Colofnwyr
Twpeiddio
Dydw’i ddim yn gwrando ar Radio Cymru gymaint ag y byddwn i. Y rheswm am hynny yw absenoldeb fawr ddim sydd at fy nant. Mae’r newidiadau mawr wedi cael amser i ymsefydlu bellach. Ac ar y cyfan dydw’i ddim yn eu hoffi.
Dyn newyddion a materion cyfoes ydw i, felly mae dod â’r newyddion i ben am wyth o’r gloch y bore yn gychwyn gwael. Byddaf yn aml yn dechrau gwrando tua’r hanner awr wedi saith, a minnau rhwng cwsg ag effro. Erbyn i mi lwyr ddihuno, mae’r newyddion drosodd.
Ac mae gwrando rhwng cwsg ac effro yn medru bod yn dwyllodrus. Cymerwch un o broffwydi’r tywydd - wn i ddim beth yw ei enw - ond bob tro y’i clywaf caf yr argraff ryfedd fy mod i’n gwrando ar Charles Hawtrey, un o sêr y ffilmiau ‘Carry On’ gynt. Fe fu farw hwnnw yn 1988, ond o glywed y darlledwr arbennig hwn yn proffwydo’r tywydd caf fy narbwyllo fod yr actor bach tenoraidd ei lais yn dal yn fyw ac yn iach ac wedi dysgu Cymraeg.
Byddaf, fel arfer, yn gwrando ar Taro’r Post. Ond mae yna grafu’n rhy aml am destunau diddorol y dyddiau hyn. Pan mae’r testun braidd yn ddibwys byddaf yn treulio’r amser yn cyfrif sawl tro y bydd Gary Owen yn defnyddio ‘chmod’ ac ‘ontefe’. Pam fod angen arno i siarad mewn tafodiaith (bratiaith ddywedai rhai) yn Gymraeg tra’n siarad iaith gwbl safonol pan mae’n darlledu’n Saesneg? Ble mae’r ‘ya know’ ac ‘innit’? Testun trafod i Taro’r Post?
Rwy’n gweld eisiau rhai darlledwyr yn fawr. Rwy’n gweld colli rhaglen Nia Roberts yn y prynhawn. Nia, i mi oedd y cyflwynydd mwyaf gwrandawiadwy. Byth yn tynnu sylw ati hi ei hun. Bob amser yn parchu’r rhai a holai. Bob amser yn parchu ei chynulleidfa.
Gwelaf eisiau Heledd Cynwal hefyd, am yr union resymau. Gwn mai llenwi bwlch wnaeth Heledd. Ond fe’i llanwodd mor effeithiol fel y dylai fod wedi cael ei chadw. Dewch â hi nôl.
Codwyd yn ddiweddar hen sgwarnog recordiau Saesneg. Oes, mae yna ormod. Fy safbwynt i yw na ddylid chwarae recordiau Saesneg heb reswm da dros hynny. Ar raglen John ac Alun, er enghraifft, byddai’n amhosibl trafod hanes canu gwlad heb chwarae ambell record gan y rhaglenwyr a’r arloeswyr Americanaidd. Ond os nad oes bwrpas i gân Saesneg, pam ei chwarae?
Mae yna rai darlledwyr sy’n sefyll allan o hyd, ac fel arfer dros y penwythnos y’u clywir. Richard Rees, er enghraifft. Richard yw un o’r cyflwynwyr mwyaf di-lol ar Radio Cymru. John Hardy wedyn a’i raglen Cofio. Pan aiff John â ni nôl i’r archifau, dyna pryd yr hiraethaf am raglenni o safon fel Rhwng Gŵyl a Gwaith. A Dei Tomos. Wn i ddim sawl tro y clywaf rywun yn canmol Dei am safon ei Gymraeg. Mae’n drist meddwl fod angen gwneud hynny. Oni ddylai safon Cymraeg pob darlledwr fod cystal â safon Dei? Fyddwch chi byth yn clywed rhywun yn dweud am ddarlledwr Saesneg: ‘Jiw, mae ganddo fe Saesneg da!’
A dyna ddagrau pethe. Twpeiddio. Ddim yn unig yn Gymraeg ond yn Saesneg hefyd. ‘Dumbing down’ yw’r ymadrodd Saesneg. Ond oni fyddai’n gwneud mwy o synnwyr codi’r safon er mwyn diwyllio gwrandawyr yn hytrach na dod â’r safon i lawr er mwyn denu mwy ohonynt? Faint gwell fyddwch chi o ddenu mwy o wrandawyr oes mai gwrando ar rwtsh fydd dymuniad rheiny?
Cofiwch, fynnwn i byth fod yn sgidiau Bethan Powys. Mae ganddi dasg amhosibl. Hi yw David Moyes Radio Cymru. Ond yn wahanol i hwnnw mae hi’n haeddu amser i ddyfalbarhau. Un fantais yw’r ffaith nad yw hi’n gorfod llenwi sgdiau rhyw Alex Ferguson o ragflaenydd. Ond mae hi’n ferch digon call i wybod be ydi be. Clod iddi am fentro.
I gloi, clod eto lle mae clod yn ddyledus. Ar ddamwain y gwnes i glywed gwasanaeth Y Pasg brynhawn dydd Gwener y Groglith. Y negesydd oedd Tecwyn Ifan, a dyma beth oedd gwasanaeth syml ond grymus. Hoffais yn fawr ei ddyfyniadau, rheiny’n amrywio o Twm Morys i Leonard Cohen. Thema’r dyfyniadau oedd golau’n treiddio drwy dyllau mewn map a thrwy graciau.
Diolch, Tecs, a diolch Radio Cymru am hanner awr eneiniedig ac eneidiog.