Colofnwyr
Neil ap Siencyn - Milwr dros Gymru a derwen ym mhob storm
Yn unigolion, roedd y pedwar yn unigryw. Gyda’i gilydd, roedd cael bod yn eu cwmni’n brofiad amheuthun. A gallaf ymhyfrydu yn y ffaith i mi fwynhau’r profiad hwnnw fwy nag uniaith. Bu tri ohonynt farw rhwng 1994 a 2000. Bu farw’r pedwerydd yr wythnos ddiwethaf gan uno’r cylch unwaith eto.
Son ydw i am Eirwyn Pontshân, Cayo Evans, Peter Goginan a nawr, Neil ap Siencyn. Ie, pedwar cymeriad, pedwar aderyn brith, pedwar nas gwelir eu tebyg fyth eto.
Pan glywais am farwolaeth Neil, un llun a fynnai lenwi fy meddwl. Dewch nôl i adeg y Pasg 1966, a Neil, Cayo a Goginan ymhlith y cannoedd ar fordaith i Iwerddon i ymuno yn nathliad hanner canrif Gwrthryfel 1916 yn Nulyn. Roedd Neil wedi’i wisgo’n ffasiynol mewn siwmper Arran gan ymddangos fel pumed aelod o’r Brodyr Clancy. Llifai’r Ginis, ac erbyn i ni gyrraedd Ros Láir roedden ni braidd y simsan. Erbyn hyn roedd patrwm ar siwmper Neil. Yn ymestyn o gyrion ei fwstas lawr hyd at ei ganol rhedai dwy linell ddu, cyfochrog ac unionsyth.
Dylwn nodi i Goginan, druan, fethu â gosod cymaint â throed ar dir Iwerddon. Cysgodd a llithrodd i’r llawr dan fwrdd ym mar y llong. Ymhen pedair awr dihunodd yn ôl yn Abergwaun.
Ie, Neil ap Siencyn neu Neil Jenkins, fel yr adnabyddwn ef yn wreiddiol. Enigma o ddyn. Deallusyn a garai’r celfyddydau ond a oedd yn werinwr. Anghredadun a ganai emynau Pantycelyn. Cynnyrch y Gymru ddiwydiannol a drodd tua’r Gorllewin at Adfer. Cenedlaetholwr pybyr a ddiarddelwyd o Blaid Cymru. A chyfaill pur.
Doedd dim byd yn crynhoi’r gwrthgyferbyniadau yn ei fywyd na ffurf ei wasanaeth angladdol. Yn ôl ei ddymuniad cafwyd gwasanaeth digrefydd. Yn llywio roedd gweinidog yr efengyl, ei hen gyfaill Cen Llwyd. Ac fel rhan o’r gwasanaeth canwyd ‘Wele’n sefyll rhwng y myrtwydd.’
Cafwyd teyrngedau cynnes iddo gan ei blant a cherdd goffa gan fab yng nghyfraith. Cafwyd teyrnged gynnes, deimladwy a ffraeth gan ei hen gymrawd yn y brwydrau a fu, Geraint Jones. Disgrifiodd Neil fel ‘hen wariar’.
Atgoffodd Geraint ni o ddyddiau cynnar Cymdeithas yr Iaith pan oedd ef a Neil yn aelodau o gangen fwyaf gweithgar y genedl, sef Cangen Blaenau Morgannwg ond yr holl aelodau’n cael eu danfon i garchar. Esboniodd mai dim ond tri aelod oedd i’r gangen, ef, Neil a Gwyneth Wiliam!
Disgrifiodd Neil fel ‘milwr dros Gymru’ a ‘derwen ym mhob storm’. Pan fyddai ei angen, meddai, ‘Gwyddwn fod Siencyn yn y dorf yn rhywle.’ Portreadodd ef yn gynnil ond perffaith fel ‘un â phib yn y llaw aswy a pheint yn y llaw ddehau.’ Soniodd am ei ddewrder a’i urddas mewn llys barn, un a wisgai ei galon ar ei lawes.
Yn bresennol gwelwyd nifer o hen wariars y brwydrau gynt, Emyr Llew, Gwilym Tudur, Robat Gruffudd a John Jenkins. A Geraint ei hun, wrth gwrs.
Fy hun, cefais brofiadau difyr yn ei gwmni ar hyd y blynyddoedd. Ar fore priodas Carlo a Diana galwodd yn fy nghartref yn Aber. Fedrai e ddim goddef bod ar ei ben ei hun ar y fath achlysur. Uwch ein pennau gwelem faneri trilliw’r Ymerodraeth yn cwhwfan. Bant â ni felly i dreulio’r dydd yn nhafarn Gorsgoch. Chofiai ddim rhyw lawer am y daith adre ond gwn i ni ganu ‘Myfanwy’ nes i ni grygu.
I mi roedd Neil yn weledydd. Nôl yn y saithdegau cynnar, ac ysgolion dwyieithog yn tyfu fel madarch, pregethai Neil unieithrwydd. Gwnaeth elynion, do. Dioddefodd gasineb. Yn wir, teimlaf ei fod wrth ei fodd yn tynnu’n groes.
Ar y daflen angladdol cafwyd dau ddyfyniad: ‘… i’r llonyddwch mawr yn ôl’, sef geiriau olaf soned fawr T. H. Parry Williams a ‘Cast a cold Eye on Life, on Death, Horseman, pass by’ gan Yeats
Gadawodd Ferthyr Tudful am Dalgarreg, lle trigai Eirwyn Pontshân, wrth gwrs. Doedd Cayo ddim ymhell yn Silian, na Goginan chwaith. A weithiai fe’u canfyddwn gyda’i gilydd.
Rwy’n amau fod Neil, fel anffyddiwr yn credu mewn bywyd y tu hwnt i’r bedd. Ond oes yna’r fath beth yn bodoli, a bod Neil bellach gyda’r tri arall, gobeithio y gwna fy nghofio i atyn nhw. A chadwa sedd wag, Neil. Falle y gwela’i di rywbryd. Fe ganwn ni ‘Myfanwy’ unwaith eto. Ac emynau mawr Pantycelyn ac Ann Griffiths.