Colofnwyr

RSS Icon
14 Awst 2015
Gan LYN EBENEZER

Y rheswm pam wnes i foeli'n gynnar iawn!

Sylw a glywaf byth a hefyd y dyddiau hyn yw bod y byd yn gyflym fynd â’i ben i waered. A wir i chi, mae yna sail dros fynnu hynny. Nid yn unig mae’r byd wedi mynd â’i ben i waered fe aeth hefyd y tu chwith allan.

Cofiaf hen gymeriad o’r fro hon, nôl yn y saithdegau, yn galw i weld ei ferch ar ddiwrnod braf o haf. Yno roedd ei ferch a’r teulu yn mwynhau barbeciw yn yr ardd. A’r hen foi yn synnu a rhyfeddu.

‘Meddylia,’ medde fe wrth ei ferch, ‘pan o’n i’n grwt, fe fyddwn i’n gwneud fy musnes yn yr ardd ac yn bwyta yn y tŷ. Ond nawr dyma chi’n bwyta yn yr ardd a gwneud eich busnes yn y tŷ!’

Rhyw feddyliau felna ddaeth i mi wrth i mi glywed am hanes bachgen 14eg oed yn trywanu un o’i athrawon. A dyma’i chi enghraifft arall o’r byd yn troi â’i ben i waered a thu chwith allan. Yn ystod fy nyddiau ysgol i, yr athro fyddai’n ymosod ar y disgyblion.

I Ysgol Uwchradd Tregaron wnes i fynd, hynny nôl yn 1951, yr ysgol orau yn y byd, gyda llaw. Yno roedd y gansen yn ffordd ddigon cyffredin o gosbi. Er y prysuraf i ddweud mai tri neu bedwar yn unig o blith y dwsin a hanner o staff a wnâi ei defnyddio, yn cynnwys y prifathro.

Cyfeiriais eisoes at yr hen gredo oedd yn ein plith y gwnâi tynnu blewyn o’ch pen a’i osod ar draws cledr eich llaw wanhau grym y glatsien. Ac ie, mae’n rhaid mai dyna pam wnes i foeli’n gynnar iawn.

Wrth edrych yn ôl daw’n amlwg i mi mai’r athrawon a wnaent droi at y gosb gorfforol oedd hefyd yr athrawon gwannaf a gwaelaf. Fedren nhw ddim cadw gward heb droi at y gansen. Yn achos y prifathro, roedd hynny ymhell o fod yn wir. Roedd D. Lloyd Jenkins yn athrylith, a byddai cael chwip din ganddo fe yn fraint yn hytrach na chosb.

Roedd yna dri athro yn arbennig a fedrent fod wedi bod yn hyfforddwyr perffaith i’r Chwilys Sbaenaidd. Yn wir, byddent heddiw yn teimlo’n gwbl hapus ymhlith rhengoedd IS. Yr athro chwaraeon oedd un, a’r hyn a roddai gryn bleser iddo ar y cae chwarae adeg mabolgampau fyddai defnyddio ffon un o’r clwydi fel arf ar gyfer cosbi. ‘Bend over!’ fyddai’r gorchymyn. Ac yna, slap. Byddai’r athro gwaith coed yn defnyddio pa ddarn o bren bynnag fyddai wrth law. Hoff ddull arteithio’r athro mathemateg fyddai ein hitio ar draws migyrnau ein dwylo â phren mesur.

Y digwyddiad mwyaf gwarthus a welais i oedd athro o ysgol arall yn dyfarnu mewn gêm rygbi rhwng Tregaron ac Ardwyn. Fe droseddodd ein mewnwr ni. Ac yno, o flaen yr holl chwaraewyr a’r gwylwyr, derbyniodd glatsien ar draws ei law gan y dyfarnwr.

Ond trodd y rhod, a heddiw yr athrawon, druain, sy’n dioddef dan law’r disgyblion. Yn yr achos dan sylw trywanodd disgybl un o’i athrawon yn fwriadol. A hyd yn oed yn waeth na’r weithred ei hun oedd brolio’r llanc ar y cyfryngau cymdeithasol am ei weithred, ac ategiad 69 o’i gyd-ddisgyblion i’w weithred ysgeler. Roedd ei weithred yn un gwbl fwriadol. Aeth i’r ysgol ar y bore dan sylw gyda chyllell fwrdd yn ei boced.

Cwestiwn na ofynnwyd gan ohebwyr y papurau a’r cyfryngau eraill oedd beth oedd yn gyfrifol fod y llanc yn cael bod yn yr ysgol yn y lle cyntaf? Roedd ganddo record droseddol am geisio lladrata ac am ymosod ac wedi ei ddiarddel eisoes o ysgol flaenorol. Roedd allan ar fechnïaeth ar y pryd.

Gwnaed môr a mynydd o’r ffaith iddo gael ei ddedfrydu i 11eg mlynedd dan glo. Ond fe fydd allan ymhen llai na thair blynedd. Pan gyhoeddwyd y ddedfryd, ei unig ymateb fu dylyfu gên.

Mwyaf oll y daw digwyddiadau o’r fath yn fwy cyffredin, amlaf oll y byddaf yn diolch i’r Hollalluog am i mi derfynu fy addysg golegol yn gynnar. Oni bai am hynny fe fyddwn, hwyrach, wedi mynd yn athro. Mae’n bosib wedyn y byddwn i wedi bod ymhlith y poenydwyr. Neu, yn wir, yn un o’r dioddefwyr.

Rhannu |