Colofnwyr
Enw i lawr
Ydi chi’n cofio’r gân honno a wnaed yn boblogaidd gan Elwyn Jones nôl ar ddiwedd y chwedegau:
‘A yw f’enw i lawr?’
Oedd, roedd hi’n hynod boblogaidd. Ond nawr fe hoffwn i addasu’r geiriau i:
‘Yw fy llun i i lawr?’
Mae e’n gwestiwn digon perthnasol y dyddiau hyn gan ei bod hi’n bosibl fod gan yr heddlu luniau ohonof fi a chi ar eu cyfrifiaduron. Does dim rhaid ein bod ni’n euog o unrhyw drosedd. Na, fe all lluniau ohonom wedi eu tynnu’n agored neu’n gudd fod ym meddiant yr heddlu.
Datgelwyd yr wythnos hon fod gan yr heddlu, ledled y DG, lyfrgell o ddeunaw miliwn o ffotograffau yn eu ffeiliau o bobl nad ydyn nhw’n sylweddoli hynny. Mae hynny, cofiwch, yn groes i’r gyfraith a heb yn wybod i’r Swyddfa Gartref nac unrhyw gorff sy’n amddiffyn ein hawliau sifil.
Golyga hyn fod miloedd ar filoedd o wynebau pobl gwbl ddiniwed a dieuog o gyflawni unrhyw drosedd ar ffeiliau’r heddlu. Ac ofn llawer o warcheidwad ein rhyddid yw y gall rhai o’r lluniau hyn gael eu defnyddio i’n rhwydo ni ar gam. Gallai rhywun yn hawdd, meddent, gael eu camgymryd am droseddwyr go iawn wrth i ffotograffau gael eu camddehongli.
Codwyd y sgwarnog ar y rhaglen ‘Newsnight’ gan gomisiynydd biometrig y Llywodraeth, Alastair MacGregor. Fe’i penodwyd ar gyfer gwarchod y defnydd o DNA a’r defnydd o olion bysedd fel tystiolaeth. Roedd e’n cydnabod fod y dechnoleg newydd yn dra defnyddiol mewn ymladd troseddwyr ond ofnai y medrai danseilio ffydd y cyhoedd yn yr heddlu. Roedd y defnydd o ffotograffau wrth adnabod troseddwyr yn agored i gamddefnydd, meddai.
A dyna ddagrau pethau. Mae’r un peth wedi digwydd o ganlyniad i hawliau’r heddlu i wrando ar alwadau teliffon. Mae yna ganllawiau pendant ar gyfer hyn. Ond clywsom droeon am ddulliau dan din o wneud hynny. Fe’u defnyddiwyd droeon mewn achosion fel Operation Julie. Yn ei gyfrol ar hanes y cyrch fe wnaeth comisiynydd yr ymgyrch, Dick Lee, gyfaddef yn agored iddo groesi’r llinell droeon. Wrth gwrs, yn y fath achos gallai ddadlau fod y cyfan wedi profi i fod yn werth chweil yn y diwedd.
Ond ble mae’r cysondeb? Pan amheuir newyddiadurwyr o glustfeinio ar alwadau ffôn rhywun, cânt eu harestio a’u herlyn. Ond ymddengys ei bod hi’n stori wahanol pan fo’r heddlu’n gwneud hynny.
Medraf siarad o brofiad yn y cyswllt hwn. Pan gynhaliwyd Operation Tân ar ddiwedd y saithdegau bu’r heddlu’n gwrando ar alwadau ffôn ledled Cymru. Ar y bore cyntaf derbyniais alwad ffôn oddi wrth gyfaill o Dalybont yn dweud fod nifer o genedlaetholwyr yno wedi eu cymryd i’r ddalfa. Euthum ati ar unwaith i gysylltu â newyddiadurwyr ledled y DG. Yn hwyrach y noson honno galwodd heddwas a oedd yn gyfaill i mi. Ei neges syml oedd:
‘Mae dy ffôn di wedi bod yn boeth iawn heddiw, gwd boi!’
Ie, gair i gall, a’r gair hwnnw wedi dod o lygad y ffynnon.
Neges Alastair MacGregor oedd y byddai archwilio’r lluniau sy’n dal ar ffeil yn medru bod yn ddefnyddiol. Ond byddai camddefnyddio’r ffynhonnell yn arwain at i’r cyhoedd golli hyder yn yr heddlu, meddai. Ac eisoes dengys ystadegau fod ffydd y cyhoedd yn nidwylledd yr heddlu wedi disgyn yn sylweddol.
Peryglon mawr y dechnoleg newydd, meddai, oedd y gallai gymryd drosodd unrhyw ymchwiliad heb dalu sylw i faterion eraill oedd yn codi. Ar ben hynny doedd dilysrwydd y dechnoleg ddim yn anffaeledig. Ac mae’r heddlu eu hunain yn cyfaddef fod y dechnoleg o adnabod wynebau, er yn ddefnyddiol, heb fod ag unrhyw fframwaith deddfwriaethol.
Yn wir, aeth yr Aelod Seneddol David Davies, sydd ddim yn adnabyddus am ei ymlyniad at ryddid sifil, mor bell â mynnu nad oes yna’r un feddalwedd sydd gant y cant yn anffaeledig.
Felly, ymunwn yn un côr i ganu:
‘A yw’n lluniau ni i lawr
Ar y bas-data mawr?’