Colofnwyr

RSS Icon
28 Mai 2015
Gan LYN EBENEZER

Dyddiau da 'Y Band'

Weithiau gall y sylw mwyaf distadl eich hitio ar eich talcen fel un o beli mileinig Michael Holding pan oedd bowliwr cyflym India’r Gorllewin ar ei gyflymaf. Ac ergyd debyg deimlais i’r bore o’r blaen wrth ddarllen stori fach a wthiwyd i gornel tudalen 15 o’r Western Mail.

Byrdwn y stori oedd bod cân Y Beatles, ‘Yesterday’ wedi ei chyfansoddi hanner canrif yn ôl. Maddeuwch y gair mwys, ond mae’n gwneud i rywun deimlo iddi ymddangos ddoe ddiwethaf. A dyna broblem datganiadau bach sydd, ar yr wyneb, yn ymddangos mor ddistadl. Gwnânt i rywun deimlo’n affwysol o hen.

Ni fûm erioed yn ffan mawr o’r Beatles ond medraf gydnabod iddynt - McCartney’n arbennig - gyfansoddi ambell glasur fel ‘Hey, Jude’ a ‘Let it Be’. Nôl ar ddechrau’r chwedegau fe wnaeth yr hen gyfaill Raymond Osborne Jones, a fu farw rai misoedd yn ôl, a finne brynu gitâr yr un. Dysgodd Raymond y cordiau angenrheidiol o fewn wythnosau tra mai fy eithaf i erioed fu tri chord.

Dim ond dwy gân wnaethon ni lwyddo i’w meistroli, ‘I’ll Never Get Over You’ gan Johnny Kidd and the Pirates a ‘Misery’ gan y Beatles. Fe wnaethon ni ddysgu’r gyntaf ar gyfer cystadlu ar y gân bop yn Eisteddfod Ffermwyr Ifanc y sir yn Aberaeron. Yn ymddangos gyda ni roedd Non ‘Pecs’ Evans a Roy Edwards. Mae yna lun ohonon ni’n bodoli gyda Roy’n ddigon pell oddi wrthym i ganu unawd. Wnaethon ni ddim dod i blith y tri uchaf. Fe wnaethon ni bechu drwy berfformio’r gân yn y Saesneg gwreiddiol. Enillwyd y marciau gan griwiau’n canu cyfieithiadau uffernol o glasuron fel ‘The Last Thing on My Mind’ a ‘Down by the Riverside’. Ac, wrth gwrs ‘Elen, o Elen’ ar dôn y clasur ‘Gotta Travel On’.

Gyda llaw, pan wnaethon ni ddysgu cân Johnny Kidd, wydden ni ddim bryd hynny i’r canwr/ gyfansoddwr (ei enw iawn oedd Freddie Heath) dreulio cyfnod fel ifaciwî ym Mhontrhydygroes lle bu’n ddisgybl yn Ysgol Ysbyty Ystwyth.

Am ‘Misery’, rwy’n dal yn methu credu i’r gân gael cyn lleied o sylw. I mi mae hi ymhlith goreuon y Beatles. Ond nôl at ‘Yesterday’. Dyma’r gân a gafodd ei pherfformio a’i recordio’n fwyaf eang fel ‘cover’ o unrhyw gân bop erioed, sef gan dros 2,200 o fandiau neu unigolion. Yn 1999 fe’i dewiswyd gan wrandawyr Radio 2 fel cân orau yn yr ugeinfed ganrif.

Do, fe gyfansoddodd y Beatles nifer o ganeuon cofiadwy. Methu deall ydw i sut yn y byd mae cân mor gyffredin ag ‘Imagine’ wedi ei chanmol gymaint. Cyfeiriais o’r blaen at hyn. Darllenwch y geiriau o ddifrif. Dyma un o’r caneuon mwyaf diddim a gyfansoddwyd erioed. Dyma anthem i ddiddymdra. Ddim yn unig hynny, mae’r geiriau’n sathredig. Dyma gân sy’n dyheu am fyd o wacter. Ac eto i gyd fe’i chwaraeir yn aml mewn angladdau.

Beth bynnag, nôl at ‘Yesterday’. Ydi, mae hon yn un o glasuron McCartney er i Lennon gael ei enwi fel cyd-gyfansoddwr. Ond cân McCartney yw hon. Mae ôl ei fysedd drosti’n annileadwy. Ac er bod hanner canrif wedi mynd heibio ers ei chyfansoddi, mae hi wedi heneiddio’n dda. Yn wahanol i’w chyfansoddwr a’i wallt browngoch fel petai llwynog marw yn cyrcydu ar ei ben. O leiaf gall gysuro’i hun o ystyried y llanast ffug fel tafell o ‘Weetabix’ sy’n eistedd ar gorun Elton John. Ond diolch i hwnnw hefyd, bob tro y gwelaf ef, diolchaf i’r Goruchaf am y fendith o gael bod yn foel.

Ond nôl at fiwsig y chwedegau cynnar. Doedd y Beatles ddim ymhlith y ffefrynnau. Y bechgyn drwg, sef y Stones oedd fy hoff fand i, a Keith Richards yw fy hoff offerynnwr o hyd. Fedra’i ddim anghofio’i ateb i gwestiwn gan ryw newyddiadurwr neu’i gilydd rai blynyddoedd yn ôl bellach. Gofynnwyd iddo, petai’r Stones yn dechrau o’r dechrau unwaith eto, a wnâi e newid unrhyw beth?

‘Gwnawn’, medde Keith, ‘fe wnawn i saethu’r prif ganwr.’

Ie, y Stones oedd y bois drwg, y bois peryg. Ac ymron yn gyfuwch â nhw roedd yr Animals gyda’u canwr ‘blues’ gwych Eric Burdon. Wedyn y Bee-Gees. Erbyn hyn, wrth gwrs, mae Bob Dylan a Tom Waits, dau fardd ar y brig. Ni aiff undydd nac unnos heibio heb i mi wrando arnynt.

Recordiau sêr fel hyn yw cerrig milltir fy mywyd bellach. Does gen i ddim copi o ‘Help’, sy’n cynnwys ‘Yesterday’. Ond ydi, mae hi fel ddoe er pan glywais i’r gân am y tro cyntaf.

‘Oh, yesterday came suddenly.’

Fe ddiflannodd yr un mor gyflym.

Rhannu |