Colofnwyr

RSS Icon
28 Medi 2014

Ffin denau rhwng llawenydd a thristwch

Mae yna stori sydd, i mi, yn ddameg. Rywle yn Llundain yn 1806 aeth dyn at y meddyg. Gofynnodd am dabledi neu ffiseg a allai ei godi o’i iselder ysbryd. Gwrthod wnaeth y meddyg. Er bod ganddo foddion a allai weithio, awgrymodd feddyginiaeth amgen i’r claf. Awgrymodd y dylai’r dyn fynd, y noson honno, i Covent Garden i weld y clown Grimaldi.

‘Fe wnes i fynd i’w weld y noson o’r blaen ac fe wnes i ddod adref gyda dagrau o chwerthin yn rholio lawr fy ngruddiau,’ meddai. ‘Ewch i weld Grimaldi. Fe wnaiff ef godi eich calon.’

Ateb y claf oedd:

‘Fi yw Grimaldi’.

Does yna ddim byd drwg nad yw’n cynnwys rhyw ddaioni, medden nhw. Cafodd hunanladdiad yr actor Robin Williams sylw ledled y byd. Ac fe haeddai hynny. Prin fod unrhyw actor mor llawn asbri a hwyl wedi ymddangos ar lwyfan neu ar sgrin erioed. Ond poenid a phoenydid Robin Williams ag iselder. Ac yn dilyn ei weithred o hunanladdiad cafwyd sylw mawr i’r afiechyd ofnadwy hwn. Yn Golwg cafwyd ymateb call a sensitif gan Cris Dafis. Dylai’r golofn honno gael ei fframio.

Mae’n ystrydeb dweud fod ffin denau rhwng llawenydd a thristwch. Ystrydeb, ydi. Ond fel llawer i ystrydeb mae’n wir. O Grimaldi i Tommy Cooper, o Tony Hancock i Eirwyn Pontshân mae iselder wedi plagio pobl ymddangosiadol ddoniol. Fel cyfaill agos i Eirwyn gallaf dystio mor isel a thywyll y teimlai weithiau. Medrai ddal cynulleidfa yng nghledr ei law a’u cael i chwerthin yn afreolus. Ond weithiau, mewn preifatrwydd, roedd bwganod y fall yn ei boeni. Gofidiai byth a hefyd am rywbeth neu’i gilydd, o brinder gwaith i sefyllfa’r iaith a’r genedl.

Y broblem gydag iselder yw ei fod e’n glefyd anweledig. Does neb ond y claf ei hunan a dau neu dri o ffrindiau agos yn sylweddoli bodolaeth yr aflwydd. Ond yn y pen draw gall arwain, fel yn hanes Robin Williams, at hunanladdiad. Marw yn dilyn effaith strôc wnaeth Eirwyn. Ond yn dilyn y trawiad, collodd yr awydd i frwydro. A hynny, fe gredaf fi, oherwydd dwyster ei iselder.

Yn ddiweddar darllenais erthygl gan Steve Platt, cyn-Athro mewn ymchwil i’r meddwl ym Mhrifysgol Caeredin. Yn ôl yr Athro Platt mae’r perygl y gwnaiff pobl sy’n dioddef o iselder neu anhwylder deubegwn (bipolar disorder) gymryd eu bywyd eu hunain yn 15 y cant. Ond y broblem fwyaf, meddai, yw anallu pobl eraill i sylweddoli difrifoldeb iselder. Ymateb amryw yw ‘Callia, er mwyn popeth!’. A chamdybiaeth lwyr yw meddwl nad yw iselder yn digwydd i bobl o gymeriad cryf. Ond, meddai’r Athro, does dim byd sydd ymhellach o fod yn wir. Does neb yn imiwn. Ac mae iselder ar ei gryfaf ymhlith yr ifanc ar henoed.

Pan mae’n digwydd i rywun ifanc, caiff ei gamddehongli’n aml fel rhywbeth i’w briodoli i’r hormonau neu’r angst sy’n nodweddiadol o’r rheiny sydd yn eu harddegau. Problem arall yw nad rhywbeth sy’n digwydd yn ebrwydd yw iselder. Gall gripian yn araf, hynny’n ei gwneud hi’n anos ei ganfod.

Oes yna feddyginiaeth? Oes, medd yr Athro. Ond mae hi’n bwysig ymyrryd ar fyrder fel y gellir rhoi cyfle i’r triniaethau hynny. Yn ffodus doedd Eirwyn ddim yn un o’r dioddefwyr gwaethaf. Ef oedd y doniolaf i mi ei gyfarfod erioed. Ond ef hefyd, ar brydiau, oedd y tristaf.

*Rwy’n cloi mewn sachliain a lludw. Ymddiheuraf o waelod calon am ddiflasu’r llythyrwr o Fethel drwy syrthio i fagl y ‘silly season’ (neu’n Gymraeg, dyddiau cŵn) wrth son am y Brifwyl. Roeddwn i mewn cwmni da dau gyd-golofnydd. Methai’r llythyrwr ddeall fy nallineb wrth fethu canlyn arwyddion; beirniadodd fy ngholofn ddifflach a’m difaterwch am ddigwyddiad diwylliannol mwya’r flwyddyn. (Mater o farn). Gofynnaf iddo, yn ddarostyngedig, am dair cymwynas. Carwn fenthyca’i ‘sat nav’ fel y medraf ganfod Meifod y flwyddyn nesaf. Carwn fenthyca’i feiro fel y gwnaf ysgrifennu’n fwy bywiog. A charwn fenthyca’i badelli pen-glin fel y medraf grwydro’r Maes yn ddidrafferth am wythnos gyfan. Mae crwydro Meysydd Eisteddfodol ers 1959 (am wythnos tan yn ddiweddar) wedi llygru fy mhatelas.

Rhannu |