Colofnwyr
55 mlynedd ers gweld Psycho am y tro cyntaf!
Weithiau gall y nodyn mwyaf distadl mewn papur newydd eich hitio yn eich talcen fel trên. Fel arfer fydda’i ddim yn trafferthu darllen colofn ‘On this Day’ yn y Western Mail. Ond am ryw reswm fe wnes ddydd Mawrth. Ac yno, ar gyfer 1960 roedd y sylw fod y ffilm ‘Psycho’ wedi ei dangos am y tro cyntaf yn ôl yn 1960.
Bobol bach! Aeth 55 mlynedd heibio ers i griw ohonom o’r pentre fynd fyny i’r Coliseum yn Aber i weld y clasur, ag arni ôl bysedd annileadwy Alfred Hitchcock. A dyna’i chi ffilm. Seiliwyd hi ar nofel Robert Bloch o’r un enw, honno wedi ei seilio ar achos Ed Gein a lofruddiodd ddwy fenyw. Ei fam ei hun oedd un ohonynt. Fe’i blingodd hi er mwyn gwisgo’i chroen yn ei ymgais i’w hymgnawdoli.
Canolbwynt y stori yw’r Bates Motel, a redir gan Norman Bates a’i fam, sy’n ei reoli â dwrn haearn. Geilw merch ifanc, Mary Crane sydd ar ffo ar ôl dwyn $400,000 oddi ar y cwmni yswiriant y mae hi’n gweithio iddo. Daw’n gyfeillgar â Norman, yn erbyn dymuniad y fam, na ddaw i’r golwg, dim ond gweiddi ‘I’ll kill the bitch!’ o stafell arall.
Cawn foment fwyaf arswydus y ffilm, ac unrhyw ffilm, gyda Mary’n ymolchi yn y gawod. Yn sydyn gwelwn ffurf hen wraig yn chwifio cyllell anferth. Daw chwaer Mary ynghyd â ditectif preifat i chwilio amdani. A pharhau wna’r arswyd. Yna deuwn i wybod i Mrs Bates farw flynyddoedd yn gynharach.
Mae ‘Psycho’ yr agosaf i’r ffilm arswyd berffaith a ddaeth unrhyw ffilm erioed. Yn hytrach na’r duedd heddiw at ffilmiau arswyd chwerthinllyd am sombis a Draculas ail-law roedd ‘Psycho’ yn ffilm seicolegol arswydus. Doedd dim angen unrhyw effeithiau arbennig. Dim angen gweld gwaed yn llifo. Dim rhyfedd iddi gael ei hethol fel rhif un yn rhestr yr American Film Institute ymhlith y cant uchaf o ffilmiau arswyd.
Un rheswm pendant dros ei llwyddiant yw iddi gael ei ffilmio mewn du a gwyn. Rheswm arall oedd y castio, gyda Janet Leigh fel Mary a Vera Miles yn actio’i chwaer. Ond y perfformiad mwyaf cofiadwy oedd un Anthony Perkins fel Norman Bates. Dim rhyfedd iddo ennill gwobr Actor y Flwyddyn yr Academi. Dyma un o’r enghreifftiau gorau erioed o dan-actio. Mor hawdd fuasai iddo fod wedi mynd dros y top yn llwyr gyda phortread o’r fath gymeriad.
Gyda llaw, fe arestiwyd Perkins yng Ngwesty’r Angel yng Nghaerdydd yn 1989 am fod ym meddiant cannabis. Tystiodd ar y pryd mai hwn oedd yr arswyd mwyaf a brofodd erioed.
Mae’r ffilm yn profi yn anad dim beth yw cyfrinach gwir arswyd. Nid gwaed a sgrechfeydd sy’n creu gwir arswyd ond y pethe bach bob dydd. Yn ‘Psycho’, y cryfder oedd y gwrthdaro rhwng Norman a’i fam honedig. Ei heiddugedd hi a’i ofn ef ohoni.
Mae meistr y genre, Stephen King wedi dweud mai cyfrinach arswyd yw mynd â’r gwyliwr neu’r darllenydd i ymyl y dibyn. Ac fe ddylai ef wybod. Cofiaf wylio ‘Dracula’ am y tro cyntaf, ffilm wedi ei seilio ar nofel Bram Stoker. Fe’i disgrifiwyd gan Oscar Wilde fel y nofel brydferthaf erioed. Yn honno, nid y sugno gwaed a’r codi o’r bedd oedd yn fy arswydo i ond y pethau bach. Dracula, er enghraifft, yn cripian fyny talcen tŷ ar ei draed a’i ddwylo. A’r ‘sugnwr sydyn’ yn ei arch mewn hers heb yrrwr, dim ond pedwar ceffyl du yn rhuthro heibio.
Byddwn yn brolio nad oes ganddon ni amser i ffilmiau neu nofelau arswyd. Ond mae yna ryw gynneddf ryfedd ynom i fethu â pheidio darllen, methu a pheidio gwylio rhwng bysedd lled-agored.
Ie, y pethe bach di-nod sy’n achosi arswyd. Soniais o’r blaen amdanaf un noson loergan yn cerdded adre o’r pentre. Doedd neb ar fy nghyfyl. Dim un car wedi pasio. Yna, ganllath o lidiart y tŷ dyma fi’n gweld, ar ganol y ffordd, stwmpyn sigarét yn dal ynghyn ac yn mygu. Cymerodd rai eiliadau i mi sylweddoli arwyddocâd y peth. Yna dyma redeg ar ras i’r tŷ a chloi’r drws. Wnes i ddim son am y digwyddiad am flynyddoedd.
Ie, y pethe bach sy’n codi arswyd. Pethe bach fel gweld y stwmpyn sigarét yn dal ynghyn, heb i neb fod ar gyfyl y lle. A darllen yn y Western Mail fod 55 mlynedd wedi mynd heibio ers i mi weld ‘Psycho’ am y tro cyntaf. Nawr, dyna’i chi beth yw gwir arswyd!