Colofnwyr

RSS Icon
20 Awst 2015

Jeremy Corbyn yn frenin mawr y buarth

Yr anghymharol Groucho Marx wnaeth ddweud unwaith: ‘Dyma fy egwyddorion. Ac os nad y’ch chi’n eu hoffi, mae gen i rai eraill.’

Dyna ddaw i’m meddwl bob tro y clywaf Andy Burnham, un o’r pedwar ymgeisydd am arweinyddiaeth y Blaid Lafur yn agor ei geg. Ef yw’r Sioni Bob Man, brwynen yn y gwynt gwleidyddol sy’n fodlon plygu i unrhyw gyfeiriad, yn dibynnu i ba gyfeiriad y bydd y gwynt yn chwythu ar y pryd.

Mae sefyllfa’r Blaid Lafur ar hyn o bryd yn opera sebon na welwyd ei bath erioed. Mae Llafur Newydd mewn panig. Maen nhw fel ieir wedi colli eu pennau, yn rhuthro i bob cyfeiriad tra bod Jeremy Corbyn yn frenin mawr y buarth. Ac rwyf wrth fy modd.

Un peth na fedr trwch y Blaid Lafur ei oddef yw gonestrwydd. A gonestrwydd yw platfform Corbyn. Wedi blynyddoedd o gelwydd a rhagrith gan arweinwyr fel Kinnock a Blair a Miliband, dyma wleidydd a wnaeth ddim byd mwy na chodi ei ben goruwch y pared a dweud yn union beth yw ei safbwynt. Ac mae ei blaid erbyn hyn mor anghyfarwydd â chlywed y gwir fel nad oes ganddyn nhw ateb.

Peidiwch â meddwl am funud fy mod i’n credu fod y Torïaid fymryn gwell. Na, maen nhw lawn cynddrwg. Gall Cameron fedru udo fel asyn am arafwch rhyddhau Adroddiad Chilcott, ond mae ef i’w feio lawn cymaint â neb arall. Ef wedi’r cyfan yw’r Prif Weinidog. Ef sy’n brolio Prydain fel gwlad rydd. Gwlad rydd? Mae gan Chilcott lawer i’w ddysgu i Kim Jong-un. Petawn i’n aelod o’r Blaid Lafur fe wnawn i bleidleisio i Jeremy Corbyn ar sail un o’i egwyddorion yn unig, sef ei awydd i orfodi Blair i wynebu llys iawnderau dynol fel troseddwr rhyfel.

Fe gefais fy nghodi’n sosialydd wrth draed Nhad. Dychmygaf ei lawenydd heddiw o weld Corbyn yn arwain yn y ras am arweinyddiaeth ei annwyl Blaid Lafur. Clement Attlee oedd ei dduw. Cofiaf o hyd y llun lliw o gabinet Attlee’n hongian ar wal y gegin, Morrison a Bevin, Cripps a Shinwell, Bevan a Dalton. A’r unig fenyw, Elen Wilkinson, y Gweinidog Addysg a’i gwallt coch. Yn blentyn chwech oed, syrthiais mewn cariad â hi.

Roedd gwleidyddiaeth yn fater o ddu a gwyn bryd hynny. Ar ein haelwyd ni, roedd Llafur ar ochr yr angylion tra’r Torïaid yn fwystfilod uffern. Heddiw wela’i ddim iot o wahaniaeth rhyngddyn nhw. Meddyliwch am dwyllwyr fel Kinnock a Mandelson, Prescott a Blair yn meiddio coleddu’r label o Sosialwyr! Ariangarwyr bob wan jac!

Ond nawr, wedi blynyddoedd o gael eu rheoli gan aelodau o’r dosbarth elitaidd, mae aelodau a chefnogwyr go iawn Llafur wedi cael digon. A dwi’n synnu dim. Mae yna rai o safbwyntiau Corbyn na fedrwn eu coleddu. Ond all neb wadu ei onestrwydd. A dyma’r cyfle mawr i Lafur i adref gonestrwydd i graidd ei bodolaeth. Yn wir, petawn i’n aelod o’r Blaid Lafur fe wnawn bleidleisio heb unrhyw betruster i Corbyn.

Y gwir amdani yw nad wyf ers dyddiau ysgol wedi bod yn aelod o unrhyw blaid wleidyddol. Sut fedrwn i gefnogi Llafur pan fod y cyn-Gymro, y Barwn ‘Boyo’ Kinnock yn fflawntio’i ragrith? Sut fedrwn i gefnogi plaid oedd yn cael ei harwain gan Blair, Prif Weinidog sydd â gwaed miloedd ar filoedd ar ei ddwylo? Sut fedrwn i gefnogi Brown, sbaddwr yr economi a lleidr ein pensiynau?

Ond dyma nhw i chi, pob un â’i rybudd rhag gorseddu Corbyn. Yr ariangar Kinnock, Mandelson a Prescott, y llofrudd Blair a nawr Ed Milliband. Dywedodd na fyddai’n ymyrryd o gwbl yn y ras. Yna dyma fe’n cyhoeddi y bydd ein democratiaeth (pa ddemocratiaeth?) mewn perygl os gaiff Corbyn ei ethol. Pwy wnaeth greu’r gyfundrefn o un person, un bleidlais a wnaiff nawr, mae’n debyg orseddu Corbyn? Neb llai na Miliband.

A nawr dyma Lafur Newydd wedi eu dal rhwng Karl Marx a Groucho Marks. Groucho wnaeth ddweud: ‘Fyddwn i ddim am ymuno ag unrhyw glwb a fyddai’n fy nerbyn i fel aelod.’ Dyna pam nad ydw i – ac na fydda’i byth - yn aelod o unrhyw blaid wleidyddol mwy. Twyllwyr oll.

Rhannu |