Colofnwyr

RSS Icon
13 Mawrth 2015

Hel meddyliau

Rhyw synfyfyrio oeddwn i’r nos o’r blaen. Methu cysgu. Ddim am unrhyw reswm penodol. Ond roedd cwsg yn gwrthod disgyn. Ac ar adegau felly fe fyddai’n dueddol o ddwyn pethe nôl i gof. Pethe dibwys fel arfer, ond pethe sy’n gwrthod gollwng gafael.

Am ryw reswm roeddwn i’n mynd yn ôl o hyd ac o hyd i’r Eisteddfod Genedlaethol hanner canrif yn ôl. Mae’n rhaid i mi dreulio amser hir yn ceisio cofio ble y’i cynhaliwyd hi yn 1965. Cofio wedyn mai yn Y Drenewydd oedd hi. A dyna’r llifddorau’n agor a’r ffrydlif atgofion yn rhaeadru.

Yr atgof cyntaf oedd y ffaith i mi fod yn perfformio yno yn y ddrama gomisiwn, ‘Yr Etifeddwyr’ gan Gwynne D. Evans. Fi oedd yn chwarae rhan arweinydd y gang o bobol ifanc anystywallt, Sgriwi. Perfformiwyd y ddrama yn y pafiliwn mawr yn y dref, adeilad nad yw’n bod mwyach.

Fy nghydymaith gydol yr wythnos fu Peter Goginan, fel y bu mewn aml i Brifwyl. Cofiaf i ni siario pabell ar lan nant wrth ymyl y ffordd fawr ryw hanner milltir y tu allan i’r dref. Medrwn eich harwain i’r union lecyn heddiw.

Ar fore dydd Iau yr wythnos honno cynhaliwyd cyfarfod i anrhydeddu Alun Cilie, a hynny yn nhafarn yr Eliffant. A dyna’r unig dro i mi gyfarfod â Waldo. Roedd e yno, a minnau’n sylwi ar ryfeddod ei bresenoldeb. Ni thynnai unrhyw sylw ato’i hun. Eto i gyd denai’r holl sylw. Cofiaf yn glir gyfarfyddiad rhyngddo ag Euros Bowen. A dyma Waldo’n gofyn iddo,

‘Rwy’n clywed dy fod ti’n beirniadu’r Gadair y pnawn ‘ma, Euros?’

‘Ydw,’ meddai Euros.

‘Bachan,’ medde Waldo, ‘pa hawl sydd gen ti? Wrth y llathen fyddi di’n mesur cynghanedd.’

Gydol yr wythnos bu Goginan a minnau yng nghwmni Eirwyn Pontshân. Siariais ei gwmni bron yn ddifwlch mewn eisteddfodau cenedlaethol o 1959 tan ganol yr wythdegau. Cawsom ein hunain un noson mewn parti go wyllt mewn tŷ yn y dref. Ac am ryw reswm fe gymerodd Eirwyn yn erbyn Alun Williams. Wrth gwrs, rhyw

gogio oedd Eirwyn. Ond mae yna luniau’n bodoli o hyd o’r parti ac mewn amryw ohonyn nhw gwelir Eirwyn yn gwgi ar Alun, druan.

Yn dilyn wythnos fawr, daeth dydd Sul fel disgynneb ddiflas. Byddwn bob amser yn dioddef iselder ar ddiwedd yr wythnos eisteddfodol. Roedd y dydd Sul hwn yr isaf y bûm erioed. Teimlwn fel Kris Kristofferson yn ei gân ‘Sunday morning coming down’.

‘Well I woke up Sunday morning

With no way to hold my head that didn’t hurt.’

Roedd Goginan wedi gadael gyda’i babell ar y trên am Aber brynhawn dydd Sadwrn. Cysgais (os dyna’r gair) y noson honno yn fy mag cysgu yng nghysgod drws caeedig y pafiliwn y bûm yn actio ynddo. Ac yna, tua naw o’r gloch y bore dyma ddechrau bodio. Cerddais filltiroedd. O fynd drwy Langurig teimlais yn rhy flinedig i fynd gam ymhellach. Dad-baciais y bag cysgu a gorwedd ynddo ar lan afon. Wedi awr neu ddwy o gwsg, nôl â fi ar y ffordd fawr. Cyrhaeddais yr Angel yn Aber tua chwech o’r gloch y noson honno.

Ydi, mae’r nos yn medru deffro’r cof gan adleisio pethe annisgwyl. Pam, ar y noson arbennig hon, y gwnaeth ddwyn i gof Eisteddfod Y Drenewydd, dwedwch? Pwy a ŵyr? Fel y dywedodd Bob Dylan yn ei gân ‘Visions of Joanna’:

‘Aint it just like the night to play tricks

When you’re tryin to be so quiet?’

Beth sy’n gyfrifol bod rhywun, ar ambell noson, yn cysgu fel twrch ond ar noson arall yn troi a throsi heb gwsg yn agos? Pwy, neu beth sy’n pennu beth fydd swm a sylwedd y meddyliau fydd yn corddi yn ein pen? Gwell i mi beidio â meddwl gormod am y peth neu fe fyddaf ar ddihun drwy’r nos heno’n myfyrio ar y peth.

A phwy, ymhen hanner can mlynedd, fydd yn troi a throsi wrth geisio cofio am ddigwyddiadau Prifwyl Meifod 2015? Fe fydd yna rai, gobeithio.

Rhannu |