Colofnwyr

RSS Icon
06 Mawrth 2015

Celwyddau yn cael eu derbyn yn ffeithiau anwadadwy

MAE yna hen wireb sy’n rhan o’r byd newyddiadurol sy’n datgan na ddylai’r gwir fyth ddifetha stori dda. Hynny a ddaeth i’r meddwl yn ddiweddar wrth i mi ddarllen nad llygod mawr, wedi’r cyfan, fu’n gyfrifol am ledaenu’r Pla Du yn y 14eg ganrif gan haneri poblogaeth Ewrop. Na, fe gafodd llygod mawr y bai ar gam. Y creaduriaid a ledaenodd yr haint oedd jerbilod.

A dyma fyfyrio ar gelwyddau eraill a dderbyniwyd fel ffeithiau heb i neb bellach eu cwestiynu. Mae yna, er enghraifft, filoedd ar filoedd o bobl ledled y byd sy’n credu mai gwastad yw’r byd hwnnw yr ydym oll yn byw ynddo. Celwydd, o ddyddiau Columbus i NASA yw honni bod y byd yn grwn. Na, mae e’n fflat fel crempogen.

Yn crwydro’r byd hwn ar un adeg bu deinosoriaid. Portreadir nhw gan fyrdd o ffilmiau yn siario’r un blaned â dynoliaeth. Ond y gwir amdani yw na fu deinosor a dyn yn cydoesi erioed. Nefyr in Iwrop.

A gan i mi sôn am Columbus, derbynnir yn ddigwestiwn gan y mwyafrif mawr mai ef wnaeth ddarganfod America. Ond mae lle i gredu i’r Llychlynwyr ddarganfod y lle bedair canrif yn gynharach. I ni’r Cymry, wrth gwrs, Madog wnaeth ddarganfod America. Ond stori arall (neu gelwydd arall?) yw hwnnw.

Gadewch i mi oedi yn America am ychydig. Dethlir Gŵyl Annibyniaeth y wlad ar y 4ydd o Orffennaf bob blwyddyn. Ond ddeuddydd yn gynharach yn 1776 yr arwyddwyd y ddogfen holl bwysig. Un ‘ffaith’ arall a gaiff ei brolio gan Americanwyr yw na chafodd unrhyw ran o’r wlad erioed ei meddiannu gan elyn. Celwydd. Adeg yr Ail Ryfel Byd glaniodd Siapaneiaid ar ynys Kiska oddi ar arfordir Alaska gan aros yno am flwyddyn. 
Tad America rydd, wrth gwrs, oedd George Washington. Honnir iddo unwaith dorri coeden geirios i lawr a chyfaddef mai ef wnaeth hynny. Celwydd. Chwedl yw’r cyfan. Ie, yr un math o ddyfeisio stori ag a briodolir i Isaac Newton parthed afal yn disgyn ar ei ben gan brofi bodolaeth disgyrchiant. Ond na, gweld afal yn disgyn wnaeth yr hen Isaac, nid ei deimlo’n hitio’i gorun. 

Un a gafodd gwasg wael oedd ‘y sugnwr sydyn’ hwnnw, Dracula. Er bod yr honiad iddo gael ei seilio ar gymeriad hanesyddol go iawn yn wir, roedd Vlad Dracula III, brenin a goronwyd yn 1456, yn hen foi iawn. Yn wir, fe arweiniodd ei wlad yn erbyn Ymerodraeth Ottoman gan ennill y dydd. 
Dewch yn nes adre, at Twm Shôn Cati. Mae yna lwythi o rwtsh wedi ei ysgrifennu am Twm, druan. Portreadwyd ef fel arwr y werin, un a hoffai chwarae castiau ar draul y byddigions. Ond roedd Twm ei hun yn un o’r byddigions, yn fardd ac yn achyddwr nodedig. Mae Twm i ni’r Cymry yn cyfateb i Robin Hood y Saeson, arwr Coedwig Sherwood yn Swydd Nottingham. Ond howld on, Defi John. Bachan o Swydd Efrog oedd Robin. ‘Ay, bah gum!’

A dyna hanes dynoliaeth. Os ail-adroddwch chi gelwydd dro ar ôl tro, fe’i derbynnir ymhen hir a hwyr fel ffaith anwadadwy. Meddyliwch, am dros saith ganrif beiwyd llygod mawr am ledaenu’r Pla Du. Gwarthus o beth! Rwy’n disgwyl yn awr, unrhyw ddiwrnod, i Archesgob Caergaint ymddiheuro ar ein rhan i bob llygoden fawr ar wyneb y cread. 
Llygod mawr – hwre! Jerbilod – bw!

Rhannu |