Colofnwyr

RSS Icon
09 Gorffennaf 2015
Gan LYN EBENEZER

Canu am y tywydd

Fedrwch chi feddwl am rai o weithgareddau mwyaf di-fudd dynoliaeth? Gwylio glaw yn disgyn? Gwylio porfa’n tyfu? Cyfrif blodau ar y papur wal? Neu beth am hyn – ceisio canfod pa seren neu grŵp pop sydd wedi canu fwyaf am y tywydd?

Nid gwamalu ydw i. Do, fe fu gwyddonwyr hinsoddol o bump o brifysgolion Lloegr, sef Southampton, Rhydychen, Newcastle Nottingham a Reading wrthi’n ddyfal yn eisio canfod yr ateb.

Rhag ofn eich bod chi am gael gwybod y canlyniad, Bob Dylan ddaeth i’r brig gyda 163 o gyfeiriadau at y tywydd allan o 542 o’i ganeuon yn cynnwys, wrth gwrs, ‘Blowing in the Wind’. Nodwyd yn ogystal ei sylw yn ‘Subterranean Homesick Blues nad oes angen bod yn ddyn tywydd i wybod pa ffordd mae’r gwynt yn chwythu.

Yn ail fe ddaeth y Beatles gyda 48 o gyfeiriadau allan o 308 o’u caneuon yn cynnwys ‘Good Day Sunshine and Rain’. Eraill a gyrhaeddodd y siartiau caneuon tywydd oedd Vanilla Ice (Ice Ice Baby), Boney M (Daddy Cool) ac Elton John (Benny and the Jets). Enwyd hefyd gân yr Hollies, ‘Bus Stop’ lle mae pâr yn syrthio mewn cariad o dan ymbrelo. Neis!

Eraill a gyrhaeddodd siartiau’r caneuon tywydd oedd Taylor Swift, Bruce Springsteen s’r Beach Boys. Canfuwyd yn ogystal 30 o fandiau oedd ag enwau’n gysylltiedig â’r tywydd yn cynnwys Coldplay a Wet Wet Wet.

A dyma’i chi weledigaeth. Cred y gwyddonwyr deallus hyn mai’r rheswm fod Bob wedi cyfansoddi cymaint o ganeuon yn cyfeirio at y tywydd yw am iddo dreulio’i blentyndod mewn hinsawdd garw Minnesota. Beth petai wedi treulio’inoes yn Alaska?

Gwaith amser sbâr fu hwn i’r gwyddonwyr, cofiwch. Prin eu bod nhw’n disgwyl cael eu talu am y fath waith ymchwil dibwrpas. Fe wnaethon nhw astudio 15,000 o ganeuon. Yn eu plith canfuwyd 419 o ganeuon am y tywydd, 190 â’r tywydd fel prif thema a 229 yn cynnwys llinell berthnasol a ail-adroddwyd neu a oedd yn rhan o’r gytgan.

Fe wn eich bod chi’n ysu am wybod hyn: roedd 37 y cant o’r caneuon perthnasol yn cyfeirio at naill ai haul neu law. Yn drydydd oedd gwynt. Prin iawn fu’r defnydd o luwchfeydd neu gorwyntoedd. Dyna’i chi ddiddorol, ynte? Ond gyda Bob Dylan a’r Beatles yn gyntaf ac ail, doedd yna ddim rhif tri, pedwar neu bump ar y rhestr. Na, dydw innau ddim yn deall hynna chwaith. Ond dyna fe, methais yn ‘Easy Arithmetic’ yn Lefel ‘O’.

Trof at ffrwyth ymchwil arall. Yr adeg hon bydd yr Observer yn dewis enillydd gwobr Pencampwr Gorchest Foesegol y Flwyddyn. Dyfarnwyd y wobr eleni i Yoko Ono. Diolch i’r colofnydd Craig Brown am ein goleuo gyda rhai o ddywediadau mawr Yoko, a gyhoeddodd yn ddiweddar mai Ringo oedd aelod allweddol y Beatles. Beth bynnag, dyma’i chi rai ceinion o blith dywediadau dwys a deallus Yoko.

Tynnwch linell gyda’ch hunan. Ewch ymlaen i arlunio nes i chi ddiflannu.

Mynnwch deliffon sydd ddim ond yn adleisio eich llais eich hunan. Galwch yn ddyddiol a thrafodwch lawer o bethau.

Parhewch i beswch am flwyddyn.

Dyma ddarn o awyr. Gafaelwch ynddo. Wedi degawd fe ddown at ein gilydd i ail-osod yr awyr yn un darn.

Torrwch dwll yng nghynfas eich gwely. Gwthiwch eich pen drwy’r twll. Camwch i mewn i’r peiriant golchi. Gofynnwch i ffrind i gychwyn y peiriant. Gwyliwch y byd yn troi.

Mae pum cant o drwynau yn harddach nag un trwyn.

Cymerwch y gair cyntaf a ddaw i’ch meddwl ac ail-adroddwch ef tan y wawr.

Dychmygwch adael i bysgodyn aur nofio ar draws yr awyr. Gadewch iddo nofio o’r dwyrain i’r gorllewin. Yfwch litr o ddŵr.

Recordiwch sŵn y lloer yn pylu gyda’r wawr. Rhowch ef i’ch mam i wrando arno pan fydd hi’n drist.

Recordiwch sŵn y llyn yn araf rewi. Yfwch gwpaned o siocled poeth wedyn.

Dos i ben yr Wyddfa. Dewisa’r ffordd gyflyma lawr. Neidia.

Ie, Yoko biau’r dywediadau yna oll, ar wahân i’r un olaf. Fi biau hwnnw.

Rhannu |