Colofnwyr

RSS Icon
25 Mawrth 2011
Lyn Ebenezer

Dai oedd y catalydd yn y criw

MAE yna rai nad oes arnynt angen cyfenw. Dyna’i chi Peter Goginan, Dai Llanilar, Ifan Tregaron a John Bwlchllan. Un arall oedd Dai Ffostrasol. A rhyfedd yw gorfod defnyddio’r gair ‘oedd’ i ddisgrifio Dai.

Dai Thomas oedd e, er na wnâi neb ddefnyddio’r cyfenw. Er mai ef oedd y tawelaf, ef oedd yr amlycaf o’r criw a gaent eu hadnabod fel Bois Ffostrasol. Hwy, wrth gwrs, oedd prif grŵpis Edward H. Ble bynnag y perfformiai’r band, yno y byddai Bois Ffostrasol. Teithient mewn hen fen, ac ynddi y byddent yn cysgu (pan wnaent gysgu). Eu nodwedd o ran gwisg oedd clymu macyn coch am eu gyddfau.

Priodolir amryw o gampau i Fois Ffostrasol. Roedden nhw’n fedrus iawn mewn bathu geiriau ac ymadroddion. Nhw glywais i gyntaf yn galw glanhawr carpedi yn folgi baw. Nhw glywais i gyntaf yn cyfeirio at ganabis fel baco digri.

Dai oedd y cymeriad mwyaf yn eu plith er mai ef oedd y tawelaf. Ond yn ei dawedogrwydd oedd ei hynodrwydd. Ni ddwedai rhyw lawer, ond byddai pob gair a ddeuai o’i enau, os yn aml yn aneglur, yn bwrpasol. Clywais gyfeilles i mi’n dweud iddi unwaith stopio i roi lifft i Dai ychydig y tu allan i Aberystwyth. Yn ystod y siwrnai i Ffostrasol, ni wnaeth ond tri sylw. Fel hyn yr aeth y daith. Stop, agor y ffenest a gofyn, ‘Ti’n moyn lifft, Dai? Atebodd Dai, ‘Odw’. Tua Llannon dyna ofyn, ‘Ti’n cadw’n dda, Dai?’ Dyma Dai yn ateb, ‘Odw’. O gyrraedd Ffostrasol dyma’r ferch yn gofyn, ‘Yma wyt ti am fynd lawr, Dai?’ A Dai’n ateb gyda dau air y tro hwn, ‘Ie. Diolch.’…….

 

……..Hwyl i ti’r hen foi, a diolch am dy gwmni tawel. Boed i ti fod yn rhan dragwyddol o’r freuddwyd roc a rôl.

I ddarllen mwy CLICIWCH YMA

Rhannu |