Colofnwyr

RSS Icon
26 Medi 2013

Morwyn fach a brenhines yr aelwyd

Dywed hen wireb nad oes modd mwynhau’r melys heb ddioddef hefyd y chwerw. Hynny yw, mae i bob pleser ei bris. Ie, mêl a wermod. A phrofais hynny hyd yr eithaf yr wythnosau diweddar hyn.

Daeth yn amser eto i adael am wyliau ar Ynys Agistri, Jên, Ems a minnau. Ar y bore y gadawodd Jên a minnau am Gaerdydd i ddechrau, fe esboniodd Gwen, chwaer i mi wrth Betty, chwaer arall ein bod ni’n mynd ar wyliau. Ateb direidus Betty oedd, ‘Meindia di dy fusnes!’

Bu Betty’n dioddef o salwch Parkinson ers degawd. Ond roedd hi mor gryf â llew. A phan adawsom ni chefais unrhyw arwydd ei bod hi’n nesáu at ei diwedd. Ond dridiau i mewn i’n gwyliau ffoniodd Gwen gyda’r neges fod Betty wedi gwaelu. Ar unwaith dyma geisio ffonio am le ar awyren gynharach na’r un a fwriadwyd.

Am ddeuddydd bu Dylan yn ffonio o gwmpas. Ond yn ofer. Felly hefyd ferch y gwesty, Maria. Roedden ni wedi prynu’r tocynnau gwreiddiol gan gwmni BA. Ond doedd dim symud ar y rheiny. Y daith rataf fedren nhw’u chynnig oedd £800 yr un. Hynny ar ben y £340 yr un yr oeddem eisoes wedi ei dalu. Gwnaed galwad arall. Erbyn hyn roedd y pris yn fil o bunnau’r un.

I’r adwy daeth Sais sy’n treulio hanner y flwyddyn mewn tŷ haf ar yr ynys. Diplomat yw hwn, a medr dynnu llinynnau. Llwyddodd hwnnw i gael tocynnau i ni ar Lufthansa am ymron £450 yr un. Ond roedd yna bris ychwanegol arall i’w dalu. Byddai gofyn i ni hedfan i Munchen, newid awyren ac yna hedfan ymlaen i Heathrow.

Ond dyma dderbyn y cynnig a hedfan adre dridiau’n gynnar. Roedd cwmni Lufthansa’n ddifai. Cawsom daith gysurus. Er i Rob, ffrind mawr i ni o gyrion Caerdydd ein rhybuddio y byddai’r awyren yn cymryd gwyriad. Y rheswm? Er mwyn bomio Gwlad Pwyl ar y ffordd! Diolch am gael chwerthin yng nghanol gofid.

Bu’n daith hir. Ymron awr ar y cwch i Piraews. Ymron awr wedyn mewn tacsi i’r maes awyr. Dwyawr a hanner o hedfan o Athen i Munchen. Awr a deugain munud o Munchen i Lundain. Cylchynu Heathrow am hanner awr yn disgwyl yr hawl i lanio. Yna taith ddwy awr a hanner yng nghar Dylan i Gaerdydd. A dwyawr a chwarter o Gaerdydd adref yn ein car ni. Cyraeddasom toc wedi deg ar y nos Lun. Roedd Betty, druan yn anymwybodol. Ond yn wyrthiol, agorodd ei llygaid pan glywodd fy llais.

Daliodd ei thir am ddeuddydd arall. Bu farw fel diffodd fflam yn hwyr ar y nos Fercher. Roedd hi’n 86. Diolchais i Dduw am gael bod yno i fod yn dyst i’w hanadliad olaf. Anodd iawn fu ffarwelio ag un a fu’n chwaer ac yn fam ar hyd y blynyddoedd. Betty wnaeth gynnal yr aelwyd ar hyd cyfnod o ymhell dros drigain mlynedd wedi i Mam gael ei chymryd yn sâl. Ond er mai hi oedd y forwyn fach, hi hefyd oedd brenhines yr aelwyd.

Er iddi gynnal y cartref gyhyd, ni dderbyniai geiniog o fudd-dal. Ddim tan iddi gael ei chanfod yn dioddef â’r Parkinsons. Ond wnaeth hi ddim erioed gwyno. Un felly oedd hi. Ni fodlonai dderbyn unrhyw beth am ddim. Dim cardod. Ni dderbyniai geiniog os na wnaeth ei hennill. Mor wahanol i’r genhedlaeth hunanol sydd ohoni.

Un peth y byddaf yn dragwyddol ddiolchgar amdano yw’r ffaith iddi gael marw yn y cartref a fu’n balas iddi am y rhan fwyaf o’i hoes. Do, bu farw yng nghanol cylch o gariad yng nghwmni ei brawd a’i thair chwaer, y rheiny ohonom sydd bellach ar ôl.

Ond fedra’i ddim maddau i gwmnïau hedfan ariangar a digydymdeimlad. Yn arbennig BA, y cwmni y gwnaethom ei ddefnyddio’n wreiddiol. Elwa ar anffodusion yw hyn. Dim llai na hynny. O wybod fod yna reidrwydd arnom i hedfan adre, aethpwyd ati i geisio gwasgu pob ceiniog bosib allan ohonom, fel gwasgu lemwn yn sych. Ddim bod arian yn cyfrif yn yr achos hwn. Fe fyddwn wedi bod yn barod i dalu unrhyw faint er mwyn bod adre mewn pryd. A dyna a wyddent.

Gwnaethom yn fawr o’n gwyliau talfyredig. Cawsom gwrdd â hen ffrindiau. Ac fe wnes, yn ôl fy arfer, gynnau cannwyll er cof am hen gyfeillion ymadawedig yn eglwys fechan Santa Barbara. A dweud gair bach o weddi dros Betty yn y gwyll a led-oleuwyd gan fflam grynedig y gannwyll fregus. Ac os myn Duw, fe fyddwn ni nôl yn Agistri eto’r flwyddyn nesaf. Ond mae un peth yn sicr. Wna’i byth eto hedfan gyda BA.

Rhannu |