Colofnwyr

RSS Icon
06 Mai 2011
Lyn Ebenezer

Dianc rhag y sbloet cyfoglyd

YN gyntaf, ymddiheuriadau dwys i William a Kate am i mi golli eu priodas. Chlywais i’r un gair o’r oriau a ddarparodd Radio Cymru ar gyfer y sioe fawr. Ni welais yr un eiliad o’r digwyddiad mawr ar S4C. Yn hytrach ffeiriais y coch, gwyn a’r glas am y gwyrdd, gwyn ac aur.

Yn blygeiniol ddydd Gwener rown i’n un o griw o bedwar a hedfanodd allan o Faes Awyr Caerdydd am Ddulyn. Gwell oedd gen i feddwi ar Ginis nag ar Brydeindod. O ganlyniad, yr unig goch, gwyn a glas ar gyfyl fy nghorpws brau oedd fy llygaid wrth i mi edrych yn y drych fore dydd Llun.

Fy ngorchwyl cyntaf yn Nulyn fu chwilio am arwyddion o’r dirwasgiad sydd wedi hitio gwlad y Gwyddyl. A methu. Am bump o’r gloch brynhawn dydd Gwener roedd bar Toners a’r palmant y tu allan yn un môr o ddynoliaeth. Heb un faner Jac yr Undeb ar gyfyl y lle. Yr un oedd y stori yn Dohenny and Nesbits ac O’Donoghues.

Brynhawn dydd Sadwrn roedd Grafton Street dan ei sang o bobl yn siopa, ac o berfformwyr stryd a byscyrs. Ac yno y gwelais y perfformiwr stryd mwyaf gwreiddiol i mi weld erioed. Gŵr o Batagonia oedd e, yn ymddangos fel petai ar frys gwyllt. Ond yn hytrach safai yn ei unfan gan blygu ymlaen yn erbyn gwynt dychmygol. Roedd ei wallt wedi ei frwsio tuag yn ôl, ei got a’i dei fel petai nhw’n cael eu chwythu gan y storm ddychmygol. Cariai fag dogfennau a gallasech dyngu ei fod e ar ei ffordd i’w swyddfa. Ond ‘syfrdan y safai’, fel petai wedi ei rewi mewn amser ar hanner cam. Roedd tincial darnau arian a ddisgynnent yn y tun o’i flaen ar y palmant yn dyst i ymateb pobl i’w ddychymyg.

I ddarllen mwy CLICIWCH YMA

Rhannu |