Colofnwyr
Aderyn uniaith
Mae yna ymgyrch ar waith i ddewis aderyn cenedlaethol i Wledydd Prydain. Ie, Prydain yw’r ‘genedl’ dan sylw, wrth gwrs. Y ddadl yw bod gan y rhelyw o wledydd y byd eu haderyn cenedlaethol eu hunain ac y dylai Prydain Vawr, felly, fedru brolio ei haderyn ‘cenedlaethol’ ei hun.
Gellid dadlau, wrth gwrs, fod ganddon ni’r Cymry y creadur perffaith fel symbol cenedlaethol eisoes, anifail pedair coes sydd hefyd â phâr o adenydd. Ond nid aderyn mo’r Ddraig Goch. A chreadur mytholegol yw hi beth bynnag.
Eisoes awgrymwyd dewis y robin, y dryw neu’r titw tomos las ar gyfer Prydain. A chafwyd barn yr adarwr David Lindo, sy’n un o gyfranwyr y rhaglen uffernol ‘Countryfile’. Prif fwriad y rhaglen honno yw denu hyd yn oed fwy o ddinaswyr i’r cefn gwlad gan gyfrannu’n sylweddol tuag at elw gwneuthurwyr a gwerthwyr Welingtons gwyrdd.
Os dewis aderyn ‘cenedlaethol’ Prydeinig, pam dim dewis aderyn cenedlaethol i Gymru? Mae gan lawer o genhedloedd a gwledydd y byd eu hadar cenedlaethol. Yr eryr moel yw symbol America. Yn wir, mae gan bob talaith yn y wlad honno ei haderyn taleithiol. Mae gan nifer o wledydd Canol a De America y Condor. Y parot yw aderyn cenedlaethol Ynysoedd Cayman. A’r ceiliog, wrth gwrs, yw aderyn cenedlaethol Ffrainc.
Beth am Gymry, felly? Er mai’r dylluan wen yw fy hoff aderyn i, fe wnawn i fodloni ar y Barcud. Pan ail-ymddangosodd yng ngwledydd Prydain ar ddiwedd y 40au, yma i Gymru y daeth gyntaf. Cofiaf yn dda’r pâr cyntaf i gyrraedd y cyffiniau hyn. Adeiladodd y pâr nyth ar Waun Gilfach-y-dwn Fawr. Heddiw bydd hanner dwsin a mwy o Farcutiaid yn hofran uwchlaw fy nghartref yn ddyddiol.
Erbyn hyn collodd y Barcud ei arbenigrwydd gan fod cynifer ohonynt i’w cael bellach. Fel y mewnfudwyr dynol, maen nhw wedi meddiannu’r cefn gwlad yn gyfan. Dyna un ddadl pam, hwyrach, y gwnâi’r Barcud aderyn cenedlaethol perffaith i Gymru.
Ond cyn gwneud y dewis terfynol, gadewch i ni ystyried adar eraill a allent
haeddu’r anrhydedd. Er mor hoff ydw i o’r aderyn du, mae e allan o’r gystadleuaeth o’r cychwyn. Dyw’r ansoddair ‘du’ ddim yn un addas i’w ddefnyddio heddiw. Medrem, wrth gwrs, ei ail-enwi’n bigfelen. Ond na, byddai hynny’n sen ar bobl Tsienia.
Beth am y gigfran? Neu beth am y cigydd cefngoch? Dim gobaith. Byddai hynny’n sen ar lysfwytawyr a figaniaid. Bwm y gors? Dim gobaith. Heb son am y pwffin. Esgymun hefyd fyddai’r tinboeth a’r tyngoch a’r tinsigl. Na, dim hôps. Y crëyr glas? Na, byddai Llafur yn cwyno. Y cudyll coch? Na, byddai’r Torïaid yn cwyno. Beth am yr heligog? Na, byddai hynny’n gwahaniaethu’n annheg yn erbyn hwntws. Allan ohoni hefyd byddai’r rhegen, crec yr eithin a’r titw gan mor hawdd fyddai cam sillafu eu henwau.
I mi mae un aderyn sy’n sefyll allan. Mae hwnnw’n rhoi tic yn erbyn pob gofyniad. Pa aderyn sydd ddim yn perthyn i ni o gwbl? Pa aderyn sy’n dod yma’n ddiwahoddiad? Pa aderyn sy’n gwthio allan ddeiliaid y nythod gwreiddiol? Pa aderyn sy’n uniaith, sydd byth yn newid ei gân nac yn barod i ddysgu cân newydd? Pa aderyn sy’n gyndyn i’n cyfarch, a phan wnaiff, yn gwneud hynny’n swta gyda deunod yn unig? Pa aderyn sy’n mynd a dod, gan drigo yma am gyfnodau cyn dychwelyd i fannau mwy heulog mewn gwledydd eraill? Pa aderyn sy’n pesgi ar draul y trigolion lleol? Pa aderyn sy’n gwrthod cymysgu gydag adar eraill?
Ie, y gôg neu’r gwcw. Y gwcw yw arch-fewnfudwr byd yr adar. Mae hi a’i hil wedi ymledu ac ymwasgaru drwy bob cyfandir yn y byd ar wahân i Antartica. Yn y Swistir maen nhw hyd yn oed wedi meddiannu clociau. Dyma’r parasit mwyaf ymhlith parasitiaid. A dyna’r aderyn cenedlaethol perffaith i Gymru. Aderyn dieithr sydd ddim yn perthyn.
Yn bersonol, rwy’n teimlo fod llawer o’r bai ar Geiriog. Pan glywodd, ac yna gweld y gwcw lon honno wrth iddo ddychwel tuag adre, nid sychu ei lygaid ddylai fod wedi ei wneud ond saethu’r cythraul. Fe fyddai hynny wedi bod yn rhybudd i’r lleill.