Colofnwyr
Rwy’n fwytäwr cig cwbl ddiedifar
Pob parch i lysfwytawyr, ond rwy’n un sy’n hoffi cig. Ddim gormodedd, wrth gwrs. Ond byddai byw heb gig yn annychmygol. Cofiwch, fel pob plentyn arall nôl yn y pedwardegau, fedrwn i ddim goddef diwrnod lladd mochyn. Fe ddeuai pob mochyn a fegid gan Nhad yn anifail anwes. Byddwn yn ei farchogaeth fel rhyw Gordon Richards gwallgof. Wedi’r lladd, wrth gwrs fi fyddai Wally Barnes yn cicio’r bêl yn erbyn wal nes iddi, yn ddieithriad roi un ochenaid olaf a cholli ei phwff.
Rwy’n fwytäwr cig cwbl ddiedifar. Does dim byd yn well gen i na stecen wedi ei choginio ar y tu allan yn unig. Fedra’i ddim deall pobol sy’n mynnu stecen wedi’i choginio’n drylwyr. Rhowch i mi un sy’n dal yn binc y tu mewn. Bron na wnawn i, chwedl yr hen ddywediad, archebu bustach a gofyn i’r cogydd wneud dim mwy na thorri cyrn y creadur, sychu ei dîn a’i roi i eistedd ar fy mhlât.
Mae’n ddrwg gen i frifo teimladau’r tyner eu calon, ond fu lladd a bwyta creadur ddim yn broblem i mi o ddyddiau llencyndod. Byddwn wrth fy modd yn hel cwningod, eu blingo a’u bwyta. Byddwn yn gweithio bob dydd Sadwrn a gwyliau y tu ôl i gownter siop gigydd Dan fy mrawd. Dysgais drin a thorri cig. Dysgais gyfrinachau’r gwahanol doriadau. Byddwn yn mynd gyda Dan i’r lladd-dy yn Aberystwyth bob bore dydd Llun lle byddai’n archebu ei fustych, ei ŵyn a’i foch. Dysgais yn ifanc i wahaniaethu rhwng cig da a chig gwael.
Mae ansawdd a hylendid y cig yn hollbwysig. Wna’i ddim prynu cig ond oddi wrth gigydd fyddai’n ei adnabod. Wfft i’r archfarchnadoedd hynny sy’n gwerthu cig o wledydd tramor. O ran cig oen, yng Nghymru mae’r cig gorau yn y byd. Rwy wrth fy modd gyda byrgyrs cig oen ar yr amod eto fy mod i’n adnabod y cigydd a’u paratôdd.
Ie, cefnogwch eich cigydd lleol. O beidio â gwneud hynny gallwch fod yn bwyta cig ceffyl heb i chi sylweddoli hynny. Yn wir, cig unrhyw beth, o lama i lemwr. Wnawn i byth bythoedd fwyta byrgyr a werthir o un o’r faniau amheus hynny y tu allan i gemau mawr pêl-droed neu rygbi. Gwell fyddai gen i glemio.
A nawr dyma ni wedi cael y Frankenburger, sef y byrgyr cyntaf erioed i’w wneud mewn labordy. A hynny ar gost £250,000. Dyma gam diweddaraf dynoliaeth tuag at goncro natur a herio deddfau bioleg. Dyma ymestyn technoleg, meddai’r gwyddonwyr. Dyma’r ateb i’r prinder bwyd sydd ar y gorwel. Bydd y byrgyr artiffisial yn bwydo dynoliaeth gan – ar yr un pryd - gwtogi ar faint y tiroedd sydd eu hangen ar gyfer magu creaduriaid stôr.
I ddarllen mwy CLICIWCH YMA