Colofnwyr

RSS Icon
26 Mawrth 2015

Ymgyrch yn erbyn newyddiadurwyr

Un o ddulliau mwyaf llwyddiannus yr Heddlu o ddal drwgweithredwyr yw trwy dalu am wybodaeth. Gwneir y taliadau hyn yn gyfrin i hysbyswyr cudd, hynny yw, ‘paid informers’. Ond tra bod yr arfer hwn yn gwbl dderbyniol pan y’i gwneir gan yr Heddlu, mae e’n drosedd pan fo newyddiadurwr yn gwneud yr union beth.

Yn ddiweddar, yn dilyn achos lle’r ymddangosodd pedwar o newyddiadurwyr y ‘Sun’ ar gyhuddiad o dalu am wybodaeth, fe’u cliriwyd yn llwyr ar ôl iddynt dreulio tair blynedd ar fechnïaeth. Cymerodd y gwrandawiad ei hun ddeng wythnos gan ddwyn i ben ymgyrch a gostiodd £5 miliwn.

Roedd yr achos aflwyddiannus hwn yn rhan o ymgyrch gan yr Heddlu yn erbyn newyddiadurwyr. Ar ddiwedd yr achos, cwestiwn y Barnwr oedd: ‘Sut yn y byd wnaeth achos mor wan ddod o fy mlaen?’ Y gwir amdani oedd mai dim ond gwneud eu gwaith oedd y pedwar newyddiadurwr, sef datgelu gwirioneddau y buasai’n well gan y Sefydliad eu cadw’n ddirgel.

Mae’r cyfan wedi deillio o Ymchwiliad Leveson, a sefydlwyd i chwilio pac y wasg yn dilyn stori gelwyddog gan y ‘Guardian’. Honnodd Beibl y chwith fod newyddiadurwyr y ‘News of the World’ wedi hacio ffôn poced Millie Dowler, merch ifanc a lofruddiwyd. Profwyd yn ddiweddarach fod honiadau’r ‘Guardian’ yn gwbl gelwyddog. Ymddiheurodd Beibl efengylwyr y chwith am y camwedd. Do, mewn paragraff chwe llinell wedi ei guddio yng nghorff y papur.

Ond roedd y difrod wedi’i achosi. Roedd Ymchwiliad Leveson wedi ei sefydlu erbyn hynny a’r peiriant propaganda celwyddog ar waith. Neidiodd y lyfis ar y wagen, selebs fel Hugh Grant a Steve Coogan a gwleidyddion fel John Prescott. Sefydlwyd y grŵp ‘Hacked Off’, mudiad ar gyfer diwygio’r wasg, diwygiadau â’i gwnâi hi’n haws cuddio gwirioneddau. A dyna’i chi gyd-ddigwyddiad. Roedd y tri, ynghyd ag aelodau eraill o ‘Hacked Off’ wedi eu dal a’u trowseri lawr o gwmpas eu pengliniau a’r a’r ‘News of the World’ wedi datgelu hynny. ‘Hacked Off’? Byddai ‘Trousers Off’ yn enw mwy addas.

Pan gyhuddwyd papurau ‘News International’ o hacio ffons, bu’r bobl hunangyfiawn hyn yn bwydo’r peiriant propaganda, Prescott yn gwneud hynny yn ei golofn yn y Mirror. Collfarnwyd papurau Murdoch gan Ed Miliband. Yna, ychydig fisoedd yn ôl dyma gyhoeddi fod nifer o newyddiadurwyr Grŵp y ‘Mirror’ wedi eu cyhuddo o hacio ffons symudol. Ar ddechrau’r achos datgelwyd fod y ‘Mirror’ wedi gwneud hynny ar raddfa ddiwydiannol gan wneud i gamwri ‘News International’ ymddangos fel chwarae plant. Dim gair o gerydd oddi wrth Miliband na’i fwli boi, John Prescott.

Fel arfer, gwleidyddion mewn gwledydd totalitaraidd yw gelynion gwasg rydd. Yma mae hi’n wahanol. Gelynion gwasg rydd yma yw’r chwith. Ai cyd-ddigwyddiad oedd e mai Keir Starmer oedd pennaeth Gwasanaeth Erlyn y Goron pan ddaethpwyd â chyhuddiad yn erbyn pedwar o newyddiadurwyr y ‘Sun’? Heddiw mae Starmer yn ddarpar-ymgeisydd Llafur mewn etholaeth saff. Barn sylwebyddion gwleidyddol yw bod y cyrch yn erbyn newyddiadurwyr ‘News International’ yn ddull o ddial am i’e ‘Sun’ gefnogi’r Toriad yn yr Etholiad Cyffredinol diwethaf.

Mae’n iawn, wrth gwrs, i’r Heddlu gael yr hawl i dalu am wybodaeth gudd. Ond nid yw’n iawn i’r Wasg wneud hynny. Y gwir amdani yw nad y chwith neu’r dde sy’n llywio’n bywyd bellach ond yr elît, sy’n bodoli yn yr oll o’r prif bleidiau. Mae Llafur a Thori yr un mor euog â’i gilydd tra’r Lib Dems, fel Polly Garter, yn barod i neidio i wely unrhyw un.

Mae’r achos diweddar yn cadarnhau’r angen am gyfundrefn sy’n golygu mai gan reithgor mae’r gair olaf. Yn yr achos diweddar hwn yn yr Old Bailey ni chymerodd ond 48 awr i’r rheithgor glirio’r pedwar diffynnydd. Ond gochelwn rhag clodfori bodolaeth cyfundrefn reithgoraidd. Clywyd eisoes am y galw am achosion di-reithgor ac am achosion lle gwaherddir aelodau o’r wasg a’r cyhoedd rhag bod yn bresennol. Ac yn awr mae Pen Bandit y Llywodraeth, Syr Jeremy Heywood am wahardd gweision sifil rhan siarad â’r Wasg.

Os digwydd i chi glywed rhywun yn chwerthin yn afreolus, gallwch fod yn siŵr mai Joseph Stalin fydd e.

Rhannu |