Colofnwyr
Caledi
Estynnaf fy nghydymdeimlad llwyraf yr wythnos hon at Charlotte Church, yr hen dlawd. Disgynnodd ei ffortiwn o £25 miliwn i £11 miliwn. Dim rhyfedd iddi ymuno â’r brotest yng Nghaerdydd yn erbyn buddugoliaeth y Torïaid.
Wn i ddim beth yw’r cyfieithiad cywir o ‘austerity’. Caledi, hwyrach? Llymder? Cynni? Beth bynnag sy’n iawn, ‘austerity’ yw gair mawr pob lyfi a lowt.
Ond howld on, Defi John. Sut mae mesur caledi? Er fy mod i’r ieuengaf o dri-ar-ddeg o blant a chael fy ngeni ym mlwyddyn gyntaf yr Ail Ryfel Byd, fedra’i ddim dweud i mi erioed ddioddef caledi. Ond fedra’i ddim ond dychmygu sut fywyd gafodd fy rhieni a’m brodyr a’m chwiorydd hŷn.
Un o fois yr hewl oedd Nhad. Morwyn fach ar ffarm oedd Mam pan briodon nhw. Ganwyd deuddeg o’r tri-ar-ddeg o blant mewn hanner bwthyn, sef Bryngors. Roedd iddo gegin, a pharlwr mor fach fel y byddai’n anodd troi’n ôl ynddo. Ar y llofft ceid dwy stafell wely.
Talu rhent wnâi fy rhieni i berchennog y ffarm lle safai Bryngors, sef Morgan Jones y Wernfelen. O adnabod Morgan Jones, mae’n siŵr iddo fod yn rhent cwbl deg. Rhentai Nhad hefyd gae lle cadwai fuwch. Cadwai hefyd fochyn.
Erbyn canol y tridegau roedd pedwar ar ddeg yn byw yn hanner bwthyn Bryngors. Y drws nesaf trigai teulu o wyth. O un i un cafodd y plant waith. Bu tri yn weision ffarm. Bu dau am gyfnod yn yr Awyrlu. Bu tair neu bedair o’m chwiorydd yn gweithio mewn caffis neu siopau. Bu dwy, am gyfnod, yn docynwyr bysus. Dim ond un gafodd fynd ymlaen i goleg. Fedrai fy rhieni ddim fforddio anfon mwy.
Ychydig cyn fy ngeni i, penderfynodd Nhad fynd ati i godi tŷ led cae o Fryngors. Sut wnaeth e lwyddo, Duw yn unig ŵyr. Doedd ganddo ddim cyfalaf. Ond diolch i help fy mrodyr a phobl leol, codwyd tŷ nobl gyda phum stafell wely. Yno y ganwyd fi yn 1939.
Ni phrofais i gymaint â diwrnod o galedi. Ond bûm yn meddwl droeon am aberth fy rhieni wrth ein codi ni oll. Mynnai Mam mai’r rheswm i’r teulu fedru goroesi oedd ewyllys da a chymdogaeth dda. Canmolai Morgan Jones am ei amynedd wrth ddisgwyl am ei rent am Fryngors. Yn aml, meddai, byddai cant neu ddau o lo wedi ei adael dros y clawdd i’r teulu. Yn gyfrifol am hynny oedd Morgan Davies, a redai fusnes fasnachol ym Mhontllanio.
Sosialydd oedd Nhad, gair na chaiff ei arddel bellach gan y Blaid Lafur. Yn wir, o ystyried egwyddorion (neu ddiffyg egwyddorion) y Blaid Lafur heddiw roedd Nhad yn Gomiwnydd. Etifeddais ei Sosialaeth. Dyna pam na fedrwn i ddim byth bleidleisio i’r Blaid Lafur lastwraidd bresennol. Wnes i ddim erioed bleidleisio i’r Ceidwadwyr. A wnâi byth.
Ond dewch at yr etholiad yr wythnos ddiwethaf. Roedd Ed Miliband yn pregethu cydraddoldeb. Hwre! meddaf finne. Na, doedd dim byd o’i le ar y neges. Yn natur y negesydd oedd y gwendid. Sut ar y ddaear fedrai mab i Farcsydd ond sy’n filiwnydd waeddi dros gyfartaledd? Sut yn y byd fedrai Ed Miliband bregethu am yr anfoesoldeb o fyw mewn tai mawr gwerth mwy na miliwn o bunnau ac yntau’n byw mewn un gwerth dwy filiwn a hanner?
Arwr gwleidyddol Nhad oedd Clement Attlee. Ef, mi gredaf, fu arweinydd gwir Sosialaidd olaf y Blaid Lafur. O James Callaghan ymlaen cawsom filiynyddion yn arwain Llafur. Yn waeth na hynny cafwyd rhagrithwyr. Pwy yw Neil Kinnock i bregethu yn erbyn caledi? Yn ffyrnig wrth-Ewropeaidd, cafodd ef a’i wraig a rhai o’i blant wledda’n fras o gafnau Ewrop. Yn wrthwynebydd ffyrnig i Dŷ’r Arglwyddi, dyrchafwyd ef yn Farwn. Ac yn awr, diolch i barasiwt go wyrthiol fe laniodd ei fab O Ddenmarc bell ar etholaeth Aberafan. Plaid y werin? Pach!
Does dim pwynt i fi gychwyn pregethu am y Tony Blair, bwtsiwr Bagdad sydd,medd rhai, yn werth £100 miliwn. A beth am ein hannwyl Brif Weinidog ni yn y Cynulliad? Condemniodd genedlaetholdeb gul Plaid Cymru. Ond yn yr Alban bu law yn llaw â chenedlaetholwyr cul Prydeinig, yn Llafur a Thorïaid wrth wrthwynebu hunanlywodraeth i’r Albanwyr.
Dagrau pethe yw mai o enau miliynyddion y Blaid Lafur y cyfyd y cyhuddiad fod y Ceidwadwyr yn creu caledi ac yn lledaeni’r bwlch rhwng y cyfoethog a’r tlawd. Y gwir amdani yw nad oes yna’r un iot o wahaniaeth rhwng y ddwy brif blaid bellach. Mae yna lawn cymaint o filiynyddion yn y ddwy. Yr un faint o gyn-ddisgyblion ysgolion bonedd. Ie, rhagrith biau hi. Dyna wir enillydd yr etholiad ddydd Iau diwethaf. A chaledi? Hymbyg!