Colofnwyr

RSS Icon
06 Chwefror 2015

Ymateb rhyfeddol i sgets eithaf ddi-nod

Petawn i’n gofyn  faint ohonoch sydd wedi gweld neu hyd yn oed wedi clywed sôn am y ffilm  ‘Dinner for One’ yna’r ateb fyddai ychydig iawn os unrhyw un o gwbl. Doeddwn i erioed wedi clywed amdani hyd nes i Elen y ferch ddod i wybod am y ffilm drwy ei chariad. Ymddengys fod y ffilm hon yn boblogaidd dros ben yn yr Almaen ac, oherwydd bod mam Joe, cariad Elen, yn Almaenes, dyna sut y daethom ninnau i wybod am y ffilm.

Pan oedd hi adref dros y Nadolig, dyma Elen yn digwydd sôn am y ffilm ac wedi chwilio amdani ar Youtube aethom ati i’w gwylio. Rhaid i mi gyfaddef ei bod yn sobor o beth ar yr edrychiad cyntaf, ond wrth edrych arni’r ail dro, yr oedd hi mor wirion nes peri i rywun chwerthin arni.

A dyna’r rheswm am ei phoblogrwydd, mae’n debyg, er fedrai yn fy myw ddeall sut mae cymaint o Almaenwyr, llawer ohonynt heb ddeall gair o Saesneg yn mwynhau ei gwylio bob blwyddyn. Mae’n siŵr nad oes angen deall y geiriau i werthfawrogi’r hyn sy’n digwydd ynddi, beth bynnag. Cyfaddefodd Elen fod gweld ymateb mam Joe yn ychwanegu at yr hwyl wrth wylio’r ffilm, a hynny ar noson olaf y flwyddyn yn ôl y traddodiad.

Es ar y we i chwilio am gefndir y ffilm. Ei henw yn yr Almaen yw ‘Der 90 Gerburtstag’ neu ‘Pen Blwydd 90’ ac fe geir cyflwyniad byr yn yr Almaeneg ar ddechrau’r ffilm, er prin fod angen hynny, gredwn i gan ei bod yn cael ei gwylio bob blwyddyn. Ffilm fer ydyw, neu sgets a dweud y gwir, sy’n para tua deunaw munud. Fe’i ffilmiwyd mewn du a gwyn ym 1963 a dyna’r fersiwn sydd mor boblogaidd, ac er y ffilmiwyd fersiwn mewn lliw yn ddiweddarach, yr un wreiddiol sy’n dal yn boblogaidd. Cafwyd hyd yn oed fersiwn ohoni wedi ei ffilmio  mewn Lego, hefyd, am ryw reswm, ond ni ddisodlodd honno boblogrwydd y gwreiddiol, chwaith.

Ymddengys mai’r sgets hon yw’r rhaglen deledu a gafodd ei hail -ddangos y nifer fwyaf o weithiau erioed.
Fel y dywedais, mae’n hynod boblogaidd yn yr Almaen, gyda hyd at hanner y boblogaeth yn ei gwylio ar noson olaf y flwyddyn. Mae hefyd yn boblogaidd mewn nifer o wledydd eraill, gan gynnwys Awstria, y Ffindir, Estonia, Lithwania, y Swistir, Denmarc a Sweden. Yn Norwy, caiff ei dangos ar Ragfyr 23 am ryw reswm nad yw’n eglur i mi.

Hyd y gwn i, yr unig wlad gyda’r Saesneg yn brif iaith lle y dangosir hi yw Awstralia, ond nid yw’n cael ei dangos yn Lloegr ac ychydig iawn o Saeson sy’n gwybod amdani er mai dau actiwr o Loegr sy’n cymryd rhan ynddi.

Yn syml iawn, yr hyn a gyflwynir yn y sgets yw pen-blwydd crach o Saesnes o’r enw Miss Sophie sydd yn dathlu drwy gynnal cinio mawreddog bob blwyddyn i bedwar o’i chyfeillion. A dweud y gwir, does gan y sgets ddim oll i’w wneud â’r Flwyddyn Newydd heblaw am gyfeiriad at ‘flwyddyn newydd hapus’ fel llwnc destun sy’n cyfeirio at ei phen-blwydd ac at y flwyddyn yn dilyn ei phen-blwydd. Gan fod Miss Sophie mor hen, mae’r pedwar cyfaill wedi marw felly gwelir ei gwas oedrannus, James, yn mynd o gwmpas y bwrdd gan ddynwared y pedwar cyfaill sydd i fod yno. Wrth i’r gwahanol ddiodydd gael eu hyfed (pedwar bob tro i James yn lle’r gwesteion absennol) bydd y gwas yn mynd yn fwy meddw.

Yr hyn a ddywedir rhwng bob cwrs bwyd yw ‘same procedure as every year’ sydd, yn y Saesneg gwreiddiol, wedi dod yn ymadrodd poblogaidd yn yr Almaen gan ganfod ei ffordd i mewn i hysbysebion, penawdau papur newydd yn ogystal â sgwrs bob dydd.

Yn Sweden ar un adeg, gwaharddwyd y ffilm rhag cael ei dangos am y gallai’r portread o yfed trwm y gwas fod yn ddylanwad drwg, ond o ganlyniad i gwyno o du nifer fawr o’r gwylwyr bu’n rhaid dechrau ei hail-ddangos. Digwyddodd yr un peth yn Denmarc, hefyd, felly mae’n hynod boblogaidd mewn sawl gwlad. Y syndod mwyaf yw sut y daeth ffilm o sgets Saesneg eithaf ddi-nod yn rhan annatod o ddathliadau’r Flwyddyn Newydd mewn  gwledydd eraill.

Rhannu |