Colofnwyr
Rhy hen i’r fath hurtni?
MYFYRIWR yn y swyddfa ‘cw soniodd gyntaf am y ddrama gerdd ‘The 25th Annual Putnam County Spelling Bee’, pan gyhoeddodd y Donmar Warehouse eu bod am lwyfannu cynhyrchiad o’r ddrama gerdd o gomedi gan William Finn a Rachel Sheinkin. Chlywais i erioed amdani cyn hynny, ac yn wir doedd y teitl ddim yn apelio nac yn swnio fel drama gerdd! A bod yn hollol onest, doeddwn i ddim yn dalld y teitl hyd yn oed, ac wrth gamu mewn i’r Donmar ar gyfer eu perfformiad olaf ond un pnawn Sadwrn diwethaf, doeddwn i fawr callach!
Gweddnewidiwyd gofod unigryw’r Donmar i fod yn Gampfa mewn Ysgol Uwchradd, yn swydd Putnam yn yr Amerig. Fel y gallwch fentro, roedd popeth dros ben llestri yn las a melyn, yn fflagiau a baneri, yn fyrddau a chadeiriau, yn farciau ar y lloriau a nyth pêl rwyd yn crogi uwchben y cyfan. A minnau fel arfer yn hwyr, (diolch i dwristiaid Sadwrn y ddinas a chynlluniau cwbl hurt Trafnidiaeth Llundain i adnewyddu’r twneli tanddaearol ar ddiwrnod prysura’r wythnos!) dyma gyrraedd fy sedd i ganfod rhai o’r actorion eisoes ymhlith y gynulleidfa ac ar y llwyfan. Ein croesawu a’n cyfarch oedd eu bwriad, ac o’n blaen roedd chwe myfyriwr, ynghyd a lodes benfelyn hynod o drawiadol, yn ein hannog i eistedd ar gyfer y gystadleuaeth sillafu enwog.
I ddarllen mwy CLICIWCH YMA