Colofnwyr
Newyddion yn mynd i’r cyfeiriad anghywir?
I ba beth mae’r byd (sef byd y wasg) yn dod? Fydda’i byth, fel arfer, yn colli adolygiadau o wasg y dydd ar Sky News ac ar Newyddion y BBC. Yn wir, gyda’r holl doriadau a’r pwysau sydd ar ddarlledu Cymraeg, oni fyddai rhaglen nosol debyg yn syniad da i S4C? Byddai’n rhaglen rad, ac o gael pwndits diddorol byddai, mae’n siŵr gen i, yn boblogaidd iawn.
Beth bynnag, nos trannoeth i’r ddamwain awyren Hawker Hunter yn Shoreham oedd hi, ag unarddeg o bobl (mwy erbyn hyn) wedi colli eu bywyd. Dyma’r stori oedd ar dudalen flaen pob papur, ar wahân i’r Financial Times. Ond ar ôl dangos y tudalennau blaen i gyd dyma’r cyflwynydd yn troi at brif stori’r nos. Y ddamwain? Sgersli bilîf. Dyma droi at dudalen 4 y Sun a’r newyddion mawr syfrdanol fod band o’r enw 1 Direction yn bwriadu rhoi’r gorau iddi dros dro.
Fedrwn i ddim credu’r peth. Dyma droi at Newyddion y BBC. Ac yn wir i chi, yno hefyd dyna oedd y brif stori. Nawr, wn i fawr ddim am y band honedig, ddim ond bod merched bach yn gwlychu eu hunain bob tro y clywant eu henw. Ond fyddwn i ddim yn meddwl bod stori am fand yn rhoi’r gorau i ganu (ac rwy’n defnyddio’r gair canu yn ei ystyr ehangaf yma) yn brif stori. Yn wir, prin ei bod hi’n stori o gwbwl.
Heddiw (dydd Mawrth) mae’r Western Mail yn neilltuo tudalen gyfan i benderfyniad y band i chwalu. Ie, y ‘National Newspaper of Wales’. Yn wir, mae gen i asgwrn i’r grafu â Phapur Cenedlaethol Cymru. Trannoeth i angladd Cilla Black dyma ein horgan cenedlaethol yn neilltuo’r tudalen flaen yn gyfan, a phedair tudalen y tu mewn i’r angladd.
Nawr, gyda phob parch i’r berfformwraig sgrechlyd, o ystyried yr holl storiâu mawr ledled y byd, fyddwn i ddim yn meddwl fod marwolaeth ac angladd cantores bop yn haeddu’r holl sylw a gafodd. ‘A true daughter of Liverpool!’ medde’r Daily Mail. Beth? Unwaith y daeth hi’n enwog, gadawodd y ddinas am byth.
Beth bynnag,. Yn ein Papur Cenedlaethol ar y dydd Sadwrn cyn yr angladd cawsom ddau golofnydd Cymreig yn disgrifio Cilla fel ‘national treasure’. Teimlwn mor annifyr fel i mi ddanfon llythyr, un bach digon byr, at y golygydd i’w gyhoeddi. Ni welodd olau dydd. Mae e’n dal, siŵr o fod, ar y sbeic. Ond o ran diddordeb, dyma beth oedd gen i i’w ddweud, yn fy Saesneg coethaf:
Sir,
How wrong can one be! There's me believing all along that Cilla Black was English only to be corrected by two of your esteemed columnists. In Saturday's paper and in its accompanying magazine, both Rhodri Morgan and Ceri Gould referred to Cilla as 'a national treasure'. That, to me, makes her Welsh. Surprise! Surprise! Or as Cilla would undoubtedly have exclaimed, 'Syndod! Syndod!'
Nawr, llythyr bach digon diniwed, ddywedwn i, llythyr a ysgrifennwyd gyda’m tafod yn ddwfn yn fy moch. Ond na, ni welodd ein Papur Cenedlaethol yn dda i’w gynnwys. Iawn. Mae perffaith hawl gan unrhyw olygydd i dderbyn neu wrthod llythyr.
Ond nid dyma’r unig dro eleni i lythyr a anfonais at y golygydd i gael ei anwybyddu. Roedd y llall yn fater digon diddorol i gael sylw, ddywedwn i. Yn y papur cariwyd stori am y cysylltiadau Cymreig ag Everest. Roedd hi’n erthygl ddigon diddorol yn olrhain y cysylltiadau, o’r goncwest gyntaf i enw’r Gymraes gyntaf i ddringo mynydd ucha’r byd. Ond dim un gair am y Cymro cyntaf i wneud hynny, sef Caradoc Jones o’r pentref hwn.
Roedd y llythyr yn amserol. Roeddem, fel aelodau o’r gangen leol o’r Hoelion Wyth, wedi trefnu i ddadorchuddio plac i nodi camp Caradoc ar wal y Llew Coch, lle bu’n byw. Nodais hynny yn y llythyr. Fe gynhaliwyd y dadorchuddio o flaen torf sylweddol. Roedd Caradoc ei hun yno. Doedd hynny ddim yn newyddion i Bapur Cenedlaethol Cymru. Ond mae hanes chwaliad band estron na fedr ganu na chwarae offeryn yn newyddion mawr.
Pach!