Colofnwyr

RSS Icon
06 Chwefror 2015

Eglurhad Hague yn bygwth poitsh

O’R diwedd eglurodd William Hague y drefn mae’r llywodraeth yn ei ffafrio ar gyfer EVEL, sef mater ‘English Votes for English laws’. Dyma ei ateb i gwestiwn ‘West Lothian’ (paham ddylai Albanwyr gael pleidleisio ar fesurau na fydd yn weithredol yn yr Alban).
Cynllun Hague yn gryno ydy byddai pwyllgor o ASau o Loegr yn rhoi sêl bendith (neu ddim) ar unrhyw gyfraith sy’n berthnasol i Loegr yn unig. Byddai hwn yn caniatáu feto i ‘English Grand Committee’, wedi ei drefnu ar yr un patrwm a’r Uwch Bwyllgor Cymreig’.
Gan fod llawer o fesurau hefyd yn rhai ’Cymru a Lloegr’, byddai’r Uwch Bwyllgor ar brydiau yn un ‘Cymru a Lloegr’ hefyd. Ar ddiwedd taith y mesur byddai Tŷ’r Cyffredin yn gyfan (gan gynnwys Albanwyr) yn pleidleisio yn ôl y drefn arferol. 
Ar yr olwg gyntaf mae hwn yn swnio’n ateb rhesymol, yn rhoi llais ar wahân i Loegr a ‘Chymru a Lloegr’ heb ymyrraeth Albanwyr, ond gan gadw undod sylfaenol Senedd Prydain Fawr a Gogledd Iwerddon. Ateb rhesymol ar y wyneb, ond mewn gwirionedd mae o’n bygwth poitsh.   
Yn gyntaf, sut mae diffinio ‘English laws’ neu ‘English and Welsh Laws’?
Pennir gwariant cyhoeddus yng Nghymru drwy Fformiwla Barnett, fel canran o’r gwariant yn Lloegr (tua 5%).  Felly pe byddai unrhyw elfen o wario ynghlwm â deddf ‘Loegr yn unig’, ar faterion megis iechyd ac addysg, yna byddai hefyd yn effeithio ar Gymru (a’r Alban a Gogledd Iwerddon). Anaml ceir mesur heb unrhyw elfen o wario. 
Felly o dan drefn EVEL fel hyn gallasai fod byddai ASau Lloegr yn unig yn pleidleisio ar gyfreithiau a fyddai’n effeithio ar Gymru.
Yn ail, beth pe byddai mesur gerbron i newid y gyfundrefn iechyd yn Lloegr yn unig. Mae miloedd o Gymru yn gorfod teithio i Loegr i dderbyn triniaeth feddygol. Oni fyddai gan ASau Cymru ddiddordeb rhesymol yn y mesur ac oni fyddent yn cwyno pe na fyddai hawl iddynt siarad a phleidleisio.
Eto felly, dyma bosibiliad o drefn ASau Lloegr yn unig yn effeithio ar Gymru. 
Yn drydydd, ydy uwch bwyllgor yn offeryn effeithiol i drafod cyfraith? Cafwyd madael ar Uwch Bwyllgor yr Alban gan fod yr aelodau yn ei weld fel siop siarad ddiddannedd a dibwrpas. Prin fod trafodaethau’r Uwch Bwyllgor Cymreig yn ddigon cynhyrfus i grychu wyneb cwpaned o de gwan. A bydd ein cyd-aelodau sy’n gweld eu hunain yn geffylau blaen fel arfer â gwaith llawer pwysicach i’w wneud ac yn cadw draw.
Yn olaf, bydd gan yr Albanwyr, a phawb arall, bleidlais ar y diwedd, gan felly barhau’r anghyfiawnder honedig.
Fe gawn weld felly a fydd y mesur yn goroesi berw etholiad cyffredinol, taw ar UKIP wedi canlyniad tila, a’r rheidrwydd newydd i blesio criw tanllyd o ASau’r SNP, y Blaid Werdd a Phlaid Cymru.
…………………………………………… 
Mater i’r senedd nesaf fydd y mesur gan nad oes digon o amser i’w basio cyn yr etholiad. Cofiwch fod Hague yn ymddeol eleni. Prin fod ganddo fawr o gariad at griw croes y Torïaid.  Tybed felly ai anrheg ymddeol iddo’i hun ydy mesur a all fod yn dipyn o boen i’r rhai sy’n credu mewn trefn. Mater o ‘light blue touch paper and retire’ (neu hyd yn oed ‘light purple touch paper’)
…………………………………………….
Gyda llaw, er yr holl dwrw am EVEL gan ASau adain dde’r Torïaid, ambell i Lafurwr chwerw a phen bandits y blaid biwis, chlywais i fawr neb yn cwyno fod ASau Lloegr yn pleidleisio ar fesurau ‘Cymru yn unig’, megis y deddfau datganoli a’r Ddeddf Iaith.

Rhannu |