Colofnwyr

RSS Icon
10 Gorffennaf 2014

Ydi pedoffilia yn is ar raddfa drwgweithredu na hacio?

Cwestiwn. Beth yw’r gwahaniaeth rhwng y sgandalau canlynol? Hillsborough, hacio ffôns, Yewtree (ymchwiliad i bedoffilia gan selebs) a honiadau o bedoffilia ymhlith gwleidyddion? Mae’r ateb yn syml. Yn achos Hillsborough sefydlwyd panel o arbenigwyr i ymchwilio i’r sgandal, a da o beth oedd hynny. Yn achos hacio ffons, ar sail cyhuddiad (celwyddog) fod y News of the World wedi dileu negeseuon o ffôn poced Milly Dowler sefydlodd David Cameron ar unwaith ymchwiliad barnwrol Leveson i foeseg y wasg. Yn achos Yewtree, ni arbedwyd unrhyw gost ar gyfer ymchwiliad a wnaeth eisoes arwain at garcharu Stewart Hall, Max Clifford a Rolf Harris.

Ond dewch at y cyhuddiadau o bedoffilia hanesyddol ymhlith gwleidyddion. Ymchwiliad barnwrol? Na, meddai Cameron, rhaid osgoi unrhyw beth a allai ragfarnu neu atal gweithredu gan yr heddlu. Ond ni wnaeth y fath ofnau ei atal rhag sefydlu Ymchwiliad Leveson.

Wnes i ddim sôn hyd yma am sgandal twyll ariannol Aelodau Seneddol ac Arglwyddi. Mae’n werth cymharu yma eto. Mae 30 o swyddogion yr heddlu yn ymwneud ag Yewtree. Bu 200 o swyddogion yr heddlu yn ymchwilio i’r sgandal hacio ffons. Faint sy’n ymchwilio i Operation Fairbank, sef y sgandal pedoffilia ymhlith Aelodau Seneddol ac Arglwyddi? Saith.

Mae hacio ffons yn weithred anfaddeuol. Ond cymharwch y 200 o swyddogion a fu - ac sydd - yn ymchwilio i’r sgandal honno a’r saith sy’n ymchwilio fel rhan o Operation Fairbank. Yn ddyddiol mae’r honiadau’n cynyddu. Ydi pedoffilia yn is ar raddfa drwgweithredu na hacio?

Fedra’i ddim cofio i ymchwiliad barnwrol gael ei sefydlu i chwilio pac ASau ac Arglwyddi fu’n twyllo’u treuliau. Do, carcharwyd dau neu dri. Ond cafwyd mewnwelediad diddorol yn ddiweddar ar y canlyniadau tebygol petai 200 o swyddogion yr heddlu wedi eu clustnodi i ymchwilio i sgandal y treuliau. Byddai cymaint â hynny, gyda’r un cyllid a wariwyd ar y sgandal hacio ffons wedi eu clustnodi ar gyfer ymchwilio i sgandal y treuliau, byddai rhwng 50 a 60 o ASau neu Arglwyddi mewn carchar heddiw.

Fel y crybwyllais yr wythnos ddiwethaf, does neb yn fwy esgymun na phedoffiliaid. Ac mae hi’n amlwg fod yna ddrwg yn y caws San Steffanaidd. Collwyd neu difethwyd 114 o ffeiliau perthnasol. A beth ddigwyddodd i’r goflen ar bedoffilia ymhlith gwleidyddion a gyflwynwyd gan Geoffrey Dickens i Leon Brittan, yr Ysgrifennydd Cartref ar y pryd yn 1983? A beth am y ffaith i’r ffeiliau a oroesodd gasglu llwch am 35 mlynedd cyn eu trosglwyddo i’r heddlu? Ond ar hyn o bryd, gwrthod wna Cameron roi’r un dyfnder o ymchwil i’r sgandal hon ag y gwnaeth i’r sgandal hacio ffôns.

Cymharwch hyn â’r ymchwiliad (llawer rhy hwyr) i sgandal Hillsborough. Yn wahanol i Ymchwiliad Chilcott i amgylchiadau mynd i ryfel ag Irac, panel yn cynnwys hen begorau San Steffan, lluniwyd panel annibynol o ffigurau diduedd fel Esgob Lerpwl, James Jones ac aelodau’n cynnwys y newyddiadurwr Peter Sissons, cyn Ddirprwy Brif Gwnstabl, cyn Ddirprwy Brif Swyddog Meddygol ac archifwyr blaenllaw.

Na, does neb fel gwleidyddion am warchod buddiannau ei gilydd. Nid yw’n ddirgelwch fod tystiolaeth Geoffrey Dickens yn cynnwys enwau fel Cyril Smith, cyn AS Rochdale a chyn ysgrifennydd preifat Margaret Thatcher, Syr Peter Morrison. Pwy oedd y lleill?

Da y dywedodd bete noir y Torïaid, Norman Tebot am foesau’r cyfnod dan sylw: ‘Bryd hynny credaf fod y mwyafrif o bobl yn credu y dylid gwarchod y Sefydliad, y System. Ac os aeth pethau o’u lle yn achlysurol, pwysicach oedd gwarchod y Sefydliad na thwrio’n rhy ddwfn. Roedd y farn honno’n anghywir bryd hynny, ac fe’i dangoswyd i fod yn arbennig o anghywir nawr yn dilyn dwysau o’r cam-drin.’

Hyd yma dim ond tri a arestiwyd fel rhan o Operation Fairbank. Faint o ddihirod wna osgoi unrhyw gosb oherwydd teyrngarwch aflan ASau ac Arglwyddi i’w gilydd, ac i’r Sefydliad? Does dim ond gobeithio, erbyn i chi ddarllen hyn o lith, y bydd CaMeron (nid am y tro cyntaf) wedi gwneud tro pedol.

Rhannu |