Colofnwyr
Profiad gwahanol mewn dinas wallgo’
DO, bûm yn y gêm yn y Stadio Flaminio yn Rhufain ond nid wyf am adrodd hanes honno fel y gwnes ddwy flynedd yn ôl. Eithr wedi i ni aros am rai dyddiau yn Lanuvio – tua thri chwarter awr o Rufain ar y trên, a chael lle eithriadol o dda yn ôl yr arfer, aeth y pedwar ohonom am ddinas Napoli ar y dydd Llun wedi’r gêm.
Cychwynnwyd ar ganol y bore, gyda Franco, gŵr y gwely a brecwast, yn ein danfon at y trên. Yna teithio i Napoli, taith o ryw ddwy awr a hanner a dilyn y cyfarwyddiadau i’r gwely a brecwast yn y fan honno drwy ddefnyddio’r metro a’r ‘funiculare’ – sef y trên i fyny ochr y bryn y saif rhan o’r ddinas arno. Yn ystod y daith o’r orsaf fe welsom yn fuan nad oedd hon yn debyg i unrhyw ddinas arall y bûm ynddi yn yr Eidal. Roedd hi’n hollol wallgo’, gyda cheir a motobeics yn gyrru’n wyllt, pobl yn gweiddi a phob man yn ardal yr hen dref yn sbwriel ac yn faw ci o dan draed.
Wedi cyrraedd y llety, oedd â golygfa hardd yn edrych dros y ddinas tua’r môr a llosgfynydd Vesuvius, gwelsom fod y perchennog, Raffaele, yn gymeriad hollol unigryw, gyda’r broblem leiaf yn gwneud iddo arddangos ei sgiliau dawnsio gwerin, gan neidio i fyny ac i lawr a chwifio ei freichiau fel petai’n ceisio hedfan.
I ddarllen gweddill y golofn CLICIWCH YMA