Colofnwyr
Mwynhau Groeg er gwaethaf rhybuddion y proffwydi gwae
Ers chwe mis a mwy bu’r proffwydi gwae yn ein rhybuddio. ‘Peidiwch â mynd! Mae’r lle’n ferw! Fydd neb call yn mentro ar wyliau i Wlad Groeg y dyddiau hyn! Dim ond ffyliaid fel chi fydd yn mynd! Fe fydd yna derfysgoedd, fe gewch chi weld!’ Wel, fe aeth y ffyliaid hyn a dod nôl yn groeniach ac wedi llwyr fwynhau, yn ôl ein harfer.
Chwi gofiwch mai’r bwgan cyntaf oedd sefyllfa ariannol y wlad. Roedd Gwlad Groeg ar ei thîn yn economaidd, wedi ei hynysu gan weddill gwledydd Ewrop. Roedd hi’n esgymun. Fe wnâi’r Ewro ddiflannu ac fe ddeuai’r Drachma yn ôl. Fe fyddai’r holl fanciau ynghau a neb yn fodlon derbyn cardiau credid. Yn syml, byddai’r wlad yn mynd yn rhan o’r Trydydd Byd.
Wel, fe ddiflannodd yr argyfwng hwnnw i raddau helaeth. Ond och a gwae! Fe’i disodlwyd gan argyfwng arall. Gorlifwyd Athen gan ffoaduriaid ar eu ffordd i Ogledd Ewrop. Yn wir, ar y diwrnod cyn i ni adael gwelsom ar y bwletinau newyddion adre olygfeydd arswydus o bedair mil a hanner o ffoaduriaid yn disgyn ar borthladd Piraews, lle byddem trannoeth yn dal y catamarán am Ynys Agistri.
Fe wnaethom gyrraedd maes awyr Athen a dal tacsi am y porthladd. Doedd cost y tacsi ddim mymryn yn uwch na’r llynedd. Pan wnaethom holi’r wraig a yrrai’r tacsi fel cerbyd Jehw am yr anhrefn oedd yn ein haros, edrychodd braidd yn wirion arnom. Ac yn fuan dyma ddeall pam,. Roedd Piraews yn dawel. Er ei bod hi’n ganol prynhawn, doedd yno ddim torfeydd mwy nag arfer. Yn wir, welsom ni ddim cymaint ag un ffoadur.
Roedd tri ohonom wedi llogi bwthyn, rhan o ymerodraeth Brenin yr Ynys, yr anghymharol Andreas Panou. Doedd y gost o logi’r Villa Nectaria (enw crand ar fwthyn tair stafell) ddim mymryn uwch na’r flwyddyn flaenorol. Buan y gwnaethom sylweddoli mai dyna’r stori o ran pris bwyd a diod hefyd. Dim newid. Caem bryd tri chwrs a digonedd o win am ddegpunt yn ein harian ni. Pris sgŵter bach Yamaha wedyn, a logais oddi wrth Takis ym Milos. Yr union bris â’r llynedd, a llond tanc o betrol am ychydig dros ddwy Ewro, digon i’m cludo o gwmpas y lle am un diwrnod ar ddeg.
A beth am yr ymwelwyr? Oedden nhw wedi cadw draw, gan adael y lle i ffyliaid fel ni? Nefyr in Iwrop! Os rhywbeth, roedd yno fwy nag arfer. Ond llai o Saeson.
Ar ôl setlo, a dechrau crwydro o fan i fan cawsom sgwrs â Saesnes sy’n briod â Groegwr sy’n berchen ar y Copa Cabana. Oedd, meddai, roedd pethe wedi bod yn argyfyngus nôl yn y gwanwyn cyn y Refferendwm. Ond wedi’r Refferendwm gwelwyd newid mawr. Sylweddolodd llawer o drigolion y tir mawr, Atheniaid yn arbennig, mai doethach a rhatach fyddai treulio’u gwyliau yn eu gwlad eu hunain. A chan nag ydi Agistri ond mordaith awr o Athen, fe elwodd yr ynys fach yn fawr. Dros y ddau benwythnos roedd y lle’n llawn Atheniaid. Gwelsom dair priodas yno. Gymaint oedd y prysurdeb fel i Andreas, dan bwysau mawr yn ei daferna, ebychu un noson: ‘Blydi Groegiaid!’
Peth arall a sylweddolais oedd mor stoicaidd yw’r Groegiaid mewn argyfwng. Er i filoedd o ffoaduriaid lethu Piraews ar eu ffordd am Facedonia ac ymlaen, chlywais i fawr ddim cwyno na beirniadu. Ond dyna fe, mae Gwlad Groeg yn gynefin â derbyn ffoaduriaid. Ddegawd a mwy yn ôl, Albaniaiaid oedd y prif fewnfudwyr. Yn wir, yn gweini arnom roedd Eugene, Albaniad ifanc a oedd wedi cael lloches yn Athen gyda’i fam ddegawd yn ôl. Heddiw mae’n fyfyriwr mewn cyfrifiadureg gan dalu ei ffordd drwy weithio dros bob gwyliau fel gweinydd gydag Andreas. A gafodd ef drafferth i gymhathu a chael ei dderbyn? Na. Dysgodd siarad yr iaith o fewn tri mis, meddai. Cai ei dderbyn gan bawb fel aelod defnyddiol o gymdeithas.
Felly, er gwaethaf rhybuddion y proffwydi gwae, mynd wnaethon ni gan beidio â difaru gwneud hynny mewn unrhyw ffordd. Dyma, i Jên a minnau, ein 25ain gwyliau di-dor ar Agistri. Ac o gymryd popeth i ystyriaeth, hwn fu’r rhataf ohonynt. Cawsom gyfnewid Sterling am Ewro ar raddfa o ymron un Ewro a hanner am bob punt. Bargen hyd yn oed i Gardi!