Colofnwyr
Mor wyrdd oedd fy myd bryd hynny!
Dau beth fedra’i gofio am wylio ‘How Green Was My Valley’ am y tro cyntaf yw i mi grïo, ac i mi golli fy nghap.
Do, fe wnes i grïo gyda Huw Morgan ar farwolaeth ei dad. Anghofio’r cap wnes i wedi i Dan, fy mrawd hynaf ei dynnu oddi ar fy mhen a’i osod o dan fy nghadair. Cap lliw marŵn oedd e, ac fe’i gadewais yno yn Neuadd Goffa Tregaron. Fedra’i ddim cofio faint oedd fy oedran. Tua chwech neu saith, siŵr o fod. Cefais fynd yng nghysgod Dan. Pan gyrhaeddais adre cefais bregeth gan Mam am i mi golli fy nghap newydd. Ond fe wnaeth atgofion o weld y ffilm iawn am y golled. A syrthiais mewn cariad dros fy mhen a’m clustiau ag Angharad (Maureen O’Hara).
Y rheswm dros i mi droi at fy atgofion o weld y ffilm arbennig hon yw i drichwarter canrif fynd heibio ers i Richard Llewellyn gyhoeddi’r nofel a fu’n sail i’r ffilm. Rhyddhawyd y ffilm yn 1941, pan dderbyniodd ddeg enwebiad gan ennill pum Gwobr Academi yn cynnwys curo ‘Citizen Kane’ fel ffilm orau’r flwyddyn.
Y bwriad oedd ffilmio yng Nghymru ond rhoddodd y rhyfel y farwol i’r syniad hwnnw. Felly codwyd set 80 erw ger Malibu yn Ne Califfornia a recriwtiwyd yr actorion oll, bron iawn, o America, hynny oherwydd peryglon teithio dros Fôr Iwerydd. Un o’r ychydig Gymry yn y cast oedd Richard Williams a chwaraeai ran Dai Bando. Seiliwyd cynllun y set, gyda llaw, ar ardal Clydach.
Yn chwarae’r prif rannau roedd Walter Pidgeon, Maureen O’Hara a Roddy McDowall. Ond roedd yna gymeriadau eraill llawn mor ddiddorol yn aelodau o’r cast. Y mwyaf diddorol i mi oedd Arthur Shields a oedd yn chwarae rhan y blaenor cul, Mr. Parry. Cyfeiriais o’r blaen at hwn, aelod o gwmni’r Abbey Theatre yn Nulyn. Ar ddiwrnod agoriadol Gwrthryfel y Pasg 1916 roedd Shields fod i ymddangos ar y llwyfan yn y ddrama ‘Spancel of Death’ gan T.H.Nally. Yn hytrach casglodd ei reiffl, oedd wedi ei guddio o dan y llwyfan, ac ymunodd â’r brwydro o gwmpas y Swyddfa Bost. Ychydig wythnosau’n ddiweddarach cafodd ei hun yng Ngwersyll y Fron-goch.
Yn y ffilm Gymreig roedd brawd i Shields, Barry Fitzgerald yn ymddangos hefyd fel Cyfartha. Ond yn ddiweddar canfûm gyd-ddigwyddiad rhyfeddach fyth. Yn chwarae rhan Ianto roedd John Loder. Nawr, enw iawn yr actor oedd John Lowe. A bu ef a Shields yn wynebu ei gilydd yn ystod Gwrthryfel y Pasg. Loder oedd mab y Cadfridog Lowe, a dderbyniodd yr ildiad oddi wrth Padraig Pearse ar seithfed diwrnod y brwydro. Gyda’r Cadfridog ar y pryd roedd ei fab, John. Yn wir, William John Muir Lowe wnaeth gludo Pearse yn garcharor i’w holi cyn ei ddienyddiad, ef a 14eg o’r arweinwyr eraill.
Bu John Lowe yn brwydro’n ddiweddarach yn Gallipolli ac ar y Somme yn y Rhyfel Mawr ac fe’i carcharwyd, fel Shields, mewn gwersyll garchar. Pan ryddhawyd ef sefydlodd fusnes yn yr Almaen cyn troi i fyd actio fel John Loder a mynd, fel Shields, i Hollywood. Priododd yn ddiweddarach â’r actores Hedy Lamarr.
Am Shields, nid yn ‘How Green Was My Valley’ y gwnaeth ei unig ymddangosiad mewn ffilm Gymreig. Ef oedd ‘Mr. Davies’ yn y ffilm a seiliwyd ar ddrama Emlyn Williams, ‘The Corn is Green’. Fe wnaeth hefyd actio rhan gweinidog o Gymro, y Parchedig Griffin yn y ffilm ‘Apache Drums’ yn 1951 gan offrymu, mewn un olygfa, weddi yn Gymraeg. Bu farw Shields yn Santa Barbara, California, ar 27 Ebrill 1970 o emffysema yn 74 mlwydd oed.
Oes, mae trichwarter canrif bron iawn wedi mynd heibio ers i’r ffilm gael ei rhyddhau ac ymron ddeg mlynedd ar hugain ers i mi ei gweld am y tro cyntaf. Y flwyddyn nesaf coffeir canmlwyddiant Gwrthryfel y Pasg a’r carcharu yn y Fron-goch, lle bu Arthur Shields yn rhedeg pwyllgor adloniant ymhlith ei gyd-Weriniaethwyr.
Peth rhyfedd yw cyd-ddigwyddiad. Shields a Loder yn elynion ac yna’n ymddangos gyda’i gilydd yn yr un ffilm. Roedd gan Shields rywbeth yn gyffredin â minnau. Fe gollodd yr actor o Wyddel chwe mis o’i ryddid mewn pentre bach ger y Bala. Collais innau fy nghap newydd wrth i mi ei wylio ar y sgrin fawr yn Neuadd Goffa Tregaron. Mor wyrdd oedd fy myd bryd hynny!