corbyn wedi rhoi sêl ei fendith ar osod cofeb i un o genedlaetholwyr mawr Iwerddon, yr Iarlles Marcievikz. Pwy oedd yr Iarlles Markievicz? Wel, aelod o deulu enwog Gore-Booth, swffragét a ymladdodd yng Ngwrthryfel y Pasg 1916 ac a etholwyd i’r  Senedd yn 1918, y fenyw gyntaf i lwyddo i wneud hynny. Mae’r ffaith olaf yna ei hun yn haeddu coffâd teilwng iddi.

Mynegodd Corbyn ei gefnogaeth i’r syniad o osod plac glas ar lyfrgell oedd yn gysylltiedig â hi yn Llundain, sef llyfrgell leol Corbyn ei hun. Drwy hynny fe’i cyhuddwyd yn y wasg o gefnogi’r IRA. Os hynny, roedd hyn yn gryn gamp iddo. Doedd yr IRA ddim yn bodoli yn 1916, pan ymladdodd yr Iarlles yn y frwydr dros Iwerddon Rydd ac Iwerddon Unedig.

Mae haerllugrwydd y rhai sydd yn ein rheoli yn anhygoel. Ar yr un llaw dyma fynny na ddylid coffau menyw a frwydrodd dros ryddid Iwerddon a’i chyd-fenywod ganrif yn ôl. Ond mae’n berffaith gyfiawn plygu glin i unbeniaid yn Sawdi Arabia sy’n cyfiawnhau dienyddio drwy labyddio’r rhai na sydd o’r un daliadau â nhw.

Yn hytrach na chollfarnu Corbyn am gefnogi coffâd i’r Iarlles dylai’r beirniaid ystyried un o’i gwirioneddau: “Rwyf wedi casáu rhyfel erioed, ac o ran natur ac athroniaeth rwy’n heddychwraig. Ond y Saeson sy’n gorfodi rhyfel arnom, ac egwyddor gyntaf rhyfel yw lladd y gelyn.”

Yn hytrach felly na lladd ar Corbyn am gefnogi’r coffâd i’r Iarlles dylai ei feirniaid ystyried rhywbeth a ddywedodd y dyn ddiweddar: “Dylid ail-ysgrifennu cwricwlwm ein hysgolion fel y gall disgyblion ddysgu mwy am hanes undebau llafur a’r modd y gwnaeth pobol ledled y byd ddioddef o ganlyniad i ledaeniad yr Ymerodraeth Brydeinig.” Dylid, meddai, adolygu gwersi hanes i gynnwys addysgu plant am arwyr fel Keir Hardie.

I ni yng Nghymru a drwythwyd yn hanes yr Ymerodraeth Brydeinig yn ein hysgolion yn hytrach na chael dysgu hanes ein cenedl ein hunain, mae’r geiriau yna’n dra synhwyrol. 

Stop Press: Mae Jeremy Corbyn wedi ei gyhuddo gan y Daily Mail o drefnu ymosodiadau 9/11 ac o wenwyno aelodau tîm rygbi Lloegr cyn y gêm yn erbyn Cymru nos Sadwrn diwethaf.

Rhannu |